Newyddion
All news
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n cefnogi Diwrnod Gweithredu ar Urddas
31.1.12
Urddas a Pharch – Hawl i bawb
“Mae urddas a pharch yn hawliau dynol sylfaenol sy’n gorfod cael eu hymgorffori ym mhob agwedd ar y gymdeithas i bob cenhedlaeth.” Dyna neges Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, i gefnogi’r Diwrnod Gweithredu ar Urddas ar 1 Chwefror.
Nod y diwrnod, sy’n cael ei drefnu gan y Rhwydwaith Urddas mewn Gofal, yw sicrhau bod pobl mewn gofal yn cael eu trin fel unigolion, a’u bod yn cael dewis, rheolaeth ac ymdeimlad o bwrpas yn eu bywyd bob dydd ynghyd â gweithgareddau symbylol.
Dywedodd Ruth Marks “Mae urddas a pharch bob amser wedi bod yn un o’r materion allweddol i’r Comisiwn Pobl Hŷn ac rydyn ni’n cefnogi’r Diwrnod Gweithredu ar Urddas fel ffordd arall eto o godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd urddas mewn gofal.
“Llwyddodd fy Adolygiad i ‘Gofal gydag Urddas?’ i dynnu sylw at y diffyg ymagwedd gyson at drin pobl hŷn ag urddas a pharch yn yr ysbyty yng Nghymru. Gwelodd yr Adolygiad fod triniaeth rhai pobl hŷn yn ysbytai Cymru yn “warthus o annigonol” ac rwyf wedi defnyddio’r pwerau cyfreithiol sydd gen i i alw am newid sylfaenol i fynd i’r afael â hyn.”
Erbyn hyn, mae’r Comisiwn yn cynnal proses ddilynol drylwyr i sicrhau bod y Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth GIG a Llywodraeth Cymru yn cyflawni’r argymhellion ar gyfer gwella a’r cynlluniau gweithredu y maen nhw wedi’u gosod.