Llais ac eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru
Bydd llawer o bobl hŷn a’u teuluoedd yn bryderus iawn am effaith coronafeirws a’r cyfyngiadau sydd mewn grym ar eu bywydau. Rydyn ni’n byw trwy gyfnod anodd ac ansicr.
Mae’n bwysig cofio bod gan bob un ohonom ni ran i’w chwarae drwy helpu i oedi lledaeniad y feirws a lleihau’r risg i ni ein hunain ac i bobl eraill. Mae’n hanfodol ein bod ni’n parhau i ddilyn y cyngor diweddaraf gan y llywodraeth.
Mae pobl hŷn a’u teuluoedd yn dal yn gallu cysylltu â ni ac fe wnawn ni gynnig unrhyw help y gallwn ni. Byddwn hefyd yn parhau i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf gan y llywodraeth drwy ein gwefannau a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol pan fydd yn cael ei chyhoeddi.
Fel Comisiynydd, byddaf yn parhau i gyfarfod a chysylltu’n rheolaidd â Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod yr wybodaeth a’r canllawiau diweddaraf i bobl hŷn yn cael eu cyfleu’n effeithiol, a bod cynlluniau ar waith i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol, fel gofal yn y cartref, yn parhau i gael eu darparu. Yn ogystal â hyn, byddaf yn parhau i fonitro ymateb a chamau gweithredu’r llywodraeth, ac yn mynegi pryderon ac yn galw am weithredu pellach os byddwn yn teimlo nad yw hyn yn ddigon i ddiogelu pobl hŷn.
Nid oes modd osgoi’r ffaith bod y cyfnod hwn yn gyfnod o newid a tharfu nas gwelwyd ei fath o’r blaen, ac y bydd yn para’n hir o bosibl. Yn ogystal â hyn, rydw i’n hyderus y byddwn ni’n gweld ochr orau pobl a’n cymunedau wrth i bob un ohonom ni geisio troedio’r llwybr anodd sydd o’n blaenau gan sicrhau fod pobl hŷn yn cael eu cadw mor ddiogel â phosib a’u bod yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt.

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Cliciwch yma i fynd i'n tudalen Brechlyn Coronafeirws
Cliciwch yma i fynd i'n hyb gwybodaeth Covid-19
Diweddaraf
-
19.2.21
Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn archwilio ffyrdd o alluogi mwy o ymweliadau â chartrefi gofal er mwyn i bobl hŷn allu cael cwrdd â’u hanwyliaid eto...
-
02.2.21
Rwy’n bryderus iawn ynghylch ffigurau heddiw, sy’n dangos bod 129 o bobl mewn cartrefi gofal wedi marw o ganlyniad i Covid-19 yn ystod yr wythnos a ddaeth i ben ar 22 Ionawr, yr uchaf ers dechrau’r pandemig...