Cydraddoldeb, Hawliau Dynol a Gwahaniaethu

Rydym yn byw mewn oes sydd ag obsesiwn ynglŷn ag oedran a barn ystrydebol am bobl hŷn. Yn llawer rhy aml, mae pobl hŷn yn cael eu trafod mewn modd dirmygus, amharchus a hyd yn oed difenwol. Gall hyn danseilio hunan-barch, hunanhyder ac annibyniaeth pobl hŷn. Mae ymadroddion fel ‘baich gofal’ a ‘tswnami brith’ sy’n cael eu defnyddio ar adegau gan y gwasanaethau cyhoeddus, y cyfryngau a sylwedyddion eraill, yn gwbl annerbyniol.

Mae gormod o bobl hŷn yn teimlo bod gwasanaethau, a hyd yn oed rhai carfannau yn y gymdeithas, yn gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd eu hoedran. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau ariannol, gwasanaethau iechyd a chymorth a gwasanaethau hanfodol eraill. Dydy pobl hŷn ddim yn grŵp homogenaidd a ddylai gael ei ddiffinio yn ôl oedran neu ystrydebau.

Mae gan bobl hŷn yr un hawliau ag unrhyw oedolion eraill. Ond yn aml mae’r hawliau hyn yn cael eu hanwybyddu a dydyn nhw ddim yn cael eu cynnal. Mae egwyddorion Deddf Hawliau Dynol 1998 yn absennol o lawer o bolisïau ac arferion y llywodraeth ynglŷn â phobl hŷn. Ychydig yn unig o ystyriaeth a roddir i’r hawliau sylfaenol i fywyd a rhyddid rhag triniaeth annynol a diraddiol; mae’r hawl i gael bywyd preifat a bywyd teuluol a’r hawl i ryddid yn cael eu hanwybyddu fel rhan o’r drefn.

Mae rhoi cydraddoldeb a hawliau dynol wrth galon gwasanaethau cyhoeddus, a’r gymdeithas ehangach, yn sicrhau bywyd o ansawdd well i bawb – nid yn unig i bobl hŷn.