Cwestiynau Cyffredin
Gallwch weld rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn drwy ddilyn y ddolen gyswllt: Yr Hyn Rydyn Ni’n Ei Wneud A Sut
Oes, mae gan y Comisiwn bolisi cwynion. Dilynwch y ddolen gyswllt i dudalen y polisi Cwynion.
Polisi Cwynion
Mae swyddogaethau a pwerau’r Comisiynydd wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r rheoliadau sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf . Mae’r Comisiynydd yn annibynnol ar y llywodraeth ac mae ganddi’r egwyddorion arweiniol canlynol:
-
Hybu ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn
-
Hybu diwedd ar wahaniaethu ar sail oed
-
Hybu arferion da wrth ymdrin â phobl hŷn
-
Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn
I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen gyswllt i: Yr Hyn Rydyn Ni’n Ei Wneud A Sut.
O ran ei statws cyfreithiol, corfforaeth undyn yw’r Comisiynydd. Mae corfforaeth undyn (fel y mae wedi’i diffinio yn y Ddeddf) yn endid cyfreithiol lle mae’r awdurdod wedi’i freinio mewn un person.
Mae’n annibynnol ar y llywodraeth.
Mae’r Comisiwn yn trin yr holl ddata personol mewn ffyrdd sy’n cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data. I gael rhagor o wybodaeth am ddiogelu data, dilynwch y ddolen gyswllt www.ico.gov.uk
Mae’r Comisiwn Pobl Hŷn wedi mabwysiadu cynllun cyhoeddi enghreifftiol y Comisiynydd Gwybodaeth.
Cliciwch yma i weld ein canllawiau ar y cynllun cyhoeddi.
Mae’r Comisiwn wrthi’n datblygu Cynllun Iaith Gymraeg a fydd yn cydymffurfio â Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 ac mae wedi mabwysiadu’r egwyddor y dylai’r Gymraeg gael ei thrin ar y sail ei bod yn gyfartal.
Dilynwch y ddolen gyswllt i’r tudalen:
Cysylltu â ni