Geirfa: Gwaith Dilynol ar yr Adolygiad o Gartrefi Gofal

Mae’r eirfa hon yn berthnasol i'r crynodeb o ymatebion gan gyrff cyhoeddus, yn ogystal â’r adroddiad dilynol ar yr Adolygiad o Gartrefi Gofal



AGGCC (Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru): AGGCC sy’n gyfrifol am adolygu ac archwilio’r gwasanaethau cymdeithasol y mae Awdurdodau Lleol yn eu darparu i blant ac oedolion, yn ogystal ag archwilio darparwyr gwasanaethau cymorth a gofal annibynnol.  Eu nod yw sicrhau bod safonau rheoleiddiol yn cael eu bodloni ac annog gwelliannau er mwyn sicrhau lles pobl sydd angen cymorth a gofal yng Nghymru. http://careinspectorate.wales/about/?skip=1&lang=cy 

Ar 15 Ionawr 2018, bydd AGGCC yn newid ei henw i Arolygiaeth Gofal Cymru http://careinspectorate.wales/news/171220-name-change/?skip=1&lang=cy

Adegau Arbennig (Magic Moments): Rhaglen o waith a chyhoeddiad gan Ysgol Ymchwil Gofal Cymdeithasol Prifysgol Abertawe sy’n tynnu sylw at yr ‘adegau arbennig’ sy’n ganolog i ansawdd bywyd preswylwyr cartrefi gofal, ond sy’n aml yn cael eu hanwybyddu neu mae eu harwyddocâd yn cael ei danbrisio. Mae'r llyfryn Magic Moments ar gael yma: http://www.swansea.ac.uk/humanandhealthsciences/news-and-events/latest-research/researchteampublishesbookletofcarehomemagicmoments.php

Ailalluogi ac adsefydlu: Ystyr ailalluogi yw cymorth i alluogi pobl i ddysgu neu ailddysgu sgiliau hanfodol ar gyfer byw o ddydd i ddydd. Mae’n aml yn cael ei ddarparu ar ôl cyfnod o salwch (fel strôc) neu ddamwain (fel cwymp). Er ei bod yn hanfodol canolbwyntio ar adennill gallu corfforol, mae hi hefyd yn hollbwysig mynd i’r afael â chefnogaeth seicolegol er mwyn magu hyder, yn ogystal ag anghenion cymdeithasol a gweithgareddau cysylltiedig. Gall adsefydlu fod yn rhan o brosesau ailalluogi, yn ogystal â bod yn ymyrraeth ar wahân. Bwriad adsefydlu yw sicrhau'r gallu a’r lles gorau posibl i gleifion er mwyn helpu i’w hintegreiddio yn ôl i’r bywyd neu’r gwaith o’u dewis. Mae llawer o orgyffwrdd o ran defnydd y ddau derm yma. I gael gwybodaeth am ymchwil cysylltiedig yng nghyd-destun Cymru, ewch i: http://www.prudenthealthcare.org.uk/reablement/ 

Amlgyffuriaeth: Ystyr amlgyffuriaeth yw defnyddio nifer o feddyginiaethau ar yr un pryd, sy’n gyffredin ymysg pobl hŷn a phreswylwyr cartrefi gofal1. Efallai bod llawer o’r meddyginiaethau hyn yn cael eu defnyddio’n ormodol neu fod presgripsiynau diangen yn cael eu rhoi os nad yw preswylwyr wedi bod yn rhan o drefn reolaidd o adolygu meddyginiaeth. Mae’r pryderon cysylltiedig ag amlgyffuriaeth yn cynnwys cynnydd mewn rhyngweithiau ac adweithiau niweidiol cysylltiedig â chyffuriau, ansawdd bywyd yn dirywio, symudedd a gwybyddiaeth yn dirywio, a chostau cysylltiedig uwch.

Arolygwyr Lleyg/Aseswyr Lleyg: Mae arolygwyr/aseswyr lleyg yn cyfrannu at arolygu gwasanaethau gofal rheoledig drwy siarad â phobl sy’n defnyddio gwasanaethau, yn ogystal â’u teuluoedd, eu gofalwyr a’u ffrindiau. Dyma ddisgrifiad Arolygiaeth Gofal yr Alban o’r aseswyr lleyg maen nhw’n eu defnyddio: ‘gwirfoddolwyr sydd wedi defnyddio gwasanaethau gofal neu helpu i ofalu am rywun sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau gofal. Maen nhw’n arbenigwyr drwy brofiad ac yn gaffaeliad gwerthfawr i’n gwaith arolygu’2.

