Parch ac Urddas
Rydyn ni am weld Cymru lle mae parch i hawliau ac urddas pobl hŷn yn realiti ym mhob rhan o fywyd, lle mae gwahaniaethu ar sail oed yn perthyn i’r gorffennol a lle ceir agwedd gadarnhaol at heneiddio a phobl hŷn.
Comisiwn Pobl Hŷn Cymru
Mae parch ac urddas yn themâu sylfaenol sy’n berthnasol ymhob agwedd ar fywyd pobl hŷn. Fel cymdeithas, allwn ni ddim honni bod pobl hŷn yn cael eu trin â pharch ac urddas pan fyddan nhw’n cael trafferth i ymdopi ar incwm sefydlog isel ac yn dioddef diffyg gwasanaethau a phroblemau parhaus yn y gwasanaethau y maen nhw’n eu cael.
Mae angen i ni fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn. Mae gan bobl hŷn hawl i ddisgwyl parch llwyr i’w hurddas, eu credoau, eu hanghenion a’u preifatrwydd ac i’tr hawl i wneud penderfyniadau am ansawdd eu bywyd.
Mae’r cyfryngau yn tynnu sylw’n rheolaidd at enghreifftiau o bethau sy’n mynd o’u lle, ond mae yna lawer o enghreifftiau o ymarfer rhagorol hefyd ac mae llawer o’r bobl sy’n gweithio gyda phobl hŷn yn bobl broffesiynol, ymroddgar a gofalgar.
Mae’r egwyddorion hyn yn dangos sut y dylen ni werthfawrogi pobl hŷn yn ein cymdeithas ond yn y bôn dydyn ni ddim yn eu gwerthfawrogi hanner digon – mae’n rhaid i ni wneud yn well. Mae gwrando ar bobl hŷn a deall eu pryderon yn allweddol wrth ddatblygu dulliau ac atebion i fynd i’r afael â’r problemau systemig eang ac i roi cymorth i grwpiau o unigolion a all fod yn wynebu’r un anhawster.
Mae barn pobl hŷn yn llywio gwaith y Comisiwn a bydd yn parhau i ddylanwadu ar ein blaenoriaethau yn y dyfodol.
Er ein bod yn gweithio i wella bywydau holl bobl hŷn Cymru heddiw, mae angen inni gofio ein bod ni’n cynllunio hefyd ar gyfer yfory pawb.
Cafodd Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Personau Hŷn eu mabwysiadu gan Gynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig (Penderfyniad 46/91) ar 16 Rhagfyr 1991. Cafodd llywodraethau eu hannog i’w hymgorffori yn eu rhaglenni cenedlaethol pryd bynnag y byddai modd. Mae yna ddeunaw o egwyddorion, a all gael eu grwpio o dan bum thema: annibyniaeth, cyfranogi, gofal, hunangyflawniad ac urddas.
Mae’r Egwyddorion yn cydnabod:
- yr amrywiaeth aruthrol yn sefyllfaoedd pobl hŷn, nid yn unig rhwng gwledydd ond o fewn gwledydd a rhwng unigolion;
- bod mwy o unigolion yn cyrraedd oedran sylweddol a hynny mewn iechyd gwell nag erioed o’r blaen;
- bod ymchwil wyddonol yn gwrthbrofi llawer o stereoteipiau ynghylch dirywiad anochel ac anwrthdroadwy gydag oedran;
- bod rhaid rhoi cyfleoedd, mewn byd sydd â nifer a chyfran gynyddol o bobl hŷn, i bobl hŷn barod a galluog gymryd rhan yng ngweithgareddau parhaus y gymdeithas a chyfrannu atyn nhw;
- bod y straen ar fywyd teuluol mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu fel ei gilydd yn gofyn am gymorth i’r rhai sy’n darparu gofal i bobl hŷn fregus.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru o dan rwymedigaeth gyfreithiol i roi sylw i’r Egwyddorion hyn ac mae’n dda ganddi wneud hynny. Dyma Egwyddorion a ddylai gael eu hystyried gan bob sefydliad a’u cymryd fel fframwaith ar gyfer sut maen nhw’n trin pobl hŷn.
bod y straen ar fywyd teuluol mewn gwledydd datblygedig a gwledydd sy’n datblygu fel ei gilydd yn golygu bod rhaid wrth gefnogaeth i’r sawl sy’n darparu gofal i bobl hŷn bregus.
