Adolygiad o Gartrefi Gofal
Mae gwneud yn siŵr bod gan bobl hŷn yr ansawdd bywyd gorau yn un o brif flaenoriaethau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Dyna pam ei bod yn cynnal Adolygiad i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Dilynwch y dolenni isod i ddysgu mwy am Adolygiad Gofal Preswyl y Comisiynydd:
Cyflwyniad gan y Comisiynydd
Adroddiad yr Agolygiad
Anghenion Gweithredu
Y Camau Nesaf
Cofrestr o argymhellion
Datganiad y Comisiynydd
Datganiad i'r Wasg
Bydd y Comisiynydd yn Adolygu’r ddarpariaeth i ganfod a oes gan bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal ansawdd bywyd da drwy edrych ar ffactorau fel iechyd corfforol a seicolegol, perthnasoedd cymdeithasol, amgylchedd ac ysbrydolrwydd y cartref gofal.
Nod cyffredinol yr Adolygiad yw sicrhau bod ansawdd bywyd wrth wraidd gofal preswyl yng Nghymru.
Drwy gyfrwng yr Adolygiad, hyfed mae’r Comisiynydd yn ceisio sicrhau bod:
- Y cyrff hynny sy’n gyfrifol am reoleiddio, arolygu, comisiynu a darparu gofal yn meddu ar ddealltwriaeth lawn o fywydau pobl hŷn mewn cartrefi gofal preswyl.
- Pobl hŷn, perthnasau, gofalwyr, staff, cyrff cyhoeddus, darparwyr preifat ac eraill yn ymwybodol o beth yn union yw ansawdd bywyd a gofal da.
- Ansawdd bywyd a gofal yn cael eu cydnabod fel y meincnod hanfodol ar gyfer darparu ac asesu gofal preswyl yng Nghymru.
- Camau’n cael eu cymryd sy’n arwain at wella ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn.
Wrth edrych ar ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn mewn gofal preswyl, bydd y Comisiynydd yn cymryd diddordeb penodol yn y grwpiau canlynol: siaradwyr Cymraeg, pobl sy’n byw â dementia, a phobl â nodweddion gwarchodedig.