Galluogi pawb i heneiddio’n dda
Mae heneiddio’n dda – ‘ychwanegu bywyd at flynyddoedd, nid blynyddoedd at fywyd yn unig’ – yn bwysig i bob un ohonom, ac i’n gwlad ar y cyfan. Dylai fod yn rhywbeth y gall pawb yng Nghymru ei wneud. Fe ddylid ystyried pobl hŷn yn rhan hollbwysig o gymdeithas a dylen nhw allu cael rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan yn ein heconomi a’n cymunedau, ac i gyfrannu atynt.
Ond, mae llawer o bobl yn methu â gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae problemau â thrafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, yn golygu bod rhai pobl hŷn yn methu mynd allan o’r tŷ – er mwyn gwirfoddoli, treulio amser gyda theulu a ffrindiau, gofalu am eraill, neu er mwyn cyrraedd apwyntiadau meddygol. Mae llawer o bobl hŷn – 60% o’r bobl sydd dros 75 oed – sydd heb fynediad at y rhyngrwyd, ac maent â risg o gael eu gadael ar ôl wrth i fwy a mwy o wasanaethau symud i fod yn wasanaethau ar-lein.
Nid yw rhai o’r bobl hŷn sydd dlotaf yn derbyn y gefnogaeth ariannol y mae ganddynt hawl iddo. Gallai derbyn y gefnogaeth hon, e.e. Credyd Pensiwn, wneud newid cadarnhaol i’w bywydau. Roedd £170 miliwn o Gredyd Pensiwn na chafodd ei hawlio yng Nghymru yn 2018.
Byddaf yn gweithio er mwyn gwneud Cymru’n genedl o gymunedau sy’n ystyriol o oedran lle mae pobl hŷn yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a’u parchu, ac yn gallu:
-
mynd allan o’r tŷ
-
fforddio gwneud y pethau maen nhw’n dymuno eu gwneud
-
byw bywydau iach a gweithgar
-
bod yn ymwybodol o’r wybodaeth ddiweddaraf
-
dweud eu dweud
Bydd y comisiynydd yn gweithredu i:
- Annog a chefnogi sefydlu cymunedau sy’n ystyriol o oedran ledled Cymru
- Galluogi mwy o bobl gyrraedd y llefydd y maen nhw eisiau mynd, ac i allu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw
- Gwella mynediad at gyngor a chymorth i heneiddio’n dda
- Gwella mynediad pobl hŷn at y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt er mwyn heneiddio’n dda
- Gwella mynediad at y cymorth ariannol sydd ei angen ar bobl hŷn er mwyn heneiddio’n dda
- Grymuso mwy o bobl hŷn i greu newid
Ceir disgrifiad isod o fanylion y gwaith sydd ar y gweill yn ystod 2021-22:
O ystyried y ffyrdd penodol mae’r pandemig wedi effeithio ar bobl hŷn a’r adnoddau a’r gwasanaethau cymunedol sy’n aml yn achubiaeth iddynt, bydd angen canolbwyntio’n sylweddol ar alluogi pobl i heneiddio’n dda ac ar wneud ein cymunedau’n fwy ystyriol o oedran, a fydd yn hanfodol i feithrin hyder ymysg pobl hŷn i ailgysylltu â chymdeithas, ac i gefnogi ail-alluogi ac adsefydlu.
Mae’r ymateb i’r pandemig yng Nghymru, yn enwedig ar lefel leol, wedi dangos bod sylfeini cadarn i adeiladu arnynt. Rhaid i ni sicrhau yn awr y bydd y polisïau a’r newidiadau a wneir wrth i ni symud tuag at adferiad, yn arwain at welliannau ymarferol ym mywydau pobl hŷn.
Bydd y Comisiynydd yn:
- Gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod pobl hŷn yn cael cymorth i ailadeiladu neu adfer eu hiechyd a’u lles, wrth i ni bontio drwy’r pandemig
- Arwain gwaith gyda phartneriaid ledled Cymru i wneud cymunedau’n fwy ystyriol o oedran, gan gynnwys cefnogi awdurdodau lleol i wneud cais am gydnabyddiaeth Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer cymunedau sy’n ystyriol o oedran
- Hyrwyddo cynhwysiant digidol ymysg pobl hŷn, hyrwyddo arferion da a chyhoeddi canllawiau i gyrff cyhoeddus, i sicrhau bod pobl hŷn nad ydynt ar-lein yn gallu cael gafael ar y wybodaeth a’r cymorth sydd eu hangen arnynt.