Safonau’r Gymraeg
Ers 25 Ionawr 2017, mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymrwymo i gydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, fel y nodir gan Lywodraeth Cymru dan Adran 44 o Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.
Mae'r safonau’n nodi nifer y ffyrdd y mae’n rhaid i'r Comisiynydd ddarparu a hyrwyddo gwasanaethau drwy’r Gymraeg a hwyluso ac annog y defnydd ohoni yn y gweithle.
Mae Safonau'r Gymraeg sy’n berthnasol i'r Comisiynydd wedi’u rhannu’n bedwar categori gwahanol:
- Cyflenwi Gwasanaethau
- Llunio Polisi
- Gweithredu
- Cadw cofnodion
Mae’r Safonau y mae’n rhaid i’r Comisiynydd gydymffurfio â nhw ar gael yma.
Mae’r Comisiynydd wedi nodi sut bydd y sefydliad yn cydymffurfio â’r Safonau, sydd ar gael yma.
Roedd y Comisiynydd yn arfer amlinellu sut byddai’r sefydliad yn defnyddio’r Gymraeg drwy Gynllun Iaith Gymraeg, ac adroddid ynghylch hwnnw bob blwyddyn. Bydd y Comisiynydd yn parhau i lunio’r adroddiadau blynyddol hyn mewn perthynas â Safonau'r Gymraeg.
Adroddiadau Blynyddol
Defnyddio'r Gymraeg yn Fewnol
Mae'r polisi hwn yn nodi trefniadau mewnol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar gyfer defnyddio'r Gymraeg yn y gweithle ac yn manylu ar ein hymrwymiad i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith.
Cwynion ynglŷn â'r Gymraeg
Bydd unrhyw gŵyn yn ymwneud â chydymffurfiaeth y Comisiynydd â Safonau'r Gymraeg neu fethiant ar ran y Comisiynydd i ddarparu gwasanaeth dwyieithog yn cael ei adrodd i'r Comisiynydd a bydd yn dilyn trefnu gwyno’r Comisiynydd.
Mae gennych hawl hefyd i gyfeirio unrhyw gwynion am y Gymraeg i Gomisiynydd y Gymraeg.
Pobl Hŷn a’r Gymraeg
Mae’r Gymraeg yn chwarae rhan amlwg ym mywydau llawer o bobl hŷn ledled Cymru. Mae’n hollbwysig fod y Comisiynydd yn gallu cynnig gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn yn eu dewis iaith.
Mae 19.6% o bobl dros 65 oed yn gallu siarad Cymraeg, ac mae chwarter (25%) yn gallu deall Cymraeg. Mae’r ffigurau hyn yn debyg i grwpiau oed iau.
Gan ystyried yr holl sgiliau iaith: dywedodd 19% o bobl dros 65 oed eu bod yn gallu darllen Cymraeg, a dywedodd 16% o bobl dros 65 oed eu bod yn gallu ysgrifennu Cymraeg.