Ataliaeth: Mae hwn yn derm cynhwysol sy’n disgrifio ymyraethau ataliol a all helpu i gynnal iechyd, lles ac annibyniaeth pobl. Dyma ddisgrifiad Cynghrair Henoed Cymru3 o ataliaeth: 

  1. Unrhyw ymyriadau a gynllunnir i leihau’r risg o ddirywiad, damwain, clefyd neu salwch meddyliol a chorfforol a/neu i hyrwyddo lles corfforol, cymdeithasol, emosiynol a seicolegol tymor hir; 
  2. Gwasanaethau sy’n galluogi pobl i fyw yn annibynnol neu sy’n cefnogi pobl i fyw’n annibynnol yn hirach; 
  3. Gwasanaethau sydd â’r nod o hyrwyddo ansawdd bywyd, hunan-benderfyniad ac ymgysylltu â’r gymuned.

‘Blodyn’ Kitwood: Fe wnaeth Tom Kitwood gyfraniad arloesol i’r gwaith o ddatblygu gofal dementia sy’n canolbwyntio ar unigolion. Fe nododd nifer o anghenion seicolegol a chymdeithasol sy’n sylfaenol i bobl, a’u harddangos ar ffurf blodyn. Yn 1992, sefydlodd Grŵp Dementia Bradford ym Mhrifysgol Bradford. Mae ei syniadau penodol mewn perthynas â gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion, a’r agweddau cadarnhaol a ddatblygodd tuag at bobl â dementia, yn cael eu trafod yn ei lyfr, Dementia Reconsidered: The Person Comes First (Rethinking Ageing) 1997. 


Caeth i’r gwely: Rhywun sydd methu cael ei gynorthwyo i eistedd i fyny ac y mae angen cymorth rheolaidd arno i gael ei symud yn y gwely er mwyn osgoi briwiau o ganlyniad i orwedd yn yr un ystum yn rhy hir. 

Cartref gofal: Lleoliad preswyl lle mae llawer o bobl hŷn yn byw yw cartref gofal. Maen nhw fel arfer yn byw mewn ystafelloedd unigol lle gallant gael mynediad at ofal a chymorth ar y safle. Mae rhai cartrefi gofal wedi’u cofrestru i ddiwallu anghenion penodol, fel dementia neu salwch angheuol.  Mae cartrefi gofal sydd ag anghenion gofal a chymorth ychwanegol yn aml yn cael eu galw’n gartrefi ‘preswyl’ neu ‘nyrsio’ er mwyn manylu ar lefel y gofal a ddarperir. Fodd bynnag, o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, ni fydd angen i gartrefi gofal fod wedi’u cofrestru yn ôl y gwahaniaethau hyn; bydd y math o gymorth maen nhw’n ei ddarparu yn seiliedig ar eu ‘datganiad o ddiben’. 

Yn yr adroddiad dilynol ar yr Adolygiad o Gartrefi Gofal, cyfeirir at gartrefi gofal yn y modd mwyaf cyffredinol gan amlaf, er mwyn cynnwys cartrefi preswyl a ‘chartrefi nyrsio’ yn hynny. Fe wahaniaethir rhyngddynt pan fo angen er mwyn cyfleu pwynt.

Cartref Gofal Pili Pala: Mae Dementia Care Matters (gweler isod) wedi datblygu model Pili Pala ar gyfer cartrefi gofal, sy’n cydnabod y gall rheolwyr a staff ei chael yn anodd newid diwylliant gofal drwy hyfforddiant yn unig. Darperir rhaglen newid diwylliant mewn cartrefi gofal, o’r enw Prosiect Pili Pala. Caiff timau eu cefnogi drwy raglen newid diwylliant sy’n para blwyddyn, lle maen nhw’n dysgu ffyrdd newydd o weithio er mwyn hybu gwelliant parhaus o ran gofal dementia sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd.

Comisiynu: Yng nghyd-destun iechyd a gofal cymdeithasol, ystyr comisiynu yw’r broses o sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir yn diwallu anghenion a chanlyniadau lles pobl yn effeithiol yn eu cymunedau.  Mae comisiynu yn ymwneud â sut mae Awdurdodau Lleol a'r GIG yn rhagweld newid, yn cynllunio gwasanaethau i ddiwallu anghenion ar gyfer y dyfodol, ac yn defnyddio'r arian sydd ar gael yn effeithiol. Mae modd i sefydliadau unigol gomisiynu eu hunain, neu wneud hynny ar y cyd â sefydliadau eraill.

