Yr her o fyw ar incwm sefydlog

Mae llawer o bobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiwn i sôn am yr anawsterau ariannol sydd yn eu hwynebu wrth geisio byw ar incwm sefydlog. Mae’r rhain yn ymwneud â materion ariannol o bob math, o bensiynau a budd-daliadau i gynnydd mewn prisiau tanwydd a gostyngiad mewn enillion wrth gael eu gorfodi i ymddeol yn 60 neu’n 65 oed. A chyda’r argyfwng economaidd byd-eang, mae llawer o bobl hŷn yn pryderu am yr arian maent wedi’i gynilo a’i gadw gydol eu bywyd gwaith, ac a fydd y gostyngiad mewn cyfraddau llog yn effeithio ar eu cynlluniau ar ôl ymddeol.

Tlodi Tanwydd

Y diffiniad cyffredinol o dlodi tanwydd yw lle y bydd angen i gartref wario dros 10% o’i incwm ar ei holl ddefnydd o danwydd gan gynnwys offer i gadw’r cartref yn ddigon cynnes. (www.carbondescent.org.uk/glossary.php)

Mae pobl hŷn wedi mynegi pryder am eu gallu i fforddio cynhesu eu cartrefi yn sgil y cynnydd diweddar yng nghostau ynni.

Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae’r Comisiwn wedi derbyn llawer o lythyrau a galwadau ffôn gan bobl hŷn a oedd wedi cael systemau gwresogi newydd yn eu cartrefi diolch i’r cynllun ac a oedd am gysylltu â’r Comisiwn i fynegi eu gwerthfawrogiad a’u diolch.

Mewn ymateb i’r ymholiadau niferus a dderbyniwyd yn mynegi pryderon ynghylch cynnydd mewn costau tanwydd ac ynni, cynhaliodd y Comisiynydd Uwchgynhadledd Ynni ym mis Tachwedd 2008. Y pryderon mwyaf cyffredin ymysg y bobl hŷn a gysylltodd â ni oedd cwmnïau ynni yn rhoi gwybodaeth ddryslyd a phwysau arnynt i brynu eu gwasanaethau, ynghyd ag ymholiadau i weld a ydynt yn gymwys i dderbyn taliadau tywydd oer a thanwydd gaeaf, gyda llawer ohonynt yn gorfod gwneud penderfyniad rhwng bwyta a throi’r gwres arno.

Daeth yr Uwchgynhadledd â chynrychiolwyr o sefydliadau eirioli a chynghori, y Gwasanaeth Pensiwn a Jane Davidson AC, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, ynghyd i drafod rhai camau uniongyrchol y gellid eu cymryd i gael effaith ymarferol ar y materion hyn.

 

Derbyniais lythyr gan y cwmni sy’n cyflenwi ynni i mi yn dweud fod y bil am godi 29%… Bydd hyn yn ergyd fawr i mi a bydd raid i fi ddewis rhwng bwyd neu wres.

Person Hŷn, y De

Mae’r cwmni nwy wedi codi fy nhaliad debyd uniongyrchol o £30 i £72 y mis yn ddiweddar o ganlyniad i’r nwy a ddefnyddiais dros y gaeaf…Ar y pris hwn fydda i ddim yn gallu cynhesu fy nhŷ, a bydd miloedd o bobl eraill mewn sefyllfa debyg.

Person Hŷn, y De

Ddechrau 2009, roedd y Comisiwn yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth â Gofal a Thrwsio Cymru i anfon llythyr ar y cyd i bawb dros 60 oed sydd wedi derbyn cymorth gan Gofal a Thrwsio yn ystod y chwe mis diwethaf. Roedd yn annog pobl hŷn i ofyn am gyngor ar sut i leihau eu biliau tanwydd.

Cododd y llythyr ymwybyddiaeth o LINELL GYMORTH CARTREFI CYNNES, lle mae cynghorwyr arbenigol yn rhoi cyngor ac yn gallu trosglwyddo galwyr yn uniongyrchol i adran berthnasol eu cyflenwr nwy a thrydan. Bydd y rhain wedyn yn gallu eu cofrestru fel cwsmer â blaenoriaeth, cynnig cyngor ar effeithlonrwydd ynni a’r tariff gorau (rhataf) i’r cwsmer.

