Datganiad Adolygiad o Gartrefi Gofal: Darparwyr Cartrefi Gofal

Pan gyhoeddais fy Adolygiad o Gartrefi Gofal ym mis Tachwedd 2014, amlinellais chwech o Anghenion Gweithredu ar gyfer Darparwyr Cartrefi Gofal er mwyn gwella ansawdd bywyd a’r gofal am bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Wrth ddadansoddi’r ymatebion gan Ddarparwyr, roeddwn yn chwilio am dystiolaeth a fyddai’n rhoi sicrwydd i mi fod y newid y mae pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn ei ddymuno ac angen ei weld yn cael ei gyflawni.

Yn gyffredinol, rydw i wedi bod yn fodlon gyda lefel yr ymgysylltu gan lawer o ddarparwyr, sy’n amlwg wedi neilltuo amser a meddwl wrth lunio eu hymatebion i mi.

Mae llawer o ddarparwyr cartrefi gofal wedi fy sicrhau y byddan nhw’n gweithredu er mwyn gwella ansawdd bywyd a’r gofal am bobl hŷn mewn cartrefi gofal.

Roedd ymatebion i nifer o’m Hanghenion Gweithredu (AG) gan y darparwyr hyn yn arbennig o gadarnhaol:

AG 1.2 – Pecyn Croeso - mae’r holl bobl hŷn yn derbyn ‘Pecyn Croeso’ safonol wrth iddyn nhw gyrraedd mewn cartref gofal sy’n nodi sut y bydd rheolwr y cartref gofal a’r perchennog yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu cwrdd, bod eu hawliau yn cael eu cynnal a’u bod yn derbyn yr ansawdd bywyd gorau posibl.

AG 3.2 – Hyfforddiant Dementia – mae holl weithwyr cartrefi gofal yn ymgymryd â hyfforddiant sylfaenol ar ddementia fel rhan o’u cwrs cynefino ac mae holl staff gofal a rheolwyr cartrefi gofal yn ymgymryd â hyfforddiant pellach ar ddementia yn barhaus fel rhan o’u datblygiad sgiliau a chymhwysedd.

AG 3.3 - Cyfeillio – bydd pobl hŷn yn cael eu cefnogi i gadw eu cyfeillion presennol a chynnal cysylltiadau cymdeithasol a/neu (d)diwylliannol ystyrlon, yn y cartref gofal a thu allan i’r cartref fel ei gilydd.

AG 5.5 – Eiriolwyr Dementia –  mae’n rhaid i bob cartref gofal gael o leiaf un aelod o staff sy’n eiriolwr ar ddementia.

Mae’r darparwyr hyn wedi dangos ymrwymiad gwirioneddol tuag at gyflawni’r newid sydd ei angen, nid yn unig wrth ddarparu gwybodaeth fanwl drwy’u hymatebion, ond yn ogystal drwy fynychu seminarau ymarfer da yr ydw i wedi’u cynnal gyda sefydliadau allweddol eraill yn y sector cartrefi gofal.

Fodd bynnag, rydw i’n siomedig nad oedd nifer o Ddarparwyr yn ymgysylltu yn llawn â’r broses Adolygu:  nid oedd rhai darparwyr yn ymateb, tra nad oedd eraill yn darparu gwybodaeth lawn pan ofynnwyd iddyn nhw.  O ganlyniad, ni allaf fod yn sicr y gall y darparwyr hyn gyflawni’r newid y mae pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn ei ddymuno ac angen ei weld.  Nid oedd fy Adolygiad yn edrych ar y safonau gofal yn erbyn y Safonau Gofynnol Cenedlaethol gan mai swyddogaeth y rheoleiddiwr a’r arolygydd gofal cymdeithasol yng Nghymru yw hyn (AGGCC).

Er gwaethaf yr ymarfer da a welais, mae fy nadansoddiad yn dangos yn eglur bod meysydd lle y mae angen gwaith a chefnogaeth bellach os yw canlyniadau fy Adolygiad am gael eu cyflawni.  Nid yw hyn yn tynnu oddi wrth yr ymrwymiad ymysg llawer o Ddarparwyr i wella yn barhaus, ond y mae’n dangos maint yr her sydd o’n blaenau.

Er mwyn cefnogi Darparwyr Cartrefi Gofal i gyflawni’r newid sydd ei angen, rydw i wedi cyflwyno seminarau ymarfer da a dysgu drwy Gymru, mewn partneriaeth â sefydliadau allweddol fel Fy Mywyd Mewn Cartref a Chyngor Gofal Cymru.