Cyfeillion Dementia: Rhaglen yw hon a sefydlwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s i godi ymwybyddiaeth o ddementia mewn cymdeithas yn gyffredinol. Mudiad o wirfoddolwyr sydd ar gynnydd sy’n gwneud hyn, drwy ddarparu sesiynau hyfforddi i annog pobl i feddwl am ddementia, i gwestiynu ystrydebau ac i hybu arferion da. https://www.dementiafriends.org.uk/

Cyffuriau gwrthseicotig: Dosbarth o feddyginiaeth seiciatrig sy’n cael ei defnyddio i reoli seicosis yw cyffuriau gwrthseicotig (fe’u gelwir hefyd yn niwroleptigau neu dawelyddion cryf). Fe’u defnyddiir i drin seicosis cysylltiedig ag anhwylder deubegynol a sgitsoffrenia yn bennaf. Maent hefyd yn cael eu defnyddio i reoli ymddygiad ymosodol neu seicosis mewn pobl sy’n byw â dementia, ond mae hyn yn mynd law yn llaw â chynnydd sylweddol mewn digwyddiadau niweidiol difrifol. Mae canllawiau NICE yn datgan na ddylai cyffuriau gwrthseicotig gael eu defnyddio fel triniaeth reolaidd ar gyfer pobl â dementia – yr arfer orau fyddai hybu ymyriadau seicogymdeithasol4.

Cytundeb Adran 33:  Mae Adran 33 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 yn galluogi Byrddau Iechyd, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Awdurdodau Lleol i fod yn rhan o unrhyw gytundebau partneriaeth i gyflawni swyddogaethau penodol y GIG a swyddogaethau cysylltiedig ag iechyd yn unol â’r hyn a nodir yn y Rheoliadau; fodd bynnag, mae rhywfaint o hyn wedi cael ei ddisodli5 gan ddeddfwriaeth fwy diweddar (e.e. Rheoliadau Trefniadau Partneriaeth (Cymru) 2015). 

Datganiad sefyllfa’r farchnad: Dogfen ddadansoddol sy’n darparu gwybodaeth i geisio gwella gweithrediad y farchnad. Dylai gyfuno data cyfredol am y boblogaeth a thueddiadau’r dyfodol, tueddiadau economaidd-gymdeithasol, strategaethau comisiynu, ac arolygon cwsmeriaid a’r farchnad i nodi’r newidiadau angenrheidiol sydd angen eu rhoi ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth, yn ogystal â sut bydd cyrff cyfrifol (fel Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd) yn ymyrryd er mwyn cyflawni hyn.

Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016: Mae’r ddeddfwriaeth hon yn darparu fframwaith diwygiedig ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae’n ymgorffori amcanion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae’n cynnwys:

  • diwygio’r gyfundrefn reoleiddiol ar gyfer gwasanaethau cymorth a gofal;
  • darparu fframwaith rheoleiddio lle mae angen dull o reoleiddio gwasanaethau cymorth a gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau ar gyfer defnyddwyr gwasanaethau;
  • diwygio’r gyfundrefn arolygu ar gyfer swyddogaethau’r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol;
  • ad-drefnu Cyngor Gofal Cymru, ei ailenwi yn Gofal Cymdeithasol Cymru ac ehangu ei gylch gwaith;
  • diwygio’r modd caiff y gweithlu gofal cymdeithasol ei reoleiddio
Bydd rheoliadau Adran 27 yn amlinellu dyletswyddau darparwyr o ran gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: http://gov.wales/topics/health/socialcare/regulation/?skip=1&lang=cy 

DEEP (Prosiect Ymgysylltu a Grymuso Dementia): Mae DEEP yn dod â grwpiau o bobl â dementia o bob cwr o’r DU at ei gilydd. Mae DEEP yn cynorthwyo'r grwpiau hyn i geisio newid gwasanaethau a pholisïau sy’n effeithio ar fywydau pobl â dementia. http://dementiavoices.org.uk/


Dementia Care Matters: Sefydliad hyfforddi a newid diwylliannol ar gyfer gofal dementia. Mae’n hybu diwylliant o ofal sy’n canolbwyntio ar fodel deallusrwydd emosiynol. http://www.dementiacarematters.com/index.html  Un o’i ddatblygiadau yw’r model Cartrefi Pili Pala (gweler uchod).

