Newyddion
All news
Cyfarfod gyda’r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant
13.2.12
Cyfarfu Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gyda Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, ar 6 Chwefror i drafod y problemau y mae pobl hŷn yng Nghymru yn eu wynebu.
Cododd Ruth faterion fel toriadau’r sector cyhoeddus a sut y maent yn effeithio ar fywydau pobl hŷn. Pwysleisiodd yn arbennig yr effaith ar agenda atal Llywodraeth Cymru, a’r ofnau y bydd effaith anghymesur ar bobl hŷn oherwydd toriadau i wasanaethau fel gofal cymdeithasol, trafnidiaeth gymunedol a chyhoeddus. Buont yn trafod y llythyr a anfonodd Ruth yn ddiweddar at y Gweinidog oedd yn codi pryderon am yr effaith niweidiol y byddai dileu’r cyllid i’r Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar Drafnidiaeth Gymunedol yn ei gael ar fywydau nifer o bobl hŷn ar draws Cymru.
Soniodd Ruth am waith diweddar y Comisiwn ar wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i bobl hŷn, a’r cynlluniau i gyhoeddi canllaw i gyrff cyhoeddus. Roedd y Gweinidog yn cydnabod bod hwn yn fater allweddol, gan nodi bod adolygiad o’r gwasanaethau hyn ar y gweill, yn ogystal â grŵp ymgynghorol ar ddiwygiadau lles, a fyddai’n edrych ar gyngor yn y maes allweddol hwn.
Soniwyd am y gwaith y mae’r Comisiwn Pobl Hŷn wedi’i wneud ar roi pwysau ar Lywodraeth y DU i ymateb yn gadarnhaol i argymhellion Dilnot ar dalu am ofal, yn ogystal â Chyllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Thlodi newydd Llywodraeth Cymru.
Nododd Ruth hefyd ei Hadolygiadau diweddar a chyfredol, a’r cysylltiadau gyda llywodraeth leol o ran rhyddhau yn effeithiol o’r ysbyty a threfniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal. Gorffennodd trwy gyfeirio at waith y Comisiwn ar amddiffyn oedolion a’r cyfarfodydd defnyddiol diweddar gyda thîm trais domestig Llywodraeth Cymru.