Roedd y seminarau, a oedd yn cynnwys cyflwyniadau gan arbenigwyr sy’n gweithio yn y sector cartrefi gofal a nifer o weithdai, yn caniatáu Darparwyr ddysgu mwy ynglŷn â’r themâu allweddol a oedd yn cynnwys dementia, gwrando ar breswylwyr a staffio.

Mynychwyd y seminarau gan gannoedd o Ddarparwyr Cartrefi Gofal a oedd yn amlwg wedi ymrwymo i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl hŷn.  Dangoswyd yr ymrwymiad hwn gan ernesau a wnaed yn ystod y seminarau, a oedd yn cynnwys addewidion fel:

“Cydnabod, cyhoeddi ac annog y ‘pethau bychain’ sydd o bwys mewn lleoliadau Cartref Gofal ar gyfer staff, preswylwyr a theuluoedd h.y.  arwyddion syml/caredig, gweithredoedd o garedigrwydd.”

“Datblygu bywyd, cariad a chwerthin i ddod y math o ofal sy’n creu ein sefydliad a staff i ofalu am bobl bob dydd a phob amser.”

“Darparu’r fframwaith a’r gefnogaeth i ganiatáu ein preswylwyr i ddilyn bywyd llawn a gwerthfawr y maen nhw’n ei reoli eu hunain.”

“Gwneud o leiaf bump o bobl chwerthin bob dydd.”

Byddaf yn parhau i weithio gydag amrediad eang o sefydliadau, fel y Coleg Nyrsio Brenhinol, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol a Fforwm Gofal Cymru, yn ogystal ag yn uniongyrchol gyda darparwyr cartrefi gofal, er mwyn parhau i ddatblygu ein meddwl, ein gwybodaeth a’n hymarfer da.  Yn ychwanegol, byddaf yn parhau i rannu’r dysgu o’m Hadolygiad a gwaith cysylltiedig gyda sefydliadau statudol a chyrff proffesiynol er mwyn eu cefnogi i chwarae eu rhan wrth gyflawni’r canlyniadau yr wyf i’n disgwyl eu gweld.

Cyrff Cyhoeddus sy’n Cyflenwi Gwelliannau ar gyfer Pobl Hŷn

Yn ogystal, mae fy natganiad heddiw yn gyfle i mi fyfyrio ar y gwelliannau a gyflawnwyd gan gyrff cyhoeddus drwy Gymru ers i mi gyhoeddi fy Adroddiad ar Adolygiad Cartrefi Gofal union flwyddyn yn ôl heddiw.  Rydw i’n falch o nodi bod Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd wedi fy narparu eisoes gydag enghreifftiau o ymarfer da a fydd yn ategu eu cyflawniad nhw o’m Hanghenion Gweithredu.

Er enghraifft, y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent wedi datblygu holiadur a fydd yn cael ei ddosbarthu i weithwyr cartrefi gofal yn yr Awdurdod Lleol, er mwyn asesu anghenion hyfforddi ar ddementia yn awr ac yn y dyfodol, fel y gellir trefnu hyfforddiant i wella sgiliau a chymwyseddau staff i sicrhau bod anghenion preswylwyr sy’n byw gyda dementia yn cael eu deall yn llawn a bod y gofal sy’n cael ei ddarparu yn cwrdd â’u hanghenion.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ystyried datblygu cynllun cyfeillio gwirfoddol arloesol gyda Chymdeithas y Milwyr, Morwyr, Awyrenwyr a’u Teuluoedd (CMMAT) a Chydlynydd yr Heddlu ar Wirfoddoli Cadetiaid yr Heddlu i ddarparu cyfeillachwyr i gyn-filwyr hŷn a swyddogion yr heddlu wedi ymddeol sy’n byw mewn cartrefi gofal.  Tra’i fod yn parhau’n ddyddiau cynnar, mae gan y fenter hon botensial gwirioneddol nid yn unig i ymdrin ag unigrwydd ar arwahanrwydd ‒ sy’n broblem sylweddol mewn llawer o gartrefi gofal ‒ ond yn ogystal i greu cysylltiadau cryfach rhwng gwahanol genedlaethau.

