Bywgraffiad Sarah Stone, Dirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Ymgymerodd Sarah Stone â’i swydd fel Dirprwy Gomisiynydd Comisiwn Pobl Hŷn Cymru ym mis Tachwedd 2008.
Mae penodiadau blaenorol Sarah yn cynnwys Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus Age Concern Cymru a Swyddog Datblygu Ffederasiwn Rhieni Caerdydd a’r Fro. Bu’n aelod hefyd o’r Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol ar gyfer Pobl Hŷn ac o Gyngor Partneriaeth y Trydydd Sector.
Mae gan Sarah radd o Goleg Prifysgol Caerdydd ac MSc mewn Polisi Cymdeithasol gan Brifysgol Bryste.