Dod â’r celfyddydau, diwylliant a threftadaeth ynghyd i wneud Cymru yn lle gwych i heneiddio
Mae’r Rhwydwaith Diwylliant Oed-Gyfeillgar yn fenter genedlaethol a gafodd ei chreu drwy gydweithrediad rhwng Amgueddfa Cymru – National Museum Wales, Age Cymru – Gwanwyn, Cyngor Celfyddydau Cymru, CADR (Y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia) a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Mae’r rhwydwaith yn dod ag unigolion a sefydliadau at ei gilydd o’r sectorau celfyddydol, diwylliannol a threftadaeth ledled Cymru er mwyn rhannu sgiliau, gwybodaeth ac arferion da.
Ar hyn o bryd, rydym yn gweithio gyda’r Rhwydwaith Diwylliant Oed-Gyfeillgar er mwyn datblygu ffyrdd ymarferol ac arloesol o wella bywydau a lles pobl hŷn.
Dolenni:
Mae rhagor o wybodaeth am y Rhwydwaith Diwylliant Oed-Gyfeillgar yma