Stori Huw

Rwy’n mynd â fy nghymydog i siopa yn yr archfarchnad y rhan fwyaf o wythnosau – mae ei phlant, ei hwyrion a’i gor-wyrion yn ymweld â hi y rhan fwyaf o benwythnosau ac mae’n rhoi pleser gwirioneddol iddi goginio ar eu cyfer pan maen nhw’n dod ati.

I wneud pethau’n waeth, mae fy nghymydog yn hoffi llwytho a phacio ei neges mewn trefn neilltuol, ond ar yr achlysur hwn roedd cwsmeriaid yn y ciw yn ochneidio, gan ddangos yn glir eu bod yn meddwl ein bod yn eu ffordd. Achosodd agwedd anghwrtais y cwsmeriaid i fy nghymydog ffwndro a phan oedd yn bryd iddi dalu, gollyngodd ei phwrs a chwalodd ei harian i bob man. Wrth i ni godi’r darnau arian, aeth y sylwadau gan y bobl yn y ciw’n uwch.

I wneud pethau’n waeth, aeth goruchwyliwr y man talu ati i agor til arall a symud y ciw. Roedd y ffordd yr aeth ati i wneud hyn yn golygu bod fy nghymydog yn teimlo’n waeth fyth ac roedd bron yn ei dagrau. Cefais air gyda’r rheolwr am yr hyn a ddigwyddodd ac er ei fod wedi ymddiheuro, roedd yn amlwg nad oedd ganddo unrhyw ddiddordeb.

Achosodd y digwyddiad ofid mawr i fy nghymydog ac effeithiodd ar ei hyder. Roeddwn yn wirioneddol flin gan ei bod yn berson hyfryd ac nid oedd yn haeddu hyn.

Ers hynny rydym wedi newid i siopa mewn archfarchnad arall sy’n ein trin fel cwsmeriaid sy’n cael eu gwerthfawrogi a bellach mae ein teithiau siopa’n llawer gwell!

Dychwelwch i astudiaethau achos