Na i Oedraniaeth

Mae Cymru’n genedl o bobl hŷn; rydym yn genedl o bobl hŷn. Mae hawl gan bob unigolyn i gael ei drin yn gyfartal, yn deg a bod eu hawliau’n cael eu parchu a’u cadw.

Mae gan Gymru hanes hir o frwydro dros degwch, cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae’r rhain yn gysyniadau a gwerthoedd sy’n annwyl i ni i gyd ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sefyll i fyny dros hawliau pobl.

Rwy’n teimlo’n falch o fod yn rhan o gymdeithas sydd wedi gwneud cymaint i hybu a brwydro dros gydraddoldeb, herio hiliaeth, rhagfarn ar sail rhyw a homoffobia, a hynny’n gwbl briodol, er mwyn creu cymunedau tecach a mwy cyfiawn.

Ond tra bod hiliaeth, rhagfarn ar sail rhyw a homoffobia bron yn sicr yn gysyniadau cyfarwydd i’r rhan fwyaf o bobl, a’r rhelyw ohonom ar y cyfan yn deall eu heffaith, mae un math o wahaniaethu’n cael ei anwybyddu’n rhy aml.

Wrth gwrs, rwy’n siarad am oedraniaeth.

Mae oedraniaeth yr un mor anghywir â mathau eraill o wahaniaethu, gall fod yr un mor ddinistriol â’r un mor sefydliadol, eto i gyd fel cymdeithas, prin y byddwn yn ei drafod ac ychydig iawn a wyddom amdano er bod nifer o astudiaethau ac adroddiadau sy’n tynnu sylw at ei raddfa a’i effaith. Mae angen i ni dderbyn, er mor anodd yw hynny, bod ein cymdeithas yn gallu dangos oedraniaeth.

Rydym yn byw mewn cymdeithas lle mae'n dal yn dderbyniol, mae'n debyg, i ddefnyddio’r ymadrodd ‘hen gojars’ i ddisgrifio pobl hŷn, cymdeithas sy’n ystyried bod unigolyn sy’n 70 oed yn ‘rhy hen’ ar gyfer gwasanaeth rheithgor, cymdeithas lle mae dim ond 1% o droseddau yn erbyn pobl hŷn yn arwain at erlyniad, o’i gymharu â 19% ar gyfer oedrannau eraill.

Mae’r ffeithiau syfrdanol hyn yn ein helpu i ddeall pa mor anodd y gall fod i bobl hŷn herio agweddau neu ymddygiad sy’n dangos oedraniaeth a sicrhau y cedwir eu hawliau. Nid yw’r hawl i ryddid, cydraddoldeb ac urddas yn newid gydag oed, ond i lawer gormod o bobl hŷn mae eu hawliau’n lleihau wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae pobl hŷn wedi rhannu eu profiadau mewn nifer o ffyrdd gan ddweud sut beth ydyw a sut mae’n teimlo iddyn nhw fel unigolion. Dyma pam y dylai pob un ohonom sefyll i fyny a siarad yn erbyn oedraniaeth.

Ond lle ydym ni’n dechrau? Mae gennym nifer o ddeddfwriaethau eisoes yn eu lle i atal gwahaniaethu ar sail oed, yn ogystal â dyletswyddau clir o safbwynt cydraddoldeb a hawliau dynol o fewn y sector cyhoeddus, sy’n gryfach yng Nghymru na mewn rhannau eraill o’r Deyrnas Unedig, eto i gyd mae oedraniaeth yn dal i gael ei amlygu. Er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â oedraniaeth, mae angen i ni herio’r stereoteipiau a newid y ddelwedd a’r iaith a ddefnyddir am bobl hŷn er mwyn newid y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am bobl hŷn a’r gwerth o roddwn arnyn nhw.

Yn groes i’r naratif dinistriol bod pobl hŷn yn fwrn ar gymdeithas, mewn gwirionedd maen nhw’n cyfrannu llawer iawn at ein cymdeithas, yn economaidd a chymdeithasol, trwy ddal i weithio a thalu trethi, darparu gofal yn ddi-dâl, gofal pant a gwirfoddoli.