Gallwch ffonio LLINELL GYMORTH CARTREFI CYNNES ar 0800 33 66 99. Am ragor o wybodaeth ewch i wefan LLINELL GYMORTH CARTREFI CYNNES - www.homeheathelpline.org.uk.

Roeddwn i’n cael trafferth gyda’m cyflenwr ynni a llwyddais i gael ad-daliad gyda chymorth y llinell ffôn. Dwi’n ddiolchgar iawn.

Person Hŷn, y De

Roedd gwasanaeth y ddwy adran yn rhagorol… Diolch i chi am eich amser

Person Hŷn, y De

"Rwy’n derbyn llythyrau a negeseuon e-bost bob dydd gan bobl sy’n pryderu am gost cynhesu eu cartref. Nid bai pobl hŷn yw’r cynnydd byd-eang mewn prisiau tanwydd a ddylen nhw ddim gorfod ofni’r oerfel neu orfod dewis rhwng cynhesu eu cartref a bwyta dros fisoedd y gaeaf." Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn

Pensiynau ac Incwm

Mae’r Comisiwn wedi clywed gan filoedd o bobl hŷn, llawer ohonynt â straeon pryderus i’w hadrodd. Mae’r gostyngiad yng nghyfraddau llog, y cynnydd mewn prisiau tanwydd ac mewn biliau treth cyngor yn lleihau’r arian prin sydd ganddynt.

Mae’r Comisiwn wrthi’n trafod â’r Gwasanaeth Pensiwn i anfon llythyr ar y cyd i bob unigolyn o oedran pensiwn yng Nghymru yn 2009. Nod y llythyr yw codi ymwybyddiaeth o swyddogaeth y Comisiynydd ac annog pobl hŷn i ofyn am gyngor arbenigol i’w helpu i sicrhau’r incwm gorau posibl. Dywed Ruth Marks: “Mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi i sôn am yr anawsterau o fyw ar incwm sefydlog. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Pensiwn ar yr ymgyrch genedlaethol hon, rwy’n gobeithio annog pobl hŷn i edrych a ydynt yn derbyn yr holl incwm sy’n ddyledus iddynt”.

 

Cysylltwch â’r Gwasanaeth Pensiwn am gyngor ar sut i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl incwm sy’n ddyledus i chi:

Cymraeg - 0845 60 60 275

Saesneg - 0845 60 60 265

Ffôn testun - 0845 60 60 285

Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn cynnig gwasanaeth ymweliadau cartref i drafod materion wyneb yn wyneb.

Pe bai pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn briodol a rhesymol yna byddai’r holl broblemau eraill yn cael eu datrys.

Person Hŷn, y De

Mae’r torbwynt ar gyfer treth a budd-daliadau’n annheg weithiau ac mae pobl sydd ychydig uwchben y torbwynt yn aml yn waeth eu byd na’r bobl oddi tano.

Person Hŷn,

y Canolbarth

Mae tanwydd i bobl sy’n defnyddio nwy potel, a oedd yn £40 am ddwy botel bum mlynedd yn ôl yn costio £94.68 rwan. Yn y gaeaf mae dwy botel yn para 2-3 wythnos os ydych chi’n ofalus. Mae angen gwella pensiynau i gyfateb â chostau byw.

Person Hŷn,

y Gogledd

Mae’r argyfwng ariannol presennol yn ei gwneud hi’n anoddach fyth rhoi arian o’r neilltu ar gyfer ymddeol.

Person Hŷn, y De

Mae’n frwydr barhaus i gael dau ben llinyn ynghyd – dyw codiad pensiwn o £5 y flwyddyn ddim yn ddigon.

Person Hŷn,

y Canolbarth

“Heb os nac onibai y broblem fwyaf i’r rhan fwyaf o bensiynwyr yw faint o bensiwn maen nhw’n ei gael”

Person Hŷn,

y De

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.