Cefnogi’r Ymgyrch #EverydayAgeism
Rydym eisiau codi ymwybyddiaeth o wahaniaethu ar sail oedran a’i effaith drwy dynnu sylw a herio’r gwahaniaethu ar sail oedran y mae pobl hŷn yn ei wynebu bob dydd. Rydym eisiau newid agweddau a dathlu’r ffaith ein bod yn rhan o gymdeithas sy’n heneiddio.
Gallwch gefnogi’r ymgyrch mewn nifer o ffyrdd:
- Rhannu negeseuon a delweddau’r ymgyrch #EverydayAgeism drwy’r cyfryngau cymdeithasol
- Rhannu enghreifftiau o wahaniaethu a rhagfarn ar sail oedran er mwyn tynnu sylw atynt a'u herio
- Gwneud addewid yn datgan sut y byddwch chi’n cyfrannu at herio a mynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran
- Cysylltu â syniadau eraill am sut y gallwn fynd i’r afael â gwahaniaethu ar sail oedran gyda’n gilydd
Mae Pecyn Cefnogwyr ar gyfer yr Ymgyrch #EverydayAgeism yn cynnwys rhagor o wybodaeth am sut y gallwch chi gefnogi’r ymgyrch, ac mae’n cynnwys postiadau a awgrymir ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol, yn ogystal â chopi ar gyfer cylchlythyrau / gwefannau.
Beth am lawrlwytho’r Pecyn Cefnogwyr ar gyfer yr Ymgyrch #EverydayAgeism
Rydym hefyd wedi creu ychydig o ddelweddau y gallwch chi eu defnyddio ar y cyfryngau cymdeithasol, sy’n tynnu sylw at rai o negeseuon allweddol yr ymgyrch. Gallwch lawrlwytho’r delweddau unigol isod, neu lawrlwytho ffeil .zip sy’n cynnwys pob un o’r delweddau.

-

-
-
-
-
-

-
-
-
-
-

-
-
-
-
-

-
-
-
-
-

-
-
-
-
-

-
-
-
-
-

-
-
-
-