Hefyd mae gan bobl hŷn gyfoeth o wybodaeth a phrofiad y gellid ei ddefnyddio’n llawer mwy effeithiol. Heb bobl hŷn, byddai ein cymdeithas yn wlad dlotach mewn cymaint o ffyrdd. Yn syml, mae pobl hŷn yn ased cenedlaethol a’u cyfraniad bob blwyddyn yng Nghymru’n fwy na £1 biliwn, heb gynnwys costau iechyd, gofal cymdeithasol a phensiwn.

Mewn cyfnod o galedi ariannol, dylai Cymru ofyn iddi’i hun ‘Sut gallwn ni fuddsoddi yn ein pobl hŷn i droi’r £1 biliwn hwn yn £2 biliwn?’ Ar hyn o bryd rydym yn colli cyfleoedd i gynyddu’r elw ar fuddsoddi’r cyfalaf cymdeithasol sydd ar gael drwy ein pobl hŷn.

Ond er gwaetha’r cyfraniad hwn, sy’n sylweddol, a’r rôl weithgar y mae cynifer o bobl hŷn yn ei chwarae yn ein cymunedau, gan amlaf y ddelwedd a geir o bobl hŷn yw darlun o lesgedd a dibyniaeth. Wrth gwrs, gydag oed daw treialon a thrallodion, ond nid llesgedd a dibyniaeth yw’r norm i bobl hŷn. Mae angen set newydd o ddelweddau arnom sy’n adlewyrchu pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth, yn ogystal â bod yn beth da ynddo’i hun, bydd hyn hefyd yn helpu i ysgogi’r newid mewn meddylfryd sydd ei angen a’r canfyddiad o bobl hŷn os ydym am eu cefnogi i wneud cyfraniad economaidd a chymdeithasol helaethach.

Mae angen delweddau sy’n cyflwyno pobl hŷn ar sail pwy ydyn nhw mewn gwirionedd – pobl broffesiynol, athrawon, mentoriaid, rheolwyr, gofalwyr, gwirfoddolwyr – pobl sy’n chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau. A phan fydd pobl hŷn yn cael eu hystyried fel hyn, mae'n llawer haws deall cymaint y maen nhw’n ei gyfrannu.

Bydd y newid meddylfryd hwn yn arbennig o bwysig yn y blynyddoedd i ddod wrth i’r wlad wynebu bwlch sylweddol o ran sgiliau a chyfnod o galedi nas gwelwyd ers cenhedlaeth. Mae angen i’n pobl hŷn aros mewn gwaith, dychwelyd i waith. Mae angen i’n pobl hŷn wirfoddoli. Mae angen i’n pobl hŷn gefnogi ein cenedlaethau iau. Mae'n dda i bobl hŷn, mae'n dda i’r economi, mae’n dda i’r wlad. Mae hefyd yn dda i’r pwrs cyhoeddus, gan fod cadw’n brysur, dal i deimlo fod gennych rywbeth i’w gyfrannu a’ch bod yn cael eich gwerthfawrogi’n gwella iechyd a lles cyffredinol ac yn helpu i atal dibyniaeth a llesgedd.

Eto i gyd, fel y mae ar hyn o bryd, mae pobl hŷn yn wynebu nifer o rwystrau o ran dychwelyd neu gael ail-fynediad i’r farchnad lafur. Mae  oedraniaeth a gwahaniaethu o fewn y gweithle, sydd er enghraifft, yn seiliedig ar fythau y mae angen eu chwalu ynglŷn â diffyg cynhyrchiant, iechyd salach ac amharodrwydd i addasu i newid, yn dal yn broblem sylweddol i nifer o bobl hŷn yn y farchnad lafur. Mae ceiswyr gwaith hŷn hefyd fwy na dwywaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith yn y tymor hir o’i gymharu â cheiswyr gwaith iau ac mae mwy na 1 o bob 3 o bobl yng Nghymru rhwng 50 oed ac oed Pensiwn Gwladol - dros 214,000 o bobl - yn ddi-waith.

Mae angen i gyflogwyr ledled Cymru gydnabod y sgiliau a’r profiad y gall pobl hŷn eu cynnig i sefydliad a darparu cefnogaeth i’r rhai sy’n dymuno dal i weithio neu gael ail-fynediad i’r farchnad lafur. Byddai hyn yn sicrhau buddion sylweddol i’r economi: pe bai hanner yr 1.2 miliwn o weithwyr hŷn yn y Deyrnas Unedig sy’n ddi-waith ar hyn o bryd yn cael gwaith, gallai roi hwb i’r CMC hyd at £25 biliwn.

