Gofal gydag Urddas? Adolygiad o Urddas a Pharch mewn Ysbytai yng Nghymru
Dangosodd gweithgareddau ymgysylltu â phobl hŷn, eu teuluoedd a rhanddeiliaid ym mhob rhan o Gymru bod pryder cynyddol ynghylch y ffordd mae pobl hŷn yn cael eu trin yn yr ysbyty, yn arbennig o safbwynt parch ac urddas.
O ganlyniad, cynhaliodd y Comisiynydd ei Hadolygiad ‘Gofal gydag Urddas?’ gan ddefnyddio ei phwerau cyfreithiol am y tro cyntaf, i nodi meysydd allweddol yr oedd angen eu gwella a nodi nifer o argymhellion ar gyfer newid yng nghyswllt y GIG yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol a chyrff cyhoeddus eraill.
Yr oedd disgwyl i’r cyrff yr oedd yr argymhellion yn berthnasol iddynt lunio cynlluniau gweithredu manwl yn nodi’r newidiadau yr oeddynt am eu gwneud i sicrhau bod y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu rhoi ar waith. Yn ogystal, ymgymerodd y Comisiynydd â rhaglen waith ddilynol fanwl oedd yn cynnwys ymgysylltu â chleifion a'u teuluoedd i sicrhau bod y cynlluniau gweithredu yn cael eu rhoi ar waith a bod y gwelliannau yn cael eu cynnal.
Dilynwch y dolenni isod i gael gwybod mwy am yr Adolygiad a’r canfyddiadau.
Amserlen / Methodoleg yr Adolygiad
Panel Ymholiadau
Yr Adroddiad ‘Gofal gydag Urddas?’
Cofrestr Ymatebion
Adroddiadau Dilynol
Y Newyddion diweddaraf