Newyddion
All news
Trafnidiaeth Cymunedol – hanfodol i nifer o bobl
30.1.12
Mae penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddirwyn y cyllid ar gyfer y Fenter Tocynnau Teithio Rhatach ar gyfer Trafnidiaeth Cymunedol (CTCFI) i ben ar ddiwedd Mawrth 2012 wedi achosi pryder mawr ymysg pobl hŷn ar draws Cymru. Sefydlwyd y fenter i oresgyn yr anghyfartaledd yr oedd y bobl hŷn hynny nad oeddent yn gallu defnyddio eu tocyn bws ar drafnidiaeth cyhoeddus confensiynol yn eu wynebu ac mae wedi bod yn hanfodol i nifer o bobl hŷn.
Dywedodd Ruth Marks: “Fel Comisiynydd rwyf yn poeni y bydd dirwyn y fenter i ben yn cael effaith niweidiol ar fywydau nifer o bobl hŷn ar draws Cymru. Mae’r Comisiwn wedi derbyn nifer fawr o ymholiadau gyda phryderon ynglŷn â sut y mae nifer o bobl hŷn yn dibynnu ar gynlluniau trafnidiaeth cymunedol, nid yn unig ar gyfer cael gafael ar amrediad o wasanaethau hanfodol ond hefyd i barhau yn brysur yn gymdeithasol, yn integredig ac i gysylltu gyda ffrindiau a theulu.
“Rwyf wedi ysgrifennu at Carl Sargeant,Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol i rannu fy mhryderon am yr effaith niweidiol y byddai toriad difrifol yn y grant ar fyr rybudd yn ei gael ar ddyfodol gwasanaethau a llwybrau bysiau.
“Rwyf wedi gofyn am sicrwydd bod Llywodraeth Cymru yn cydnabod y problemau y mae nifer o bobl hŷn nad ydynt yn gallu defnyddio eu tocyn bws ar drafnidiaeth cyhoeddus confensiynol yn eu wynerbu a’i bod yn ystyried mesurau i fynd i’r afael â’u hanghenion trafnidiaeth.”
Mae nifer o’r bobl hŷn sydd yn defnyddio’r gwasanaethau hyn yn byw mewn cymunedau gwledig nad ydynt yn cael eu gwasanaethu gan y system trafnidiaeth cyhoeddus ac heb fodd o gael gafael ar ddulliau amgen o drefniadau trafnidiaeth. Mae’r Comisiwn yn ymwybodol bod y nifer sydd yn manteisio ar y cynllun cyfredol yn neilltuol o uchel ymysg pobl hŷn a fyddai fel arall yn wynebu unigrwydd sylweddol pe bai’r gwasanaethau hyn yn cael eu dileu.