Cylch Gorchwyl

Adolygiad o drefniadau eiriolaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Diffiniadau

Gweler adran 5(4) o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) i gael diffiniad o eiriolaeth.[1]

Bydd yr adolygiad hwn yn hoelio sylw ar eiriolaeth o fewn ei ystyr yn niffiniad Action for Advocacy: ‘Cymryd camau i helpu pobl i ddweud beth sydd eisiau arnyn nhw, i sicrhau eu hawliau, i gynrychioli eu buddiannau ac i sicrhau’r gwasanaethau angenrheidiol yw eiriolaeth. Bydd eiriolwyr a chynlluniau eiriolaeth yn gweithio mewn partneriaeth â’r bobl y maen nhw’n eu cefnogi ac yn ochri gyda nhw. Mae eiriolaeth yn hybu cynhwysiant cymdeithasol, cydraddoldeb a chyfiawnder’. [2]

Cyfleusterau sy’n darparu gofal, gan gynnwys gofal nyrsio, i oedolion yw cartrefi gofal ac maen nhw’n cael eu cofrestru o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000.   

Rhesymeg yr adolygiad

Tanlinellodd Advocacy Counts 3 y ddarpariaeth anghyson o ran eiriolaeth i bobl hŷn ledled Cymru, ac yn enwedig y bylchau daearyddol yn y ddarpariaeth.[3]

Mae llawer o bobl hŷn yn dod ag achosion i’n Tîm Gwybodaeth ac Ymholiadau sy’n ymwneud â’u profiadau nhw o gartrefi gofal.[4] Mae llawer o’r achosion hyn yn ymwneud â sefyllfaoedd lle buasai’r cyfle i gysylltu ag eiriolwr annibynnol yn fuddiol a lle gallai hynny fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol.

Tanlinellodd cyfweliadau a thrafodaethau gyda chyrff eiriolaeth, cartrefi gofal a chomisiynwyr fod pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn arbennig o agored i niwed[5] ac y gall eiriolaeth gael ei gweld fel mesur diogelu pwysig ac, er bod gwerth eiriolaeth a’r angen amdani yn cael eu cydnabod yn eang, nad yw ar gael ym mhobman.[6]

Mae’r ymchwil ragarweiniol sydd wedi’i gwneud yn haeru y gall eiriolaeth fod yn hanfodol bwysig ar bob adeg yn ystod penderfyniadau ynghylch cartrefi gofal: wrth benderfynu mynd i mewn, wrth fyw yn y cartref, neu wrth ymadael ag ef.[7]

Pwerau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae gan y Comisiynydd bŵer i adolygu trefniadau ar gyfer eiriolaeth, neu fethiant i wneud trefniadau, drwy bwerau a swyddogaethau sy’n deillio o adran 5 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006.

Rhaid i’r adolygiad gael ei gynnal i asesu a ydy’r trefniadau’n effeithiol, ac i ba raddau y maen nhw’n effeithiol, o ran diogelu a hybu buddiannau pobl hŷn.

Sicrhau gwybodaeth

O dan Reoliad 4 o Reoliadau Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2007 caiff y Comisiynydd ei gwneud yn ofynnol i bobl benodol[8] ddarparu gwybodaeth y mae yn ei barn hi’n angenrheidiol neu’n hwylus ei chael at ddibenion yr adolygiad.

Pŵer i fynd i mewn ac i gyf-weld

O dan adran 13 o Ddeddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 caiff y Comisiynydd neu berson a awdurdodir ganddi, at ddibenion adolygiad, fynd i unrhyw fangre, heblaw annedd breifat, er mwyn cyf-weld â pherson hŷn sy’n cael llety neu ofal yno, ac maen nhw’n cael cyf-weld â’r person hŷn gyda’i gydsyniad.

Y prif nod

Bydd yr adolygiad yn ymdrin â threfniadau eiriolaeth y canlynol:

 -    

Llywodraeth Cymru (Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant),

 -

awdurdodau lleol Cymru,

 -

Byrddau Iechyd Lleol Cymru os oes trefniadau cyd-gomisiynu wedi’u sefydlu, a

 -

chartrefi gofal a chartrefi nyrsio yr awdurdodau lleol a chartrefi gofal a chartrefi nyrsio annibynnol

 

i sefydlu a ydy’r trefniadau sydd yn eu lle yn effeithiol ac i ba raddau y maen nhw’n effeithiol, i ddiogelu a hybu buddiannau pobl hŷn. Wrth bennu buddiannau pobl hŷn, bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n rhoi sylw priodol i Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig i Bersonau Hŷn[9] a Deddf Hawliau Dynol 1998.

Bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n gwrando ar bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal er mwyn i’w barn a’u profiadau nhw helpu i lunio datblygiad eiriolaeth yng Nghymru.

Cylch Gorchwyl

Adolygu’r ddarpariaeth ynglŷn ag eiriolaeth i bobl hyn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Bydd hyn yn cynnwys eiriolaeth statudol ac eiriolaeth annibynnol gyffredinol.

Sicrhau a chyflwyno barn a phrofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.

Methodoleg

Adeiladu ar yr ymchwil ragarweiniol sydd wedi’i gwneud eisoes, gan ddiweddaru’r fframwaith o gyfraith a pholisi sy’n berthnasol i ddarparu eiriolaeth, y fframwaith rheoleiddio a chyfweliadau â rhanddeiliaid.

Sicrhau gwybodaeth gan y sefydliadau y mae eu trefniadau eiriolaeth, neu eu methiant i wneud trefniadau eiriolaeth, yn cael eu hadolygu.

Ymweld â detholiad o gartrefi gofal i gyfarfod â nhw ac i sicrhau barn a phrofiadau pobl hŷn sy’n byw ynddyn nhw.

Sicrhau barn staff, eiriolwyr, perthnasau a gofalwyr.

Sicrhau enghreifftiau o arferion da ac arferion gwael.

Paratoi adroddiad a fydd yn nodi canfyddiadau, casgliadau ac argymhellion y Comisiynydd a’i anfon at Brif Weinidog Cymru, y Cynulliad a dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig, ac at y sefydliadau y mae eu trefniadau neu eu methiant i wneud trefniadau wedi’u hadolygu.

Amserlen

Cyhoeddi  

    Medi 2011

Gofyn am wybodaeth

    Hydref – Rhagfyr  2011

Ymweld â chartrefi gofal i gyf-weld â thrigolion

    Tachwedd 2011- Ionawr 2012

Ysgrifennu’r adroddiad        

    Ionawr - Mai 2012

Lansio’r adroddiad

    Haf 2012

  

 



[1] Trefniadau a wneir gan berson i drefnu bod personau ar gael – (a) i gynrychioli barn a dymuniadau pobl hŷn berthnasol yng Nghymru; (b) i roi cyngor a chymorth o fath rhagnodedig i bobl hŷn berthnasol yng Nghymru. Y math o gyngor a chymorth sydd wedi’i ragnodi yw– 1. Rhoi cyngor a chymorth i bobl hŷn yng Nghymru y bwriedir iddo eu galluogi  a’u helpu i fynegi eu barn a’u dymuniadau ar lafar neu drwy ddefnyddio unrhyw gyfrwng cyfathrebu arall, a 2. Rhoi cyngor (gan gynnwys gwybodaeth) i bobl hŷn berthnasol am eu hawliau a’u lles.

[2] www.actionforadvocacy.org.uk

[3] Advocacy Counts 3 Age Cymru/Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Mawrth 2011

[4] 196 o ymholiadau: Beth mae Pobl Hŷn yn ei ddweud wrthon ni, Mai 2011

[5] Wedi’i seilio ar ddiffiniad o fod yn agored i niwed oherwydd y sefyllfa benodol

[6] Eiriolaeth a Chartrefi Gofal, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Elsmore a Griffiths, Mehefin 2011

[7] Eiriolaeth gyda Phobl Hŷn yng Nghymru – Astudiaeth Gwmpasu Gychwynnol, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Dunning, Mehefin 2010

[8] Gweler y diffiniad o ‘person rhagnodedig’ yn Rheoliad 4

[9] Y Cenhedloedd Unedig 1991. Yn benodol, mae Erthygl 3: Gofal, yn datgan y ‘dylai personau hŷn gael mynediad at wasanaethau cymdeithasol a chyfreithiol i wella’u hymreolaeth, eu hamddiffyniad a’u gofal‘, cael defnyddio gofal sefydliadol sy’n darparu amddiffyniad, adsefydliad ac ysgogiad a hynny mewn ‘amgylchedd trugarog a diogel, a mwynhau hawliau dynol, gan gynnwys yr hawl i wneud eu penderfyniadau eu hunain ‘am eu gofal ac am ansawdd eu bywydau’.

Mynd yn ôl