Newyddion
All news
Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion
07.2.12
Mae Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar Arlwyo mewn Ysbytai a Maeth Cleifion, yn seiliedig ar adroddiad gwreiddiol yr Archwilydd Cyffredinol ym mis Mawrth 2011.
Dywedodd Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a gyflwynodd dystiolaeth i’r pwyllgor yn ystod eu gwaith: “Mae’r adroddiad hwn yn cefnogi nifer o ganfyddiadau ac argymhellion o’m hadolygiad i brofiadau cleifion mewn ysbytai yng Nghymru.
“Roedd canfyddiadau fy adolygiad, a’r argymhellion ymarferol sydd wedi cael eu derbyn yn llwyr, yn cynnwys materion fel pwysigrwydd rhoi cymorth wrth fwyta ac yfed, y rôl allweddol sydd gan brif nyrsys wardiau a’r rhai â chyfrifoldeb, pwysigrwydd cyfathrebu da, defnydd effeithiol o wirfoddolwyr a phwysigrwydd rhannu arferion da a gwerthfawrogi profiad cleifion.
“Mae bwyd maethlon a blasus yn rhan hanfodol o wella. Efallai bod pobl hŷn mewn ysbytai angen cymorth ar adegau i ddewis o’r fwydlen neu i ymestyn at eu bwyd neu eu diod. Mae’n bwysig gallu derbyn cymorth gan staff, perthnasau neu ffrindiau os ydyn nhw’n gallu bod yn bresennol adeg pryd bwyd, neu gan wirfoddolwyr hyfforddedig.
“Rwyf wedi ymweld ag Ysbyty Maelor Wrecsam a gweld ansawdd y bwyd sy’n cael ei baratoi yno a’r gofal y maen nhw’n ei gymryd gyda dewis a chymorth. Rwyf hefyd wedi cyfarfod â gwirfoddolwyr brwdfrydig ac effeithiol fel gwirfoddolwyr Robin yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd.
“Mae’r adroddiad hwn yn cadw pwnc arlwyo mewn ysbytai yn gyfoes ac mae’n dangos pwysigrwydd monitro parhaus. Rwy’n ymweld â phob Bwrdd Iechyd ym mis Mawrth i weld a ydyn nhw’n cyrraedd eu targedau ar gyfer gwella urddas a pharch a byddaf yn cyhoeddi canfyddiadau fy ymweliadau.”