Eiriolaeth: Gweler ‘Eiriolaeth Annibynnol'

Eiriolaeth Annibynnol: Mae eiriolaeth annibynnol yn cefnogi ac yn galluogi pobl sy'n ei chael yn anodd cynrychioli eu buddiannau i fynegi eu barn, i bwyso a mesur dewisiadau a gwneud dewisiadau doeth, i gael y gefnogaeth angenrheidiol neu i gadarnhau eu hawliau. Mae eiriolaeth annibynnol yn un o elfennau hanfodol cydraddoldeb, cyfiawnder cymdeithasol a hawliau dynol.

Gallu gwybyddol: Y weithred neu'r gallu meddyliol i feddwl, deall a chofio. Pan fo nam ar y gallu gwybyddol, bydd pobl yn aml yn cael trafferth o ddydd i ddydd mewn perthynas â chofio, cynllunio, iaith, talu sylw a sgiliau gweledol-gofodol (gallu dehongli gwrthrychau a siapiau). Nid yw effeithiau dementia ar rwydweithiau'r ymennydd bob amser yn glir a gallant arwain at drafferthion emosiynol, corfforol a gweithredu cymdeithasol, yn ogystal â chyfyngu ar allu gwybyddol.

Gofal Cymdeithasol Cymru: Ar 1 Ebrill 2017, newidiodd Cyngor Gofal Cymru ei enw i Gofal Cymdeithasol Cymru. Mae’r sefydliad newydd yn dod â Chyngor Gofal Cymru ac Asiantaeth Gwella'r Gwasanaethau Cymdeithasol at ei gilydd ac yn cyfuno eu swyddogaethau o ran rheoleiddio, cynorthwyo a datblygu’r gweithlu, a defnyddio data ac ymchwil i wella darpariaeth gwasanaethau ac ymarfer. Dyma ei brif swyddogaethau:

  • datblygu'r gweithlu er mwyn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i ddiogelu, grymuso a chefnogi'r bobl y mae angen cymorth arnynt
  • gweithio gydag eraill i wella gwasanaethau ar gyfer ardaloedd y cytunwyd eu bod yn flaenoriaeth genedlaethol
  • pennu blaenoriaethau ymchwil er mwyn casglu tystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio’n dda
  • rhannu arferion da â'r gweithlu er mwyn iddynt allu darparu’r ymateb gorau posibl
  • darparu gwybodaeth ynghylch cymorth a gofal i'r cyhoedd, i’r gweithlu ac i sefydliadau eraill
https://gofalcymdeithasol.cymru/?record-language-choice=en-cy 


Gofal seiliedig ar dasgau: Term a ddefnyddir mewn gwaith academaidd i ddisgrifio gofal sy’n cael ei ddarparu mewn modd mecanyddol a sefydliadol, gyda dim ond ychydig iawn o gysylltiad â'r unigolyn dan sylw nac ymwybyddiaeth ohono fel person, neu ddim cysylltiad o gwbl. Nid yw gofal seiliedig ar dasgau, a elwir hefyd yn ofal amhersonol, yn cynnwys nodweddion dynol fel caredigrwydd, cydymdeimlad a dealltwriaeth, ac mae’n seiliedig ar ddiwylliant lle mae pethau’n cael eu gwneud i breswylwyr ac ar eu cyfer yn hytrach na gyda nhw. 

Gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion: Gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar unigolion ac yn eu hystyried yn bobl â hunaniaeth, anghenion a dymuniadau unigryw yw gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion. Nod y dull hwn yw galluogi pobl i fyw bywyd llawn, cadarnhau eu synnwyr o hunaniaeth a sefydlu ymdeimlad o les. Mae hyn yn cynnwys ystyried anghenion cymdeithasol, corfforol, deallusol, diwylliannol, emosiynol, yn ogystal ag anghenion iechyd a gofal.

