Pwyllgor Archwilio’r Comisiwn Pobl Hŷn

Ym mis Ionawr 2009, penododd Ruth Marks ei Phwyllgor Archwilio cyntaf. Rôl y pwyllgor yw cefnogi’r Comisiynydd drwy adolygu pa mor gynhwysfawr y mae’r systemau sicrwydd sydd wedi eu sefydlu i gyflawni ei hanghenion fel Swyddog Cyfrifyddu ac adolygu dibynadwyedd a chyflawnrwydd y systemau hyn.

Bydd y Pwyllgor Archwilio yn cyfrannu ar lefel strategol drwy gynnig swyddogaeth  gefnogi a herio allanol, wybodus ar gyfer gwaith y Comisiynydd a’i swyddfa. Bydd y mewnbwn gwerthfawr hwn yn helpu i sicrhau bod y Comisiwn Pobl Hŷn yn datblygu fel corff modern y sector cyhoeddus.

Aelodau’r Pwyllgor Archwilio yw:

Gordon Lishman (Cadeirydd)

Gordon Lishman oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol Age Concern am naw mlynedd a gweithiodd iddynt am 35 mlynedd, gan wasanaethu ar fwrdd Age Concern Cymru am ddegawd. Hefyd sefydlodd AGE-Platform, corff sefydliadau pobl hŷn ledled yr UE, gwasanaethu fel Swyddog am wyth mlynedd, ac mae ganddo hanes o ymgyrchu i’r llywodraeth ar ran grwpiau dan anfantais. Ar hyn o bryd, mae’n Is-lywydd Rhyngwladol y Ffederasiwn Rhyngwladol ar Heneiddio, Cadeirydd Bwrdd Cyflwyno Cynllun Gweithredu Maethiad yr Adran Iechyd ac yn parhau i hyrwyddo democratiaeth a hawliau dynol ledled y byd.

Ian Summers

Mae Ian Summers wedi gweithio ers 32 o flynyddoedd ym maes cyllid cyhoeddus, archwilio ac atebolrwydd, yn bennaf gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol (NAO) ond hefyd treuliodd dair blynedd yn y 1980au hwyr fel Prif Gyfrifydd Adran o’r Llywodraeth. Yn ystod ei amser gyda’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol, rhoddodd Ian gyngor ar y trefniadau cyllid ac atebolrwydd ar gyfer llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru a chwaraeodd rôl arwyddocaol hefyd mewn creu Swyddfa Archwilio Cymru drwy uno’r NAO a’r Comisiwn Archwilio yng Nghymru. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio’n rhan amser fel Cynghorydd Cyllid a Llywodraeth Gorfforaethol yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru.

Eifion Pritchard

Mae gan Eifion Pritchard, Cymro Cymraeg o’r Gogledd, radd mewn seicoleg, treuliodd bum mlynedd yn y Llynges Fasnachol a gweithiodd am fwy na 30 mlynedd gyda gwasanaeth yr Heddlu, gan ymddeol fel Dirprwy Brif Gwnstabl ar ôl derbyn Medal Heddlu’r Frenhines ym 1998. Mae wedi cadeirio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Golwg ar Bost Cymru a Relate Dyfed Powys ac wedi bod yn aelod o Gyngor Darlledu Cymru a Chyngor Defnyddwyr Cymru. Ar hyn o bryd, mae’n cadeirio ymddiriedolwyr Glasallt Fawr, sefydliad ar gyfer oedolion ifanc sydd ag anawsterau dysgu, yn aelod bwrdd Llais Defnyddwyr Cymru ac yn aelod o bwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Ken Jones

Mae Ken Jones wedi treulio llawer o’i yrfa yn cynllunio ac yn darparu darpariaethau’r GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. Mwynhaodd yrfa hir, lewyrchus yng Ngwasanaethau Lleol ac Awdurdodau’r GIG, ac wedi gwasanaethau’n aelod gofalu, ac yn fwy diweddar Cadeirydd, Bwrdd Iechyd Lleol Sir Gaerfyrddin.  Roedd hefyd yn aelod o fwrdd Proffesiwn Iechyd Cymru ac wedi ymgymryd â phrosiectau iechyd a chymdeithasol niferus fel ymgynghorydd. Ar hyn o bryd, mae Ken yn aelod o Gyngor Gofal Cymru ac yn hyfforddi gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol mewn sgiliau ymchwilio i gwynion a disgyblaeth.

Cyfarfod y Pwyllgor Archwilio

 

  1. Ionawr 2013
    file (67.50 KB)
    Download
  2. Gorffenaf 2012
    file (64.50 KB)
    Download
  3. Hydref 2012
    file (73.00 KB)
    Download
  4. Ebrill 2012
    file (83.00 KB)
    Download
  5. Ionawr 2012
    file (76.00 KB)
    Download
  6. Gorffennaf 2011
    file (65.50 KB)
    Download
  7. Ebrill 2011
    file (74.50 KB)
    Download
  8. Medi 2011
    file (64.50 KB)
    Download
  9. Ionawr 2010
    file (98.00 KB)
    Download
  10. Hydref 2010
    file (82.50 KB)
    Download
  1. 1
  2. 2
  3. »

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.