Naratif arall sy’n gallu hybu oedraniaeth a gwahaniaethu ar sail oed yw bod ‘pethau’n hawdd’ i bobl hŷn, bod y mesurau a gyflwynwyd i’w diogelu rhag agweddau o raglen llywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau’r diffyg, wedi golygu bod gan bobl hŷn well bywydau o’i gymharu â grwpiau eraill mewn cymdeithas.  Mae’r safbwynt hon, fodd bynnag, yn seiliedig ar olwg rhannol iawn ar fesurau caledi ac nid ydynt yn ystyried ffactorau fel y ffaith bod nifer o bobl hŷn yn gorfod dibynnu ar incwm o gynilon a buddsoddiadau cyfyngedig, costau’n gysylltiedig â gofal ac effaith toriadau gwariant ar wasanaethau cyhoeddus, y gall pobl hŷn fod yn fwy dibynnol arnynt.

Wrth gwrs mae pobl hŷn sy’n gyfoethog, ond mae’r naratif hwn yn gyfleus iawn yn anwybyddu’r ffaith fod y pensiwn yn y Deyrnas Unedig ymysg yr isaf yn Ewrop a bod un o bob chwe pherson hŷn yn byw mewn tlodi. Mae tlodi tanwydd hefyd yn broblem sylweddol i bobl hŷn, ac yn ffactor sy’n cyfrannu at nifer o’r 18,200 o farwolaethau y gellid bod wedi eu hosgoi yng Nghymru a Lloegr yn ystod 2013/14 (ffigyrau diweddaraf).

Y realiti yw bod nifer o bobl hŷn yng Nghymru’n wynebu caledi gwirioneddol ac yn methu â newid eu sefyllfa.

Yn ogystal â’r problemau a ddisgrifir uchod, mae safbwyntiau ffug a pheryglus hefyd yn dod i’r amlwg ynglŷn â sut mae ymddygiad pobl hŷn yn effeithio ar genedlaethau eraill. Dywedir bod pobl hŷn yn aros mewn tai mawr ac anaddas, a bod hynny’n amhriodol, a’i fod, mae'n debyg, yn amddifadu cenedlaethau iau o’r cyfle i gael y tai sydd eu hangen arnynt, yn arbennig tai cymdeithasol. Y gwir yw, mae ein stoc tai’n annigonol, i bobl hŷn ac iau fel ei gilydd. Yn groes i’r argraff a grëwyd gan nifer o sylwebwyr, ni fyddai pobl hŷn yn symud i gartrefi llai’n datrys y broblem dai bresennol.

Yn yr un modd, caiff ei awgrymu’n aml fod y bobl hŷn hynny sy’n aros mewn gwaith rywsut yn amddifadu pobl iau o swyddi, yn atal cyfleoedd cyflogaeth, yn rhwystro cyflogaeth ieuenctid.  Mewn gwirionedd, mae tystiolaeth gref i ddangos bod mwy o bobl yn gweithio, waeth beth fo’u hoed, yn rhoi hwb i’r economi ac yn creu mwy o gyfleoedd i gael gwaith.

Mae’r naratif hwn, sy’n cyflwyno pobl hŷn fel bwch dihangol i nifer o’r problemau yr ydym yn eu hwynebu fel cymdeithas, yn hybu gwrthdaro rhwng cenedlaethau a’r safbwynt, fel y dywedwyd ym mhennawd un papur newydd cenedlaethol’, mai pobl hŷn yw’r ‘Prif Elyn’.

Pam ei fod yn bwysig newid y ffordd y mae cymdeithas yn meddwl am bobl hŷn, a’r canfyddiad ohonynt? Mae'n bwysig oherwydd mae darlun ystrydebol o lesgedd, dirywiad a dibyniaeth, ynghyd â diffyg dealltwriaeth o’r rôl hanfodol y mae pobl hŷn yn ei chwarae ar draws gymdeithas, nid yn unig yn diraddio’r bobl yr ydym yn eu parchu ac yn tanseilio eu hunan werth, ond hefyd yn hybu oedraniaeth.

A gall oedraniaeth, fel rhagfarn ar sail rhyw, hiliaeth, homoffobia a phob math arall o wahaniaethu ddinistrio unigolion ac effeithio ar bob un ohonom. 

Sarah Rochira
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru