Gofal Urddasol? Canlyniad yr adolygiad - Dychweliad y metron
03.2.12
Mae’r Comisiynyndd yn falch iawn i weld y bydd swydd metron yn dod nôl i’r ward yn rhai o ysbytai’r Gogledd ac rwy’n croesawu’r newyddion mai Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fydd y Bwrdd cyntaf i ailgyflwyno’r swydd ganolog yma a fydd yn siŵr o gysuro cleifion.
Dywedodd Ruth Marks: Fel rhan o’r argymhellion yn fy Adolygiad ‘Gofal gydag Urddas’ y llynedd, sef adolygiad i ystyried a oedd pobl hŷn yn cael eu trin ag urddas a pharch yn yr ysbyty, fe danlinelles i fod angen arweinyddiaeth gryfach ar y ward er mwyn hybu diwylliant o urddas a pharch. Mae’n rhaid inni gofio mai hawliau dynol sylfaenol yw’r rhain a bod rhaid eu hymgorffori nhw yn y gwaith o gyflwyno gwasanaethau iechyd a gofal.
Rwy’n edrych ymlaen at weld y gwahaniaeth y bydd metronau’n ei wneud ar y wardiau a’r manteision i bobl hŷn yr ardal.
Betsi Cadwaladr Bwrdd Iechyd yn dod yn ôl metronau - mwy o wybodaeth