Hysbysiadau i’r Wasg

  • Barn derfynol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ar yr ymateb i’r adolygiad ‘Gofal gydag Urddas?’

    01.11.11

    Mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wedi barnu bod yr holl gyrff sydd yn destun yr Adolygiad ‘Gofal gydag Urddas?’ wedi darparu digon o wybodaeth i’w bodloni y byddant yn cydymffurfio gyda’i 12 argymhelliad. Dywedodd Ruth Marks: “Mae’r holl gyrff wedi derbyn fy argymhellion ac wedi datblygu cynlluniau gweithredu clir i wneud yn siŵr y byddant yn gwneud gwahaniaeth mewn ymarfer...

  • Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyhoeddi Adolygiad o Drefniadau Eiriolaeth yng Nghymru

    30.9.11

    Mae Ruth Marks wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio’i phwerau cyfreithiol i gynnal Adolygiad o’r trefniadau ynglŷn ag eiriolaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru. Bydd yr Adolygiad yn asesu a yw’r trefniadau presennol yn effeithiol, ac i ba raddau y maen nhw’n effeithiol, o ran diogelu a hybu buddiannau pobl hŷn mewn cartrefi gofal, gan gasglu tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.

  • Gofal gydag Urddas?

    14.3.11

    Mae'r ffordd y caiff rhai pobl hŷn eu trin mewn ysbytai yng Nghymru yn "warthus o annigonol". Dyna'r neges heddiw (14 Mawrth 2011) gan Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wrth iddi gyhoeddi adroddiad pwysig ar ei hadolygiad o brofiadau pobl hŷn mewn ysbytai yng Nghymru.

  • Datganiad ar Gau Cartrefi Gofal

    01.12.10

    Un o swyddogaethau’r Comisiynydd Pobl Hŷn yw “hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru ac o’r angen i ddiogelu’r buddiannau hynny”. Mae gan y Comisiynydd ddiddordeb penodol yn anghenion pobl hŷn sydd mewn sefyllfaoedd lle y maen nhw’n agored i niwed.

  • 8 o bob 10 yn dweud bod pobl hŷn yn haeddu hawliau cryfach

    19.8.10

    Mae pôl gan ICM o 1,500 o bobl o bob oed, a gomisiynwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, yn dangos cefnogaeth lethol ymhlith pobl o bob oed i set o hawliau penodol i bobl hŷn er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu trin ag urddas a pharch. Byddai 8 o bob 10 (79%) o bobl yn gryf o blaid cyflwyno set o hawliau.

  • Galwad am dystiolaeth i Adolygiad o brofiadau pobl hŷn yn yr ysbyty

    15.6.10

    Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal Adolygiad ynghylch a yw pobl hŷn yn cael eu trin â pharch ac urddas tra byddan nhw yn yr ysbyty.

  • Ddeddf Cydraddoldeb

    08.4.10

    Rhaid i’r Llywodraeth roi’r flaenoriaeth uchaf i weithredu’r Ddeddf Cydraddoldeb

  • Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cyhoeddi ei Hadolygiad Cyntaf

    24.3.10

    Heddiw, cyhoeddodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Ruth Marks, y bydd ei Hadolygiad cyntaf yn ymwneud â thriniaeth pobl hŷn yn yr ysbyty, yn enwedig o safbwynt urddas a pharch.

  • Gweithio tuag at well Cymru i bobl hŷn

    11.11.09

    Heddiw bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cyflwyno’i Hadolygiad Blynyddol i Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Peter Hain AS, yn Nhŷ’r Cyffredin yn San Steffan.

  • Adolygiad Blynyddol Hysbysiad I'r Wasg

    01.10.09

    Heddiw bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn trosglwyddo’i Hadolygiad Blynyddol i Brif Weinidog Cymru, y Gwir Anrh. Rhodri Morgan AC.

  1. 1
  2. 2
  3. Next page

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.