Yn ddiweddar, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi cyflwyno Hyfforddiant mewn Iechyd y Geg i staff sy’n gweithio mewn lleoliadau cartrefi gofal, gydag Eiriolwyr Iechyd y Geg yn cael eu nodi yn yr holl leoliadau gofal ac a fydd yn derbyn hyfforddiant ac adnoddau ychwanegol fel y gallan nhw hyfforddi aelodau newydd o staff.  Bydd pob cartref yn derbyn Bocs Adnoddau sy’n cynnwys adnoddau glanweithdra'r geg ynghyd â dogfennaeth i gwrdd â’r gofynion cenedlaethol, a bydd y Bwrdd Iechyd yn ymgymryd â 2 Ymweliad Sicrhau Ansawdd y flwyddyn ac yn adrodd am ganlyniadau i’r Grŵp Ansawdd a Diogelwch Deintyddol.  Yn ogystal, bydd cyfleuster ar gyfer ymweliad gan Dîm Clinigol Deintyddol i ddarparu triniaeth lle bo’n bosibl ac arwain y ffordd at Wasanaethau Deintyddol eraill sy’n cael eu dyrannu i Ddeintyddion a Gweithwyr Proffesiynol Gofal Deintyddol yn y Gwasanaeth Deintyddol Cymunedol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Ni allaf roi’r wybodaeth ddiweddaraf mewn perthynas â’m sicrwydd o ran y Gofynion ar gyfer Gweithredu a neilltuwyd i Lywodraeth Cymru gan nad ydynt wedi rhoi rhagor o wybodaeth mewn perthynas â’r gweithredu sydd ganddynt ar droed neu sy’n arfaethedig er mwyn cyflawni’r newid sydd ei angen. 
Rwyf wedi ysgrifennu at y Gweinidog i fynegi fy siom ac i ddynodi fy mharodrwydd parhaus i ddarparu cyngor a chefnogaeth, pan fo hynny’n briodol, i fwrw ymlaen â’r gweithredu gofynnol.

Symud Ymlaen

Ym mis Awst, gwnes fy mwriad yn eglur, sef cynnal adolygiad dilynol ymhen 18 mis er mwyn sicrhau bod y camau gweithredu a gafodd eu haddo gan gyrff cyhoeddus a Darparwyr Cartrefi Gofal ar y gweill ‒ sy’n hanfodol er mwyn cyflawni’r canlyniadau i bobl hŷn a amlinellwyd yn fy adroddiad Adolygiad.
Bydd yr adolygiad dilynol yn cael ei strwythuro o amgylch y model ansawdd bywyd sydd wedi’i gynnwys yn fy Fframwaith Gweithredu 2013-17, a byddaf yn edrych am dystiolaeth fod y camau gweithredu sydd ar y gweill drwy Gymru yn sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal:

  • Yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw
  • Yn teimlo’n ddiogel a bod pobl yn gwrando arnyn nhw, yn eu gwerthfawrogi ac yn eu parchu
  • Yn byw mewn lle sy’n addas iddyn nhw ac i’w bywydau
  • Yn gallu cael yr help y maen nhw’n ei angen

Fel rhan o’r Adolygiad hwn, byddaf yn chwilio yn ogystal am dystiolaeth bod cynllun cenedlaethol yn bodoli ar gyfer sicrhau cyflenwad o gartrefi gofal o ansawdd uchel yn y dyfodol, a bod gan Gymru'r staff cywir mewn cartrefi gofal, gyda’r sgiliau cywir, er mwyn cyflawni’r gofal gorau posibl i bobl hŷn.

Yn y cyfamser, ochr yn ochr â’m gwaith i rannu gwybodaeth ac arferion da, byddaf yn cyfarfod y cyrff statudol sy’n rhan o’m Hadolygiad, fel eu bod yn gallu rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i mi am eu camau gweithredu er mwyn cyflawni canlyniadau fy Adolygiad.                                          

Fel Comisiynydd, rydw i wedi bod yn eglur bod fy Adolygiad yn sylfaenol ynglŷn â’r bywydau y mae pobl yn eu dilyn yn y lle y dylen nhw fod yn gallu’i alw’n gartref.   Tra bod yr atebolrwydd i wella ymarfer a chefnogi hawl pobl i ansawdd da o fywyd yn gyfrifoldeb i’r cyrff sy’n destun fy Adolygiad, byddaf yn parhau i’w cefnogi nhw i wella ein system cartrefi gofal, cynyddu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth, a thynnu sylw at ymarfer da a ellir ei gyflwyno’n ehangach, er mwyn sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn derbyn yr ansawdd bywyd gorau posibl.