Mae Comisiwn Pobl Hŷn Cymru yn cymeradwyo’r egwyddorion hyn ac yn credu y dylai pob sefydliad eu hystyried fel fframwaith ar gyfer trin pobl hŷn.
1. Dylai personau hŷn gael mynediad at fwyd, dŵr, cysgod, dillad a gofal iechyd digonol a hynny drwy ddarpariaeth ar gyfer incwm, cymorth y teulu a’r gymuned a hunangymorth.
2. Dylai personau hŷn gael y cyfle i weithio neu i gael mynediad at gyfleoedd eraill i gynhyrchu incwm.
3. Dylai personau hŷn gael cyfranogi wrth benderfynu pa bryd i dynnu’n ôl o’r gweithlu a pha mor gyflym.
4. Dylai personau hŷn gael mynediad at raglenni priodol o addysg a hyfforddiant.
5. Dylai personau hŷn gael byw mewn amgylcheddau sy’n ddiogel ac a all gael eu haddasu at ddewisiadau personol a newidiadau mewn galluoedd.
6. Dylai personau hŷn allu byw gartref cyn hired ag y bo modd.
7. Dylai personau hŷn barhau i gael eu hintegreiddio yn y gymdeithas, cymryd rhan weithgar wrth ffurfio a gweithredu polisïau sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu llesiant a rhannu eu gwybodaeth a’u medrau â’r cenedlaethau iau.
8. Dylai personau hŷn gael chwilio am gyfleoedd a datblygu cyfleoedd i wasanaethu’r gymuned ac i wasanaethu fel gwirfoddolwyr mewn safleoedd sy’n briodol i’w diddordebau a’u galluoedd.
9. Dylai personau hŷn gael ffurfio mudiadau neu gymdeithasau i bersonau hŷn.
10. Dylai personau hŷn gael manteisio ar ofal ac amddiffyniad y teulu a’r gymuned yn unol â system pob cymdeithas o werthoedd diwylliannol.
11. Dylai personau hŷn gael mynediad at ofal iechyd i’w helpu i gadw neu adennill y lefel orau posibl o lesiant corfforol, meddyliol ac emosiynol ac i atal neu ohirio dechreuad salwch.
12. Dylai personau hŷn gael mynediad at wasanaethau cymdeithasol a chyfreithiol i wella’u hymreolaeth, eu hamddiffyniad a’u gofal.
13. Dylai personau hŷn gael defnyddio lefelau priodol o ofal sefydliadol sy’n darparu amddiffyniad, adsefydliad ac ysgogiad cymdeithasol a meddyliol a hynny mewn amgylchedd trugarog a diogel.
14. Dylai personau hŷn gael mwynhau hawliau dynol a rhyddidau sylfaenol pan fyddant yn byw mewn unrhyw gyfleuster ar gyfer cysgod, gofal neu driniaeth, gan gynnwys parch llawn i’w hurddas, eu credoau, eu hanghenion a’u preifatrwydd ac i’w hawl i wneud penderfyniadau am eu gofal ac am ansawdd eu bywydau.
15. Dylai personau hŷn gael dilyn cyfleoedd i ddatblygu eu potensial i’r eithaf.
16. Dylai personau hŷn gael mynediad at adnoddau addysgol, diwylliannol, ysbrydol ac adloniadol y gymdeithas.
17. Dylai personau hŷn gael byw mewn urddas a diogelwch a bod yn rhydd rhag cael eu hecsbloetio a’u cam-drin yn gorfforol neu’n feddyliol.
18. Dylai personau hŷn gael eu trin yn deg ni waeth beth fo’u hoed, eu rhywedd, eu cefndir hiliol neu ethnig, eu statws anabledd neu eu statws arall, a chael eu gwerthfawrogi yn annibynnol ar eu cyfraniad economaidd.
Mae rhagor o wybodaeth am Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar Bersonau Hŷn ar gael yma: www.un.org/ageing/un_principles.html