Llais ac eiriolwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru
Rôl y Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yw gweithredu fel hyrwyddwr annibynnol dros bobl hŷn ledled Cymru. Bydd yn gwneud yn siŵr bod rhai sy’n agored i niwed ac mewn perygl yn cael eu cadw’n ddiogel a sicrhau bod gan yr holl bobl hŷn lais sy’n cael ei glywed, bod ganddynt ddewis a rheolaeth, nad ydynt yn teimlo’n unig nac yn dioddef gwahaniaethu a bod Cymru’n lle da i heneiddio ynddo, nid i rai pobl yn unig ond i bawb. Mae ein gwaith yn cael ei arwain gan yr hyn y mae pobl hŷn yn ei ddweud sy’n bwysig iddynt hwy.
Y Comisiynydd Pobl Hŷn:
| ■ | Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
| ■ | Herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn yng Nghymru. |
| ■ | Annog arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin yng Nghymru. |
■ | Adolygu’r gyfraith sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru. |
Mae’r Comisiynydd yn sefyll dros hawliau ac yn eiriol ar ran pobl hŷn ledled Cymru.
Mae llawer y gallwn ac y dylwn fod yn ei ddathlu am heneiddio yng Nghymru. Mae gan bobl hŷn ddigonedd o wybodaeth a phrofiad a hwy yw asgwrn cefn ein cenedl a’n cymunedau.
Fodd bynnag, yn achos gormod o bobl hŷn, nid yw heneiddio’n digwydd fel y dylai. Mae llawer gormod o bobl hŷn yn byw mewn tlodi ac maent yn gorfod dewis rhwng cynhesu eu cartref a bwyta, mae gormod o bobl hŷn yn dioddef camdriniaeth, mae gormod yn teimlo’n unig, yn agored i niwed, ar gyrion cymdeithas ac yn ofnus, ac nid oes ganddynt yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau pwysig sy’n effeithio ar eu bywydau.
Gwaith y Comisiynydd yw gwneud yn siŵr bod y materion sy’n bwysig i bobl hŷn yn cael sylw haeddiannol. Mae’r Comisiynydd a’i thîm yn gwneud hyn drwy weithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth eang o gyrff, drwy ddatblygu arferion gorau, ond hefyd drwy adolygu, craffu, herio ac, os oes angen, pennu safonau yr ydym yn disgwyl eu gweld yn cael eu cyflawni.
Ein pobl hŷn yw ein mamau, ein tadau, ein neiniau a’n teidiau, ein ffrindiau, ein teuluoedd, y rhai sy’n annwyl i ni, a rhyw ddiwrnod bydd pob un ohonom, gan gynnwys ein plant, yn hŷn. Rydym yn gweithio i wneud yn siŵr bod Cymru’n lle da i heneiddio ynddo, nid i rai yn unig, ond i bawb.
Diweddaraf:
-
21.5.13
Mae neges syml wrth wraidd Wythnos Ymwybyddiaeth o Ddementia eleni – mae angen i ni siarad am ddementia. Rwy’n cytuno â hyn gant y cant.
-
08.5.13
“Rwy’n croesawu cyhoeddi canfyddiadau arolwg staff diweddaraf GIG Cymru, yr arolwg cyntaf o’i fath mewn pum mlynedd. Mae adborth gan staff sy’n gweithio ar draws y GIG yng Nghymru yn hanfodol er mwyn sbarduno gwelliannau yng ngofal y GIG. Rwy’n falch bod y Gweinidog Iechyd wedi ymrwymo i sicrhau y bydd y canfyddiadau’n cael eu cymryd o ddifri ac y bydd Byrddau Iechyd yng Nghymru’n ymateb iddynt.
-
02.5.13
Yn 2010l cyhoeddais fy Adroddiad ‘Gofal Gydag Urddas?’, a ganfu nad oedd llawer o bobl hŷn yn cael eu trin gydag urddas a pharch tra’r oeddent mewn ysbyty a bod y gofal a ddarparwyd, mewn rhai achosion, yn ‘gywilyddus o annigonol’.
Ym mis Medi, byddaf yn cyhoeddi adroddiad cynnydd atodol i asesu sut mae sefyllfa pobl hŷn wedi newid mewn ysbytai ers i mi gyhoeddi fy argymhellion i’r GIG yng Nghymru a Llywodraeth Cymru.
-
01.5.13
Mae’n rhwystredig bod y drafodaeth ynghylch y cymorth ariannol y mae gan bobl hŷn yr hawl i’w gael, unwaith yn rhagor, yn canolbwyntio’n gul ar a ddylai cyfran fechan o bobl hŷn ‘cyfoethog’ dderbyn cymorth ariannol cyffredinol fel y lwfans tanwydd gaeaf a’r tocyn bws arbennig.