Codi pryder gyda’r Comisiynydd

Mae’r polisi hwn yn amlinellu ein dull gweithredu pan fydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru (y Comisiynydd) yn derbyn neges gan weithiwr o sefydliad arall sy’n poeni am ddrwgweithredu yn eu man gwaith ac sydd eisiau codi pryder a’i riportio, neu ‘chwythu’r chwiban'.

Polisi codi pryder gyda’r Comisiynydd (.pdf)

Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd

Mae’r Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (y Ddeddf) yn amddiffyn gweithwyr sy’n chwythu’r chwiban ynglŷn â drwgweithredu rhag erledigaeth gan eu cyflogwyr, ar yr amod eu bod yn chwythu’r chwiban yn un o’r ffyrdd a ddynodir yn y Ddeddf (gelwir hyn yn wneud datgeliad gwarchodedig)

Mae’r Ddeddf yn berthnasol i’r rhan fwyaf o weithwyr, ac mae’n cynnwys pobl sy’n cael eu cyflogi ar sail dros-dro neu drwy asiantaeth. Mae gweithiwr sy’n cael ei erlid oherwydd ei fod wedi codi pryder a ‘chwythu’r chwiban’ yn gallu mynd â’i gyflogwr i dribiwnlys i geisio unioni camwedd.

Codi pryder

Mae gan bob un ohonom, ar ryw adeg neu’i gilydd, bryderon am yr hyn sy’n digwydd yn y gwaith.  Fel arfer, mae’r rhain yn cael eu datrys yn rhwydd.  Fodd bynnag, pan fydd pryder yn teimlo’n ddifrifol oherwydd ei fod yn ymwneud â thwyll, perygl neu gamymddygiad posib a allai effeithio ar eraill neu ar y sefydliad ei hun, gall fod yn anodd gwybod beth i’w wneud.

Gallech fod yn poeni am godi pryder o’r fath, a meddwl y byddai’n well i chi ei gadw i chi’ch hun, gan deimlo efallai nad yw’n fusnes i chi, neu mai dim ond amau'r peth rydych chi.  Gallech deimlo y byddai codi’r mater yn dangos diffyg teyrngarwch at gydweithwyr, rheolwyr neu’r sefydliad.  Gallech benderfynu dweud rhywbeth, ond sylweddoli wedyn eich bod wedi siarad â’r person anghywir neu godi’r pryder yn y ffordd anghywir ac yn ansicr beth i’w wneud nesaf.

Mae’n arfer da i gyflogwyr feddu ar eu gweithdrefnau eu hunain ar gyfer chwythu’r chwiban, a dylai’r rheiny esbonio sut y gallwch godi unrhyw bryderon a allai fod gennych. Os oes gan eich cyflogwr weithdrefnau o’r fath, dylech eu dilyn.

Mae’n haws cael gwarchodaeth dan Y Ddeddf os ydych yn codi eich pryder gyda’r cyflogwr i ddechrau, ond nid oes unrhyw reidrwydd arnoch i wneud hynny. Cydnabyddir y gallai bod rhesymau dilys pam y byddai gweithiwr eisiau codi eu pryderon y tu allan i’w gweithle.

Cyflwyno datgeliadau i’r Comisiynydd

Mae’r Comisiynydd yn ‘berson rhagnodedig’ dan y Ddeddf Datgelu er Lles y Cyhoedd ar gyfer materion ynghylch hawliau a lles pobl hŷn yng Nghymru. 

Mae hyn yn golygu y gallai gweithiwr gael ei amddiffyn fel chwythwr chwiban dan y Ddeddf pan gaiff datgeliad ei gyflwyno i’r Comisiynydd, ar yr amod bod y gweithiwr sy'n cyflwyno’r datgeliad yn credu'n rhesymol ei fod yn berthnasol i gylch gwaith y Comisiynydd a bod yr wybodaeth sy'n cael ei datgelu ac unrhyw honiad a geir ynddi yn wir gan fwyaf. 

Prif nod y Comisiynydd yw gwarchod lles y cyhoedd. Nid oes yn rhaid i’r Comisiynydd ystyried p’un ai a yw datgeliad yn gymwys i gael ei amddiffyn dan y Ddeddf, ac ni fydd yn gallu cynnig cyngor ar hyn. Yn y pen draw, Tribiwnlys Cyflogaeth fyddai’n penderfynu p’un ai a gaiff unigolyn ei amddiffyn dan y Ddeddf ai peidio. Rôl y Comisiynydd yw ystyried y materion a ddatgelir iddo. 

Nid yw’r Ddeddf yn ei gwneud hi’n ofynnol bod y Comisiynydd yn ymchwilio i bob datgeliad a dderbynnir. Dim ond datgeliadau sy'n berthnasol i gwmpas swyddogaethau statudol y Comisiynydd y gall ymchwilio iddynt, ac yn unol â pharamedrau pwerau statudol y Comisiynydd.