Newyddion

All news

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyhoeddi Adolygiad o Drefniadau Eiriolaeth yng Nghymru

30.9.11

Mae Ruth Marks wedi cyhoeddi y bydd yn defnyddio’i phwerau cyfreithiol i gynnal Adolygiad o’r trefniadau ynglŷn ag eiriolaeth i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru

Bydd yr Adolygiad yn asesu a yw’r trefniadau presennol yn effeithiol, ac i ba raddau y maen nhw’n effeithiol, o ran diogelu a hybu buddiannau pobl hŷn mewn cartrefi gofal, gan gasglu tystiolaeth o ystod eang o ffynonellau, gan gynnwys pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal. Bydd yn gwneud argymhellion ymarferol ynglŷn â newid yn ôl yr angen.

Dywedodd Ruth Marks: “Mae llawer o’r ymholiadau sy’n dod i law yn ymwneud â phrofiadau pobl hŷn o fyw mewn cartrefi gofal yng Nghymru ac mae’r diffyg darpariaeth wedi dod i beri mwyfwy o bryder imi.

“Mae eiriolaeth yn hanfodol bwysig i helpu pobl i ddweud beth sydd eisiau arnyn nhw, i sicrhau eu hawliau, i gynrychioli eu buddiannau ac i sicrhau’r gwasanaethau angenrheidiol. Mae’r gwaith rhagarweiniol yn dangos bod y ddarpariaeth ar gyfer y math hanfodol yma o gymorth yn aml yn brin, sy’n golygu bod rhai o’r bobl hŷn fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn methu cael yr help y mae arnyn nhw ei angen.

“Yn rhinwedd fy swydd fel Comisiynydd annibynnol Pobl Hŷn Cymru, fy ngwaith i yw defnyddio fy mhwerau i sefyll dros bobl hŷn yng Nghymru ac fe fydda i’n gwneud argymhellion ymarferol fel rhan o’r Adolygiad i fynd i’r afael ag unrhyw bryderon ynghylch y trefniadau presennol ynglŷn ag eiriolaeth.”

Dywedodd Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Concern Morgannwg, sy’n darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol yn Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr:

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn wedi gwneud llawer iawn o waith pwysig ar ran pobl hŷn, fel y gwelwch chi yn ei hadroddiad blynyddol, ac rwy’n croesawu ei chyhoeddiad ynghylch Adolygiad o’r trefniadau ar gyfer eiriolaeth mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

“Mae darparu gwasanaethau eiriolaeth annibynnol, lleol i bobl hŷn yn chwarae rhan hanfodol i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y gwasanaethau, y driniaeth a’r parch y maen nhw’n eu haeddu.  Mae hyn yn arbennig o berthnasol i’r sawl y mae ei lais wedi’i wanhau drwy afiechyd neu newid amgylchiadau.  Mae sefydliadau Age Concern ledled Cymru’n gweld y gwir wahaniaeth y gall cymorth eiriolwr ei wneud drwy helpu rhywun hŷn i sicrhau newid cadarnhaol a gwella ansawdd ei fywyd.  Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad ac yn edrych ymlaen i gyfrannu at yr adolygiad.”

Facebook Twitter DZone It! Digg It! StumbleUpon Technorati Del.icio.us NewsVine Reddit Blinklist Add diigo bookmark

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.