Sicrhau Lleisiau i Bobl Hŷn: Mynediad Pobl Hŷn at Eiriolaeth Annibynnol yng Nghymru

Un o’r agweddau pwysig ar fy rôl fel Comisiynydd yw sicrhau bod pobl hŷn yn cael llais cryf a bod yn llais i’r rheini sydd heb lais. Mae’r egwyddor hon yn elfen hanfodol yn fy Fframwaith Gweithredu 2013-17, sy’n amlinellu fy ymrwymiad i ‘weithredu i sicrhau bod gan bobl hŷn sydd mewn sefyllfa o fod yn agored i niwed eu llais cryf eu hunain, a’u bod yn cael eu clywed, gan gynnwys hawl i eiriolaeth annibynnol, ar gyfer y rhai sydd â galluedd, a’r rhai sydd heb alluedd, fel ei gilydd’. Nid yn unig y mae pobl hŷn yn dweud wrthyf fod hyn yn bwysig iddyn nhw, ond mae hefyd yn bwysig i’r cyhoedd yn gyffredinol sydd am i bobl hŷn ‘gael eu clywed a chael llais’, gan weld fy rôl fel Comisiynydd fel ffordd i hyrwyddo hyn. 

Mae’n glir i mi wrth ymwneud â phobl hŷn, ac ar sail fy ngwaith achosion a’m hymgysylltu cyson â sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau i bobl hŷn, yn enwedig sefydliadau’r trydydd sector a Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol ledled Cymru, fod nifer mawr o bobl hŷn yn parhau i’w chael yn anodd cael llais.

Dyma pam y penderfynais adolygu’r graddau y mae pobl hŷn yng Nghymru’n gallu cael gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, yn cynnwys amgylchiadau lle mae ganddynt hawl i’w gael, er mwyn eu galluogi i gymryd rhan a bod â rhan ganolog mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywyd.

Er bod nifer o gamau gwahanol yn cael eu cymryd nawr, mae’n glir bod nifer mawr o bobl hŷn nad ydynt yn gallu derbyn gwasanaeth eiriolaeth annibynnol, yn fwy cyffredinol ac mewn perthynas â’r dyletswyddau mewn deddfwriaeth. Nid yw eiriolaeth annibynnol yn cael ei defnyddio’n gyson fel ffordd i wireddu hawliau pobl hŷn, ym mhob agwedd ar ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ledled Cymru.

Cliciwch yma i lawrlwytho Sicrhau Lleisiau i Bobl Hŷn: Mynediad Pobl Hŷn at Eiriolaeth Annibynnol yng Nghymru