Gwaith da: Fframwaith Dysgu a Datblygu Dementia i Gymru (2016): Fframwaith dysgu a datblygu ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd â'r bwriad o’u helpu i ddarparu'r gofal a’r cymorth gorau posibl i bobl sy’n byw â dementia yw hwn. Mae’r fframwaith hefyd yn ceisio cefnogi pobl â dementia, gofalwyr ac unrhyw un a allai ddod i gysylltiad â phobl â dementia. Mae’r adnodd wedi’i rannu i dair adran:

  • Cyfarwydd: gweithwyr cymdeithasol neu weithwyr sy’n brif gyswllt, er enghraifft, gweithwyr mewn derbynfa a swyddi rheng flaen yn y sector cyhoeddus sy’n ymwneud â’r cyhoedd. Bydd hefyd yn rhan ofynnol o broses gynefino gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol.
  • Medrus: gweithwyr gofal cymdeithasol, nyrsys a rheolwyr.
  • Arweinwyr dylanwadol: comisiynwyr a dylunwyr gwasanaethau.
  • Cafodd yr adnodd ei ddatblygu gan Gyngor Gofal Cymru, GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru i ddarparu dull gwell a mwy cyson o gefnogi pobl â dementia.
https://socialcare.wales/resources/good-work-dementia-learning-and-development-framework


Gwasanaethau seiliedig ar ardaloedd: Ystod amrywiol o wasanaethau iechyd a gofal (seiliedig ar anghenion lleol) wedi’u clystyru â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau cysylltiedig yw’r rhain. Gall hyn gynnwys sefydliadau'r sector annibynnol a rhai statudol. Mae gwasanaethau seiliedig ar ardaloedd, neu wasanaethau ‘clwstwr’, yn cael eu hyrwyddo mewn polisi yng Nghymru mewn ymgais i integreiddio gwasanaethau a lleoli gwasanaethau gofal gyda’i gilydd er mwyn ei gwneud yn haws i gymunedau gael mynediad atynt.

Gwasanaethau Uwch (contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol): Y contract rhwng meddygfeydd meddygon teulu a Byrddau Iechyd mewn perthynas â darparu gwasanaethau gofal sylfaenol mewn cymunedau lleol yw’r contract Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol. Mae gwasanaethau uwch yn elfennau o wasanaethau ychwanegol neu hanfodol a ddarperir yn unol â manyleb uwch, neu wasanaethau meddygol wedi’u dylunio ar sail anghenion y boblogaeth leol sydd y tu allan i gwmpas arferol y gwasanaethau meddygol sylfaenol. Caiff gwasanaethau uwch eu comisiynu gan Fyrddau Iechyd. Mae tri chategori:

  • Uniongyrchol (DES) – rhaid i bob Bwrdd Iechyd eu comisiynu neu eu darparu
  • Cenedlaethol (NES) – dylai pob Bwrdd Iechyd eu comisiynu neu eu darparu, ond nid yw hyn yn orfodol
  • Lleol (LES) – comisiynu gwasanaethau ar sail anghenion lleol (dewisol). Mae un o’r rhain yn LES ar gyfer cartrefi gofal. 
I weld rhagor o wybodaeth gan GIG Cymru, ewch i: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=480&pid=6064


Henoed Bregus eu Meddwl (EMI): Mae EMI yn derm ar gyfer gwasanaethau sydd wedi’u dylunio ar gyfer pobl hŷn ag anawsterau iechyd meddwl neu salwch yr ymennydd fel dementia. Er bod y term yn cael ei ddefnyddio’n helaeth, yn enwedig yn y gwasanaethau iechyd, mae’n fwy priodol cyfeirio at y rhain fel gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn ag anghenion iechyd meddwl.

Hyrwyddwr Dementia: Swyddogaeth hyrwyddwyr dementia yw hyrwyddo perchnogaeth o ymarfer da o ran ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw â dementia. Gallai hyn fod drwy gefnogi rhaglenni newid mewnol neu allanol neu drwy gefnogi unigolyn brwdfrydig a chryf ei gymhelliad i hybu newid sefydliadol, i fod yn enghraifft o ymarfer da ac i herio ymarfer a chanlyniadau gofal gwael.

My Home Life: Menter ledled y DU sy’n hybu ansawdd bywyd da ac yn darparu newid cadarnhaol i bobl hŷn mewn cartrefi gofal. Mae’n gweithio gyda chartrefi gofal, cyrff statudol, sefydliadau cymunedol ac eraill i gyd-greu ffyrdd newydd o weithio er mwyn mynd ati’n well i ddiwallu anghenion pobl hŷn, perthnasau a staff. Mae amrywiaeth o wybodaeth ac arferion da ar gael ar y wefan http://myhomelife.org.uk/about-us/ . Ers mis Mehefin 2017, mae My Home Life Cymru yn cael ei gynnal gan Brifysgol Abertawe, a gymerodd yr awenau gan Age Cymru.

