Newyddion

Mae Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru yn hollbwysig i bobl hŷn

26.11.21

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Mae’n hollbwysig bod Ymchwiliad Cyhoeddus i edrych ar y camau gweithredu a’r penderfyniadau a wnaethpwyd gan gyrff cyhoeddus a gwasanaethau yng Nghymru mewn ymateb i bandemig Covid-19, a’r effaith a gafodd y rhain ar fywydau pobl hŷn, yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion allweddol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu galluogi a’u cefnogi i gymryd rhan a chael eu clywed, a bod eu barn a’u profiadau’n cael eu gwerthfawrogi, a’u bod yn gallu rhannu eu profiadau yn eu cymunedau eu hunain ac yn eu dewis iaith.

“Yn fy marn i, y ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau’r canlyniadau hyn i bobl hŷn a’u teuluoedd yw trwy gynnal Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru a all roi sylw priodol i benderfyniadau a wnaethpwyd yng Nghymru, a hoffwn ddiolch i’r bobl hŷn a’u sefydliadau sydd wedi ymgysylltu â mi a rhannu eu barn ynglŷn â pham y maent yn teimlo bod Ymchwiliad penodol i Gymru yn bwysig, gan fod hynny wedi fy helpu i ddod i’r casgliad hwn.

“Rwy’n cydnabod bod llawer o elfennau o’r ymateb i’r pandemig lle gwnaethpwyd penderfyniadau gan Lywodraeth y DU, neu lle cafodd penderfyniadau Llywodraeth Cymru eu dylanwadu’n sylweddol gan y rhai a wnaethpwyd yn San Steffan, ond yn y pen draw, cafodd penderfyniadau am y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol, addysg a chyfyngiadau a roddwyd ar ein bywydau bob dydd eu gwneud gan Weinidogion Cymru, ac o ganlyniad rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn atebol am y penderfyniadau hynny, boed yn rhai cadarnhaol neu negyddol.

“Bydd cynnal Ymchwiliad Cyhoeddus penodol i Gymru yn sicrhau bod y Cadeirydd a’r panel a fydd yn gyfrifol am yr Ymchwiliad yn deall datganoli a nodweddion diwylliannol a gwleidyddol arbennig Cymru, yn ogystal â chynrychioli amrywiaeth ein gwlad a bod yn hygyrch mewn ffordd na allai un Ymchwiliad ar gyfer pob rhan o’r DU fod.

“Bydd hyn yn hollbwysig os ydym am glywed yn uniongyrchol gan bobl hŷn a’u hanwyliaid, y mae llawer ohonynt wedi colli rhywun, a rhoi cyfle i’w storïau gael eu clywed. Bydd galluogi pobl i rannu eu profiadau a sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn rhan sylfaenol o Ymchwiliad, a bydd yn rhan o’n hadferiad cyfunol o’r cyfnod dychrynllyd hwn.

“Yr unig ffordd realistig o gyflawni hyn, yn ogystal â sicrhau bod Ymchwiliad yn canolbwyntio ar hawliau dynol pobl yw trwy Ymchwiliad penodol i Gymru. Mae gan Gymru hanes balch o fod yn genedl sy’n hybu hawliau ei dinasyddion ac mae’n hollbwysig ein bod yn gallu deall sut y gallai’r hawliau hyn fod wedi’u cyfyngu neu eu colli.

“Gwn fod gaeaf anodd o’n blaenau, ac er nad wyf am roi mwy o faich a phwysau ar ein gwasanaethau iechyd a gofal, rwy’n credu mai dyma’r amser i edrych ar delerau Ymchwiliad, cyn dechrau casglu tystiolaeth yn y gwanwyn. 

“Yn ogystal â sicrhau bod atebolrwydd am y penderfyniadau a wnaethpwyd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill yng Nghymru, a’r ffyrdd yr effeithiodd y rhain ar fywydau pobl hŷn, bydd Ymchwiliad penodol i Gymru yn helpu i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu, bod ymarfer da a wnaeth wahaniaeth cadarnhaol yn cael ei gydnabod, ac yn y pen draw, bod pobl hŷn yn gweld newid.

“Rhaid inni sicrhau felly nad ydym yn colli cyfleoedd posibl i ganfod lle mae angen gwelliannau – i wneud ein gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy gwydn a chynaliadwy, er enghraifft, neu i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u cynnal – wrth i ni fyw gyda’r feirws a’i ganlyniadau yn y tymor byr a hwy.

“Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i fynegi fy marn ynglŷn â’r mater hwn ac rwy’n aros am ateb ar hyn o bryd.”

Y DIWEDD