Codi pryder gyda’r Comisiynydd

Mae’r polisi hwn yn amlinellu ein dull gweithredu pan fydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (“y Comisiynydd”) yn derbyn neges gan weithiwr o sefydliad arall sy’n poeni am ddrwgweithredu yn ei fan gwaith ac sydd eisiau codi pryder a’i riportio, neu ‘chwythu’r chwiban'.

Beth yw ‘chwythu'r chwiban’?

Mae ‘chwythu'r chwiban’ yn cyfeirio at ddatgelu gwybodaeth gan weithiwr sy'n credu'n rhesymol bod tuedd i ddangos un neu fwy o'r canlynol:

  • Bod trosedd wedi’i gyflawni neu’n debygol o gael ei gyflawni; a/neu
  • Bod rhywun wedi methu, yn methu, neu’n debygol o fethu cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithlon y mae’n gaeth iddo; a/neu
  • Bod camweinyddu cyfiawnder wedi digwydd, yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd; a/neu
  • Bod iechyd a diogelwch unrhyw unigolyn wedi cael ei beryglu, yn cael ei beryglu neu'n debygol o gael ei beryglu; a/neu
  • Bod yr amgylchedd wedi cael ei niweidio, yn cael ei niweidio neu'n debygol o gael ei niweidio; a/neu
  • Bod gwybodaeth sy’n dueddol o ddangos unrhyw un o’r materion uchod wedi cael ei chelu’n fwriadol, yn cael ei chelu’n fwriadol, neu’n debygol o gael ei chelu’n fwriadol.

Pryd i ‘godi’r pryder’

Mae’n bosibl bod pob un ohonom yn poeni am yr hyn sy’n digwydd yn y gwaith ar ryw adeg neu’i gilydd. Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu datrys yn rhwydd. Fodd bynnag, pan fydd pryder yn teimlo’n ddifrifol oherwydd ei fod yn ymwneud â thwyll, perygl, ymddygiad amhriodol/amhroffesiynol neu niwed posibl a allai effeithio ar eraill neu ar y sefydliad ei hun, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud. 

Gallech fod yn poeni am godi pryder o’r fath, a meddwl y byddai’n well i chi ei gadw i chi’ch hun, gan deimlo efallai nad yw’n fusnes i chi, neu mai dim ond amau'r peth rydych chi. Gallech deimlo y byddai codi’r mater yn dangos diffyg teyrngarwch at gydweithwyr, rheolwyr neu’r sefydliad. Gallech benderfynu dweud rhywbeth, ond sylweddoli wedyn eich bod wedi siarad â’r person anghywir neu godi’r pryder yn y ffordd anghywir ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf. 

Mae’n arfer da i gyflogwyr feddu ar eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer chwythu’r chwiban, a dylai’r rheiny esbonio sut y gallwch godi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Os oes gan eich cyflogwr weithdrefnau o’r fath, dylech eu dilyn, oni bai bod rheswm cryf iawn dros beidio â gwneud hynny.

 Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 yn argymell bod gweithwyr yn codi pryderon â’u cyflogwr i ddechrau, ac rydym yn cymeradwyo hyn; fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i chi wneud hynny. Cydnabyddir y gallai bod rhesymau dilys pam y byddai gweithiwr eisiau codi eu pryderon y tu allan i’w weithle.

Gallwch ddarllen y polisi llawn yma.

Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd

Mae’r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (y Ddeddf) yn amddiffyn gweithwyr sy’n chwythu’r chwiban ynglŷn â drwgweithredu rhag erledigaeth gan eu cyflogwyr, ar yr amod eu bod yn chwythu’r chwiban yn un o’r ffyrdd a ddynodir yn y Ddeddf (gelwir hyn yn wneud datgeliad gwarchodedig)

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r rhan fwyaf o weithwyr, ac mae’n cynnwys pobl sy’n cael eu cyflogi ar sail dros-dro neu drwy asiantaeth. Mae gweithiwr sy’n cael ei erlid oherwydd ei fod wedi codi pryder a ‘chwythu’r chwiban’ yn gallu mynd â’i gyflogwr i dribiwnlys i geisio unioni camwedd.

Cyflwyno datgeliadau i’r Comisiynydd

Mae’r Comisiynydd yn ‘berson rhagnodedig’ dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd ar gyfer materion ynghylch hawliau a lles pobl hŷn yng Nghymru. 

Mae hyn yn golygu y gallai gweithiwr gael ei amddiffyn fel chwythwr chwiban dan y Ddeddf pan gaiff datgeliad ei gyflwyno i’r Comisiynydd, ar yr amod bod y gweithiwr sy'n cyflwyno’r datgeliad yn credu'n rhesymol ei fod yn berthnasol i gylch gwaith y Comisiynydd a bod yr wybodaeth sy'n cael ei datgelu ac unrhyw honiad a geir ynddi yn wir gan fwyaf. 

Prif nod y Comisiynydd yw gwarchod lles y cyhoedd. Nid oes yn rhaid i’r Comisiynydd ystyried p’un ai a yw datgeliad yn gymwys i gael ei amddiffyn dan y Ddeddf, ac ni fydd yn gallu cynnig cyngor ar hyn. Yn y pen draw, Tribiwnlys Cyflogaeth fyddai’n penderfynu p’un ai a gaiff unigolyn ei amddiffyn dan y Ddeddf ai peidio. Rôl y Comisiynydd yw ystyried y materion a ddatgelir iddo. 

Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol bod y Comisiynydd yn ymchwilio i bob datgeliad a dderbynnir. Dim ond datgeliadau sy'n berthnasol i gwmpas swyddogaethau statudol y Comisiynydd y gall ymchwilio iddynt, ac yn unol â pharamedrau pwerau statudol y Comisiynydd. 

Adroddiadau Blynyddol PIDA

Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2018 i 31 Mawrth 2019

Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2018 a 31 Mawrth 2019 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.

Adroddiad Blynyddol: 1 Ebrill 2017 i 31 Mawrth 2018

Nid oedd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi derbyn unrhyw ddatgeliadau yn y cyfnod adrodd rhwng 1 Ebrill 2017 a 31 Mawrth 2018 y byddem yn eu hystyried o fewn Rheoliadau Personau Rhagnodedig (Adroddiadau ar Ddatgelu Gwybodaeth) 2017.