Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gyfraith yng Nghymru. Ei nod yw sicrhau bod y gofal a’r cymorth rydych yn eu cael yn diwallu eich anghenion, gan eich helpu i fyw’r bywyd a ddewiswch ac i aros yn annibynnol yn hirach. Daeth i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae fideo byr am amcanion y Ddeddf ar gael yma.
Mae ein taflen, Cael yr help sydd ei angen arnoch gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, yn rhoi crynodeb byr o brif ddyletswyddau’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Gallwch weld y daflen hon yma. Mae fersiwn Iaith Arwyddo Prydain o’r daflen hefyd ar gael yma.
Pecyn Cymorth yw Llywio’ch Ffordd Trwy Wasanaethau Cymdeithasol, sy’n cynnwys cyfres o daflenni gwybodaeth yn darparu manylion pellach am rannau o’r Ddeddf. Os hoffech chi gael copi o unrhyw un o’r taflenni gwybodaeth wedi’u hargraffu, cysylltwch â ni.
Taflen wybodaeth 1: Cyflwyniad i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
Taflen wybodaeth 2: Llais a Rheolaeth
Taflen wybodaeth 3: Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Taflen wybodaeth 4: Asesu Eich Anghenion
Taflen wybodaeth 5: Diwallu Eich Anghenion
Taflen wybodaeth 6: Talu am Ofal
Taflen wybodaeth 7: Amddiffyn Pobl
Taflen wybodaeth 8: Beth allwch chi ei wneud os nad ydych yn cael yr help sydd ei angen arnoch?