Newyddion
All news
Gwasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Hŷn
30.1.12
Cynhaliodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru gynhadledd lwyddiannus ar 26 Ionawr 2012 yn edrych ar Wasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Bobl Hŷn. Roedd y digwyddiad yn gyfle i gasglu cynrychiolwyr o amrediad o sectorau a chyrff yn ogystal â grwpiau pobl hŷn at ei gilydd i rannu arfer gorau a sut i orsegyn y sialensau a wynebir wrth gyflwyno gwell gwybodaeth a chyngor.
Dywedodd Ruth Marks “Mae pobl hŷn yn parhau i ddweud wrthyf eu bod yn cael problemau i gael gafael ar wybodaeth a chyngor da. Maent yn dweud nad ydynt yn gwybod ble i fynd am gymorth, a phan maent yn derbyn cyngor, dydyn nhw ddim yn ei ddeall neu mae’n amherthnasol a phan fyddant yn derbyn gwybodaeth dda yn aml mae hynny’n rhy hwyr.
“Rhaid i ni sicrhau bod yr wybodaeth a’r cyngor sydd ar gael yn addas i’r pwrpas ac wedi’i deilwra i ddiwallu eu hanghenion. Mae angen i wybodaeth a chyngor i bobl hŷn fod yn glir, hygyrch a chywir.”
Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o waith parhaus y Comisiwn ar wybodaeth a chyngor a fydd yn esgor ar gynhyrchu dogfen ganllaw ar gyfer cyrff cyhoeddus, casglu arfer gorau ac argymhellion ymarferol ar gyfer newid. Bydd y gynhadledd yn fodd i seilio’r canllaw ar brofiadau bywyd go iawn darparwyr llinell flaen yn ogystal ag ar y problemau y mae pobl hŷn yn eu wynebu.
Gwyliwch sioe sleidiau sain/fideo a ddefnyddiwyd yn y digwyddiad isod.