Proffiliau Un Dudalen: Mae Proffil Un Dudalen yn cynnwys yr holl wybodaeth bwysig am unigolyn ar un daflen o bapur. Nid yw’n canolbwyntio ar agweddau clinigol a’i fwriad yw cynnwys gwybodaeth fel ‘beth mae pobl yn ei werthfawrogi amdana i’, ‘beth sy’n bwysig i mi’ a ‘beth yw'r ffordd orau o fy nghefnogi i’. Gall Proffiliau Un Dudalen helpu gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal i ddarparu gwell cymorth a gofal sy’n canolbwyntio ar unigolion. Mae mathau gwahanol ar gael.

Rhaglen Ansawdd Rhyngweithio (QUIS): Mae hwn yn ddull o arsylwi a chofnodi rhyngweithiad yn systematig, heb fod yn gyfrannwr. Mae modd ei ddefnyddio fel adnodd meintiol ac ansoddol i fesur ansawdd y rhyngweithio rhwng staff, preswylwyr/cleifion ac ymwelwyr. Os caiff ei ddefnyddio’n effeithiol, gall helpu i nodi lle byddai modd gwella.  Dim ond pobl sydd wedi’u hyfforddi i’w ddefnyddio ddylai wneud hynny. Dylid ei ddefnyddio’n sensitif ac yn ystyriol a dylai staff, preswylwyr a pherthnasau fod yn gwbl ymwybodol ei fod yn cael ei ddefnyddio. 

Rheolaeth PEG: Ystyr PEG yw ‘gastronomeg endosgopig drwy’r croen’. Defnyddir PEG pan nad yw pobl yn gallu llyncu neu fwyta digon o fwyd ac mae’n rhaid eu bwydo’n artiffisial. Mae rhai cyflyrau’n effeithio ar bobl am gyfnod byr ac efallai y bydd angen bwydo rhai pobl drwy diwb am sawl blwyddyn. Mae anghenion pob claf yn wahanol a bydd clinigwyr a deietegwyr yn llunio cynlluniau penodol yn seiliedig ar y rhain.

Safonau Gofynnol Cenedlaethol (Cymru): Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol wedi cael eu defnyddio i bennu a yw cartrefi gofal yn darparu gofal digonol ac yn diwallu anghenion sylfaenol y bobl sy’n byw ynddynt. Mae’r safonau hyn, sy’n cael eu monitro gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC), yn mynd i’r afael â'r holl agweddau ar gartrefi gofal, gan gynnwys symud i mewn, gofalu am breswylwyr, diogelwch a phreifatrwydd, a chwynion am safonau gofal. Bydd Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn mynd y tu hwnt i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (gweler isod).

Staff gofal: Gweithwyr gofal cymdeithasol sy’n cael eu cyflogi i alluogi, cynorthwyo a gofalu am bobl hŷn mewn cartrefi gofal drwy ddarparu cymorth a gofal personol yn eu bywydau bob dydd.

Therapyddion Lleferydd ac Iaith (SALT): Mae’r therapyddion hyn yn darparu triniaethau, cymorth a gofal i blant ac oedolion sy’n cael trafferth cyfathrebu, ac efallai y byddant yn cael eu cynnwys pan fydd pobl yn ei chael yn anodd bwyta, yfed a llyncu. 

Tîm Amlddisgyblaethol: Ystyr tîm amlddisgyblaethol yw grŵp o weithwyr iechyd a/neu ofal cymdeithasol sy’n gweithio mewn gwahanol ddisgyblaethau a phroffesiynau (er enghraifft, seiciatryddion, gweithwyr cymdeithasol, deietegwyr, ffisiotherapyddion). Bydd cyfansoddiad y tîm yn amrywio yn dibynnu ar anghenion y cleient a blaenoriaethau lleol. Mae enghreifftiau lle mae cynrychiolwyr o sefydliadau’r trydydd sector yn rhan o’r tîm hefyd (er enghraifft, gweithwyr cymorth dementia). Mae timau amlddisgyblaethol yn gallu ymateb yn well i gleientiaid y mae angen mwy nag un gweithiwr proffesiynol arnynt. Dylent gyfarfod yn rheolaidd i drafod achosion unigol a chynllunio'r ffyrdd gorau o ymyrryd.

