Newyddion

All news

Ymgynghoriad ar Drafft o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol Comisiwn Pobl Hŷn Cymru

01.2.12

Dechrau’r ymgynghoriad:     Dydd Mercher 1 Chwefror 2012

Diwedd yr ymgynghoriad:    Dydd Mercher 29 Chwfror 2012

Cefndir

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn cyfuno ac yn disodli’r deddfau blaenorol ar atal gwahaniaethu mewn un Ddeddf. Y nod yw symleiddio’r gyfraith a’i chryfhau, gan ddileu anghysondebau a’i gwneud yn haws i bobl ei deall a chydymffurfio â hi. Daeth y rhan fwyaf o’r Ddeddf i rym ar 1 Hydref 2010.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys dyletswydd cydraddoldeb newydd i’r sector cyhoeddus, a hynny yn lle’r dyletswyddau ar wahân ynglŷn â hil, anabledd a rhywedd a oedd yn bodoli o’r blaen. Daeth y ddyletswydd yma i rym ar 5 Ebrill 2011.

Nod y ddyletswydd cydraddoldeb yw sicrhau bod yr awdurdodau cyhoeddus a’r rhai sy’n cyflawni swyddogaeth gyhoeddus yn ystyried sut y gallan nhw wneud cyfraniadau cadarnhaol at gymdeithas decach drwy hybu cydraddoldeb a chysylltiadau da yn eu gweithgareddau beunyddiol. Mae’r ddyletswydd yn sicrhau bod ystyriaethau cydraddoldeb yn cael eu hymgorffori wrth i bolisïau gael eu llunio ac wrth i wasanaethau gael eu cyflawni, a bod y rhain yn cael eu hadolygu’n gyson. Fe ddylai hyn sicrhau gwell canlyniadau i bawb.

Dyma dri nod y ddyletswydd cydraddoldeb:

  1. diddymu gwahaniaethu, aflonyddu ac erledigaeth anghyfreithlon ac     ymddygiad arall sydd wedi’i wahardd gan y Ddeddf Cydraddoldeb;
  2. hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng pobl sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a’r rhai nad ydyn nhw’n ei rhannu;
  3. meithrin perthynas dda rhwng pobl sy'n rhannu nodwedd warchodedig a'r rhai nad ydyn nhw’n ei rhannu.


Mae’r ddyletswydd gyffredinol newydd yn ymdrin â’r nodweddion gwarchodedig a ganlyn:

  • Oed
  • Rhyw
  • Hil – gan gynnwys tarddiad ethnig neu genedlaethol, lliw neu genedligrwydd
  • Anabledd
  • Ailbennu rhywedd
  • Beichiogrwydd a mamolaeth
  • Cyfeiriadedd rhywiol
  • Crefydd neu gred – gan gynnwys diffyg cred
  • Mae’n berthnasol i briodas a phartneriaeth sifil, ond dim ond o ran y gofyniad bod rhaid rhoi sylw priodol i’r angen i gael gwared ar wahaniaethu.

Mae’r mwyafrif o gyrff cyhoeddus Cymru hefyd yn dod o dan ddyletswyddau penodol sydd wedi’u gosod arnyn nhw gan Lywodraeth Cymru. Mae’r dyletswyddau penodol yn nodi’r camau y mae’n rhaid i’r cyrff hyn yng Nghymru eu cymryd er mwyn dangos eu bod yn bodloni’r ddyletswydd gyffredinol.

O ganlyniad i hyn, mae’n rhaid i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Strategol ac Amcanion Cydraddoldeb erbyn 2 Ebrill 2012 fan bellaf, gan ddatgan yr hyn y bydd yn ei wneud i gyflawni’r dyletswyddau penodol. Rhaid hefyd i’r Comisiynydd fod wedi ymwneud â phobl fel rhan o waith casglu gwybodaeth berthnasol er mwyn gosod ei Hamcanion. Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn am sylwadau ar amcanion drafft y Comisiynydd ac ar ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol drafft.

Sut i ymateb

Anfonwch eich sylwadau erbyn 29 Chwefror 2012 drwy unrhyw un o’r ffyrdd canlynol:

E-bost:  gofyn@olderpeoplewales.com gan osod ‘Ymateb i’r Amcanion Cydraddoldeb’ gyferbyn â’r pwnc

Post

Ymgynghoriad Amcanion Cydraddoldeb
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd
CF10 5FL

Drwy gyfweliad ffôn

Ffoniwch 08442 640670 i drefnu amser addas.

Gwybodaeth ychwanegol

Caiff unrhyw ymateb y byddwch yn ei anfon ei weld yn llawn gan staff y Comisiynydd Pobl Hŷn sy’n ymdrin â materion yr ymgynghoriad hwn. Fe allai gael ei weld hefyd gan aelodau eraill o’r staff i’w helpu i gynllunio ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Gallai’r Comisiynydd Pobl Hŷn gyhoeddi’r ymatebion i’r ymgynghoriad hwn. Fel rheol, mae enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) y person neu’r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Mae hyn yn helpu i ddangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol. Os nad ydych chi am i’ch enw neu’ch cyfeiriad chi gael eu cyhoeddi, dywedwch wrthon ni mewn ysgrifen wrth anfon eich ymateb.

Dogfennau ymgynghoriad

Fersiwn Word                             Fersiwn PDF

Fformatau hygyrch ac ieithoedd gwahanol

Os oes arnoch angen y ddogfen yma ar ffurf wahanol, er enghraifft print brasach neu mewn iaith gwahanol, cysylltwch â swyddfa’r Comisiynydd ar 08442 640670. 

Facebook Twitter DZone It! Digg It! StumbleUpon Technorati Del.icio.us NewsVine Reddit Blinklist Add diigo bookmark

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.