Rolau'r Timau

Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae pwerau cyfreithiol y Comisiynydd yn ei galluogi i ymchwilio, craffu a herio amrediad o gyrff cyhoeddus gan gynnwys awdurdodau lleol, cyrff iechyd a Llywodraeth Cynulliad Cymru.  Mae gan y Comisiynydd gyfrifoldeb statudol dros y Comisiwn, yn ogystal â bod yn arweinydd strategol arno.

Mae’r Comisiynydd wedi datgan bod gan ei rôl dair prif flaenoriaeth, sef:

  • Gwrando ar bobl hŷn
  • Bod yn llais effeithiol dros newid er mwyn gwella ansawdd bywydau pobl hŷn
  • Gweithredu drwy ddefnyddio ei phwerau i hybu ac amddiffyn buddiannau pobl hŷn

Mae’r Comisiynydd wedi ymrwymo i ddarparu her deg a chadarn i gyrff cyhoeddus i wella bywydau pobl hŷn a sicrhau bod gan bobl hŷn ran mewn trafodaethau a datblygiadau polisi.

Bywgraffiad Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 

Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Mae’r Dirprwy Gomisiynydd yn goruchwylio gwaith y Comisiwn drwy gefnogi gwaith cynllunio a chyflwyno strategol a thrwy sicrhau bod y Comisiwn yn addas at ei ddiben.  Gall Dirprwy Gomisiynydd gyflawni swyddogaethau’r Comisiynydd os bydd hi’n methu â gweithredu am unrhyw reswm.

Bywgraffiad Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru 

Gwybodaeth ac Ymholiadau

Y tîm Gwybodaeth ac Ymholiadau sy’n gyfrifol am ymchwilio ac ymateb i bob ymholiad sy’n dod i mewn oddi wrth bobl hŷn, teuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.

Adolygu ac Archwilio a Pholisi

Mae’r tîm yn cynghori’r Comisiynydd ar gwmpas a chyfyngiadau ei phwerau cyfreithiol. Maent yn datblygu ac yn cynnal adolygiadau ac archwiliadau o wasanaethau, er mwyn i ni gael sicrhau bod materion rydym yn eu mabwysiadu yn cyflwyno’r manteision ehangaf posibl.

Mae’r tîm hefyd yn helpu’r Comisiynydd i ddatblygu polisïau cyhoeddus. Drwy ddarparu papurau briffio, ymatebion a pholisïau ar sail ymchwil drylwyr, ein nod yw dylanwadu ar wneuthurwyr penderfyniadau ar bob lefel a chreu newid positif i fywydau pobl hŷn.

Cyfathrebu

Nod y tîm Cyfathrebu yw darparu gwybodaeth gyfredol, hygyrch i bobl a chyrff y mae ganddynt ddiddordeb yn y Comisiwn.  Maent yn ymwneud yn rhagweithiol â rhanddeiliaid, yn enwedig felly pobl hŷn, i sicrhau ein bod yn berthnasol ac yn gallu hyrwyddo barn a phryderon pobl hŷn i wneuthurwyr penderfyniadau a’r cyfryngau.

Adnoddau Dynol (polisïau mewnol)

Yn gyfrifol am wasanaeth adnoddau dynol cynhwysfawr sy’n cynnwys gwobrwyon a buddion, rheoli perfformiad, polisïau a gweithdrefnau adnoddau dynol, hyfforddiant a datblygu a recriwtio.

Cyllid (archwilio/cydymffurfio)

Yr adran Gyllid sy’n sicrhau taliadau cyflogau a thaliadau i gyflenwyr, cynhyrchu’r cyfrifon blynyddol a chofnodion ariannol.  Mae hefyd yn arwain ar adrodd yn fisol, cynhyrchu amcangyfrifon, cyllidebau blynyddol, rhagolygon a rheoli risg.

Gwybodaeth (Diogelu Data a Rhyddid Gwybodaeth)

Mae’r tîm Gwybodaeth yn trefnu ac yn diogelu’r wybodaeth rydym yn ei dal ac yn gwarantu bod gwybodaeth briodol ar gael i’r byd ehangach trwy ein Cynllun Cyhoeddi.

Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh)

Mae’r tîm TGCh yn sicrhau bod holl dîm y Comisiwn yn gysylltiedig â’i gilydd ac â’r byd ehangach.  Nhw sy’n gyfrifol am ddarparu a chynnal caledwedd a meddalwedd i gefnogi gwaith y Comisiwn a hefyd yn cynghori ar ddefnydd technoleg i’r helpu i weithio’n fwy effeithlon ac effeithiol.

Gweinyddu a Chynnal

Y tîm Gweinyddu a Chynnal sy’n darparu cefnogaeth weinyddol y Comisiwn o ddydd i ddydd.

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.