Angen Help?

Hanes

Rolling shelves in a library
Ruth Marks, previous Older People's Commissioner for Wales
2008-12

Ruth Marks

Ruth Marks oedd Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru – yn wir, y Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf yn y byd – a dechreuodd yn ei swydd yn 2008.

Ar ôl sefydlu Swyddfa’r Comisiynydd, roedd gwaith Ruth yn canolbwyntio ar amrywiaeth o faterion allweddol ar gyfer pobl hŷn, gan gynnwys urddas a pharch mewn ysbytai, amddiffyn pobl hŷn rhag cael eu cam-drin, a sicrhau bod pobl hŷn yn gallu lleisio eu barn.

Cyhoeddiadau allweddol 2008-2012:

Cynllun Strategol 2010-13

Gofal gydag Urddas

Gofal gydag Urddas: Blwyddyn yn ddiweddarach

Gofal gydag Urddas: Dwy Flynedd yn Ddiweddarach

Sarah Rochira, previous Older People's Commissioner for Wales
2012-18

Sarah Rochira

Yr ail Gomisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru oedd Sarah Rochira, a ddechreuodd yn ei swydd yn 2012.

Roedd ymgysylltu â phobl hŷn yn un o brif elfennau gwaith Sarah, a bu’n cwrdd ac yn siarad â miloedd o bobl hŷn ledled Cymru i arwain ei gwaith a’i blaenoriaethau fel Comisiynydd.

Adolygiad Sarah o brofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal oedd y mwyaf o’i fath a gynhaliwyd erioed yng Nghymru, ac arweiniodd ei hargymhellion at amrywiaeth o gamau gweithredu a gwelliannau.

Sefydlodd Sarah y Rhaglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru hefyd, a chyflwynodd amrywiaeth o ymchwil ac adroddiadau sy’n ymwneud â hawliau pobl hŷn, gwasanaethau meddygon teulu a gwasanaethau cymunedol ehangach, profiadau pobl o fyw gyda dementia, a mynediad at wasanaethau seibiant.

Cyhoeddiadau allweddol 2012-2018:

Fframwaith Gweithredu

Llais, Dewis a Rheolaeth (Adolygiad Eiriolaeth)

Lle i’w Alw’n Gartref? (Adolygiad Cartrefi Gofal)

Gwasanaethau Meddygon Teulu yng Nghymru

Dementia: mwy na dim ond colli’r cof

Ailystyried Seibiant

Pwysigrwydd ac Effaith Gwasanaethau Cymunedol yng Nghymru

 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges