Datganiad i'r Wasg

Ymrwymiadau i sicrhau newid ledled Cymru i wella ansawdd bywyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal

Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi rhoi ymrwymiadau clir i wella ansawdd bywyd pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal o ganlyniad i'r Adolygiad o Gartrefi Gofal a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ystod 2014.

Mae'r holl gyrff statudol a oedd yn rhwym wrth y Gofynion Gweithredu a oedd wedi cael eu cynnwys yn adroddiad y Comisiynydd am yr adolygiad nawr wedi cyflwyno cynlluniau gweithredu sy'n datgan sut y byddan nhw'n cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mewn cartrefi gofal ac ar draws y system cartrefi gofal ehangach yng Nghymru.

Roedd yr ymatebion gan Fyrddau Iechyd ac Awdurdodau Lleol yn arbennig o gryf, gan ddatgan yn glir sut byddan nhw'n cyflawni'r canlyniadau mae'r Comisiynydd yn eu disgwyl a gan roi manylion ystod eang o waith arloesol a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Fodd bynnag, nid yw'r Comisiynydd yn fodlon â'r dystiolaeth gyffredinol a roddwyd gan Lywodraeth Cymru nac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) gan fod eu hymatebion wedi methu â chyrraedd y lefel o fanylion a oedd ei hangen i'w sicrhau hi, ar ran pobl hŷn, y byddan nhw'n cyflawni'r camau a'r canlyniadau cysylltiedig y mae'n briodol i bobl hŷn eu disgwyl.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Sarah Rochira:

"Roedd yr holl gyrff a oedd yn rhan o'm Hadolygiad wedi croesawu ei ganfyddiadau'n fawr. Rwyf yn falch bod nifer o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sydd â rhan hollbwysig i'w chwarae o ran sicrhau newid yn ein system cartrefi gofal wedi rhoi ymrwymiadau clir i gymryd y camau angenrheidiol i wella ansawdd bywyd pobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal ar draws Cymru. Mae hwn yn gam sylweddol a chadarnhaol ymlaen.

"Yn fy Adolygiad roeddwn wedi egluro beth fyddai effaith peidio â gweithredu a'r pris sy'n cael ei dalu gan bobl hŷn pan fydd cyrff cyhoeddus yn methu â chynnal hawliau pobl a'u diogelu. Rwyf felly'n hynod siomedig bod yr ymatebion gan Lywodraeth Cymru ac AGGCC mewn nifer o achosion wedi methu â rhoi digon o fanylion na chydnabod y newid sydd angen digwydd i fy sicrhau y bydd camau gweithredu'n cael eu cymryd a fydd yn sicrhau gwelliannau go iawn a chadarnhaol i bobl hŷn sy'n byw mewn cartrefi gofal.

Bydd y Comisiynydd yn gofyn am ragor o wybodaeth fel rhan o raglen barhaus o waith dilynol a gwaith craffu ffurfiol i sicrhau bod y canlyniadau sydd wedi cael eu nodi yn ei Hadolygiad yn cael eu cyflawni.

Ar hyn o bryd mae'r Comisiynydd yn dadansoddi'r ymatebion a ddaeth i law gan ddarparwyr cartrefi gofal a bydd yn gwneud datganiad ym mis Tachwedd sy'n rhoi golwg gyffredinol o'r ymatebion hyn, blwyddyn ar ôl cyhoeddi ei Hadroddiad am yr Adolygiad.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

"Rwyf wedi bod yn glir bod yr atebolrwydd i wella ymarfer a chefnogi hawl pobl i gael ansawdd bywyd da yn eistedd ar ysgwyddau'r cyrff sy'n rhan o'm Hadolygiad. Fodd bynnag, fel rhan o'm gwaith ar ôl yr Adolygiad, byddaf yn dal i gefnogi cyrff cyhoeddus i wella ein system cartrefi gofal, gan gynyddu eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth, a thynnu sylw at ymarfer da sydd eisoes i'w weld ar draws sawl rhan o Gymru y byddai modd ei gyflwyno'n ehangach.

"Yn y bôn mae fy Adolygiad yn ymwneud â bywydau pobl yn y man lle dylen nhw allu ei alw'n gartref. Mae hi'n bwysig bod y Gofynion Gweithredu yn fy adolygiad yn cael eu gweithredu gan yr holl gyrff sy'n rhan o'm Hadolygiad.

Pan lansiais fy adroddiad am yr Adolygiad, roeddwn yn glir mai megis dechrau proses tymor hirach o newid oedd hyn. Er mwyn bod yn dawel fy meddwl mai dyma'r achos, ac i sicrhau bod gwelliannau wedi cael eu cyflawni, byddaf hefyd yn cynnal adolygiad arall ymhen 18 mis, a fydd yn canolbwyntio ar y canlyniadau roeddwn wedi'u nodi yn fy adroddiad am yr Adolygiad. Bydd lleisiau pobl hŷn wrth galon hyn unwaith eto."