Erchyllter Unigrwydd

16.12.14

Yr adeg hon o’r flwyddyn, gyda’r Nadolig yn nesáu, mae nifer ohonom yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’n teulu a’n ffrindiau, gan fwynhau holl hwyl a chwerthin yr ŵyl.

Ond i nifer o bobl hŷn, bydd y Nadolig yn ddiwrnod unig iawn, diwrnod ar eu pen eu hunain, diwrnod llawn tristwch. Fel hyn mae pob diwrnod i gynifer o bobl hŷn – does ganddyn nhw ddim i’w wneud a dim i edrych ymlaen ato.  

Felly, yr adeg hon o’r flwyddyn, meddyliwch am berson hŷn rydych chi’n ei adnabod, a allai fod yn unig y Nadolig hwn - rhowch gnoc ar eu drws, ewch i ddweud helo, neu gofynnwch iddo/iddi ddod draw am ddiod. Mae pethau bychain fel hyn yn aml yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr, gall wneud diwrnod rhywun.

Wrth gwrs, mae yna nifer o fudiadau sy’n gweithio’n ddiflino ledled Cymru i helpu pobl sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig. Mae RVS er enghraifft, yn darparu gwasanaeth pryd ar glud sy’n rhoi cyfle i berson hŷn gael sgwrs â rhywun yn ogystal â mwynhau pryd da. Mae Contact the Elderly yn cefnogi mwy o wirfoddolwyr nag erioed i gynnal sesiynau te prynhawn ar gyfer pobl hŷn, yn ogystal â rhoi cyfle i bobl unig fynd allan o’r tŷ a threulio amser yng nghwmni eraill. Mae mudiadau fel Age Connects Wales, Age Cymru a sawl un arall, yn darparu gwasanaeth cyfeillio hanfodol, y mae cynifer o bobl hŷn yn dibynnu arnyn nhw. Mae effaith gadarnhaol gwasanaethau fel y rhain yn amlwg: amcangyfrifir, er enghraifft, y gallai gwario £80 ar wasanaethau cyfeillio arbed hyd at £300 o gyllidebau eraill, drwy leihau’r angen am gefnogaeth ffurfiol, lefel uchel.  

Heb waith mudiadau fel y rhain, byddai pethau’n hyd yn oed gwaeth i hyd yn oed rhagor o bobl hŷn, a byddai effaith unigrwydd ar iechyd a lles pobl hŷn yn waeth byth. Felly mae’n bwysig cofio bod angen ein cefnogaeth arnyn nhw – yn enwedig yr adeg hon o’r flwyddyn – cefnogaeth a allai newid bywyd rhywun yn y pen draw.

Hyd yn oed gyda’r gwaith caled y mae’r mudiadau uchod yn ei wneud bob dydd, rydyn ni’n cyrraedd pwynt yng Nghymru lle mae nifer y bobl hŷn sy’n teimlo’n unig ac yn ynysig yn cyrraedd lefel epidemig. Nid yn unig mae hyn yn cynyddu’r pwysau ar y pwrs cyhoeddus, ond, yn bwysicach na hynny, mae’n cael effaith ofnadwy ar fywydau, iechyd a lles pobl, yr un effaith ag y byddai ysmygu 15 sigarét y diwrnod yn ei chael.  

Mae’n hanfodol bod teimlo’n unig ac yn ynysig yn cael ei gydnabod yn fater iechyd cyhoeddus pwysig er mwyn gallu rhoi’r sylw priodol iddo. Ond bydd hyn yn anodd – allwch chi ddim dal unigrwydd, felly nid yw’n cael ei gydnabod fel y dylai. Yn fwy na hynny, byddai cydnabod graddfa ac effaith unigrwydd yn adlewyrchu’r gymdeithas rydyn ni’n byw ynddi, cymdeithas, y gellid dadlau, sydd wedi troi ei chefn ar rai o’i dinasyddion mwyaf agored i niwed. 

Gallai unrhyw un ohonom deimlo’n unig ac yn ynysig unrhyw dro; mae’n rhywbeth sydd y tu hwnt i’n rheolaeth. Dim ond bryd hynny y byddwn ni’n sylweddoli pa mor erchyll yw teimlo’n unig ac yn ynysig. Dyna pam, fel Comisiynydd, y byddaf yn dal ati i weithio i sicrhau’r newid sy’n angenrheidiol i fynd i’r afael â’r epidemig modern hwn sy’n tyfu, gan wneud yn siŵr bod pobl hŷn yn gallu cael y cymorth a’r gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen arnyn nhw, er mwyn iddyn nhw fod yn hapus, yn iach a mwynhau bywyd o’r ansawdd gorau.