Y Fframwaith Arsylwadol Byr ar gyfer Arolygu (SOFI): Cafodd y fframwaith gwreiddiol (SOFI 1) ei ddylunio ar gyfer y Comisiwn Arolygu Gofal Cymdeithasol i’w ddefnyddio wrth arolygu gwasanaethau ar gyfer pobl â dementia neu anableddau dysgu dwys. Mae wedi cael ei ddatblygu ymhellach gan y Ganolfan Astudiaethau Dementia Cymhwysol a'r Cyngor Ansawdd Gofal (SOFI 2) i gofnodi profiadau pobl sy’n defnyddio gwasanaethau ond efallai nad ydynt yn gallu mynegi hynny drostynt eu hunain. Dim ond pobl sydd wedi’u hyfforddi i ddefnyddio SOFI ddylai wneud hynny. Dylid ei ddefnyddio’n sensitif ac yn ystyriol a dylai staff, preswylwyr a pherthnasau fod yn gwbl ymwybodol ei fod yn cael ei ddefnyddio.

Y Fframwaith Synhwyrau (neu Fframwaith y Chwe Synnwyr): Mae’r fframwaith hwn yn nodi chwe dimensiwn sy’n sail i ‘ofal sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd’ ac yn mynd i'r afael â’r elfennau allweddol sy’n pennu gofal ar gyfer tri grŵp o bobl ym maes gofal: pobl hŷn, teuluoedd a staff. Mae’n cynnwys y canlynol:

  • synnwyr o ddiogelwch (teimlo’n ddiogel);
  • synnwyr o barhad (cyfle i feithrin cysylltiadau a pherthnasoedd);
  • synnwyr o berthyn (teimlo’n rhan o bethau);
  • synnwyr o bwrpas (cael nodau i anelu tuag atynt);
  • synnwyr o gyflawniad (gwneud cynnydd tuag at y nodau hyn)
  • synnwyr o bwysigrwydd (teimlo eich bod yn bwysig fel unigolyn).

Datblygwyd y fframwaith Synhwyrau gan Mike Nolan a thîm ym Mhrifysgol Sheffield (2006)6.

Y Gronfa Gofal Canolraddol: Ym mis Rhagfyr 2013, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn sefydlu'r Gronfa Gofal Canolraddol er mwyn annog cydweithredu rhwng gwasanaethau cymdeithasol, iechyd a thai, a phartneriaid yn y trydydd sector a’r sector annibynnol. Bwriad y Gronfa yn wreiddiol oedd helpu pobl hŷn i fod yn annibynnol ac aros yn eu tai eu hunain. Mae hyn yn cynnwys osgoi derbyn pobl i’r ysbyty’n ddiangen a derbyn pobl i ofal preswyl yn amhriodol, yn ogystal ag oedi cyn rhyddhau pobl o'r ysbyty.  Mae'r gronfa wedi cael ei hehangu i gynnwys pobl anabl a phant erbyn hyn.


1 - Duerden, M et al Polypharmacy and medicines optimisation; Making it Safe and Sound Kings Fund 2013.  https://www.kingsfund.org.uk/sites/default/files/field/field_publication_file/polypharmacy-and-medicines-optimisation-kingsfund-nov13.pdf 

2 - http://www.careinspectorate.com/images/documents/168/How%20we%20inspect%20care%20services%20and%20what%20goes%20into%20insp%20reports.pdf 

3 - Cynghrair Henoed Cymru Diffinio Gwasanaethau Ataliol, 2015  http://www.agealliancewales.org.uk/preventative-services

4 - Richter T, Meyer G, Möhler R, Köpke S (Rhagfyr 12, 2012). "Psychosocial interventions for reducing antipsychotic medication in care home residents". In Köpke, Sascha. The Cochrane database of systematic reviews 12: CD008634. doi:10.1002/14651858.CD008634.pub2. PMID 23235663.

5 - Nid yw deddfwriaeth 2006 wedi cael ei ddiddymu: gweler y canllawiau statudol ar ran 9 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 http://dera.ioe.ac.uk/23038/4/150505pt9guidanceen.pdf

6 - NOLAN, M. R., BROWN, J., DAVIES, S., NOLAN, J. a KEADY, J. (2006). The Senses Framework: improving care for older people through a relationship-centred approach. Getting Research into Practice (GRiP) Report No 2. Project Report. University of Sheffield.  http://shura.shu.ac.uk/280/1/PDF_Senses_Framework_Report.pdf