Hygyrchedd
Mae hygyrchedd gwefan y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cael ei arwain gan Ganllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 1.0 Consortiwm y We Fyd-eang (W3C) ac mae’r Comisiynydd yn gweithio gydag awduron cynnwys a datblygwyr i gyrraedd safon AAA.
Gwaith sy’n mynd ymlaen drwy’r amser yw cynnal gwefan sy’n hygyrch ac rydyn ni wrthi’n gweithio’n barhaus i gynnig profiad sy’n hwylus i’r defnyddwyr.
Mae cynllun a golwg gwefan y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cael eu cadw’n glir ac yn syml yn fwriadol, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth mor hawdd â phosibl i’w chanfod a ddarllen. I lywio o amgylch y wefan, gallwch ddefnyddio’r dewislenni ar ochr chwith y tudalen, neu glicio ar unrhyw ddolen mewn tudalen.
Mae’r dewislenni ar ochr y tudalen yn newid, yn ôl pa adran a lefel o’r wefan rydych chi wedi’i chyrraedd.
Mae’r wefan wedi’i dylunio i fod mor hygyrch ag y gellir ac mae rhagor o welliannau yn yr arfaeth ar gyfer; os cewch chi unrhyw broblem i gyrchu’r wybodaeth ar y wefan, neu os hoffech gyflwyno sylwadau ar unrhyw agwedd ar hygyrchedd y wefan, cysylltwch â ni: gofyn@olderpeoplewales.com.
Ehangu’r testun ar dudalen gwe:
Internet Explorer | Ar y ddewislen Gweld, dewiswch Maint y testun ac wedyn dewiswch yr opsiwn sydd orau gennych. |
Firefox | Ar y ddewislen Golwg, dewiswch Maint testun ac wedyn Cynyddu neu Lleihau. |
Safari | Ar y ddewislen View, dewiswch Text size ac wedyn Make Text Bigger neu Make Text Smaller. |
Netscape | Agorwch y ddewislen View a dewiswch Increase Font neu Decrease Font. |
Opera | Ar y ddewislen View, dewiswch Zoom ac wedyn dewiswch y ffactor ehangu. |
Internet Explorer | Ar y ddewislen Offer, dewiswch Dewisiadau Rhyngrwyd. Cliciwch y botwm Lliwiau. Drwy ddileu’r tic yn y blwch ‘Defnyddio lliwiau Windows’, gallwch ddewis yr opsiynau sydd orau gennych. |
Firefox | Ar y ddewislen Offer, dewiswch Dewisiadau. Cliciwch y botwm Lliwiau a dewiswch yr opsiynau sydd orau gennych. |
Safari | Gallwch greu ‘dalen arddulliau’ ar gyfer eich hoff arddulliau – edrychwch ar wefan Safari i gael cyngor. |
Netscape | Ar y ddewislen Edit, dewiswch Preferences. Ar y tab Appearance, dewiswch Colors a gosodwch eich dewisiadau. |
Opera | Mae llawer o ffyrdd i addasu’ch gosodiadau – edrychwch ar wefan Opera i gael cyngor. |
Gobeithio bod yr wybodaeth yn y wefan hon yn ateb eich anghenion. Er hynny, os oes gennych unrhyw sylwadau neu gwynion, neu os hoffech gael gwybodaeth am sut mae’r wefan ei hun yn cael ei gweinyddu, cysylltwch â ni yn gofyn@olderpeopelwales.com.