Canllawiau i’r cyfryngau ar gyfer gohebu ynghylch heneiddio a henaint

Yn y DU, oedraniaeth yw’r math mwyaf cyffredin o wahaniaethu, gydag un o bob tri o bobl yn profi rhagfarn neu wahaniaethu ar sail oedran.  

Mae ymchwil yn dangos bod y cyfryngau’n aml yn defnyddio stereoteipiau sy’n gysylltiedig ag oedran ac yn aml yn portreadu pobl hŷn a heneiddio fel cyfnod o ddirywiad ac eiddilwch. Mae gwahaniaethu ar sail oedran yn y cyfryngau hefyd i’w weld mewn naratifau am annhegwch rhwng y cenedlaethau sy’n rhoi’r argraff fod pobl hŷn yn gyfoethog ar draul grwpiau iau, er bod miliynau o bobl hŷn yn byw o gwmpas y llinell dlodi neu oddi tani. Mae menywod hefyd yn wynebu ergyd ddwbl yn sgil gwahaniaethu ar sail rhyw ac oedran yn y cyfryngau. 

Er bod gwahaniaethu ar sail oedran yn aml yn cael ei ystyried yn llai niweidiol na mathau eraill o wahaniaethu, mae normaleiddio ac atgyfnerthu agweddau sy’n gwahaniaethu ar sail oedran yn amlygu arferion gwahaniaethol mewn bywyd bob dydd sy’n effeithio ar ein hiechyd a’n lles mewn sawl ffordd, gan gyfyngu ar ein cyfleoedd i gael gwaith a mynediad at ofal iechyd. 

Rydyn ni’n mynd yn fwy – nid llai – amrywiol wrth fynd yn hŷn (ee o ran incwm, iechyd, cysylltiadau cymdeithasol). O ystyried eu rôl mewn bywyd cyhoeddus a’u pŵer i ddylanwadu ar agweddau a barn, mae gan y cyfryngau ddyletswydd i sicrhau bod profiadau pobl hŷn yn cael eu hadlewyrchu’n fwy cywir yn y straeon rydyn ni’n eu gweld a’u darllen yn y newyddion bob dydd.

Canllawiau i’r cyfryngau ar gyfer gohebu ynghylch heneiddio a henaint