Gwybodaeth a Defnydd o Wasanaethau
Mae angen darparu gwybodaeth am wasanaethau a sut i gael gafael arnynt mewn ffordd eglur, hawdd i’w deall i bawb sydd ei hangen. Mae llawer o bobl hŷn wedi cysylltu â’r Comisiwn dros y flwyddyn ddiwethaf gan nad ydynt yn siŵr ble i fynd i ofyn am y wybodaeth angenrheidiol. Maent wedi sôn am yr anawsterau maent wedi’u cael wrth geisio cael gwybodaeth ac mae’r wybodaeth maent yn ei chael yn y pen draw yn gymhleth ac yn eu drysu.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cefnogi’r symudiad tuag at Saesneg clir a’r angen i bob sefydliad ysgrifennu pethau fel y byddech yn eu dweud.
Dydyn ni ddim yn cael manylion am faint o drydan rydyn ni’n ei ddefnyddio felly ni allwn gymharu â phrisiau cwmnïau eraill.
Ydy cwmnïau’n sylweddoli fod golwg pobl yn dueddol o waethygu gydag oedran, a bod yr ysgrifen fân iawn ar y tariff diwygiedig yn dda i ddim?
Person Hŷn, y Gorllewin
Mae gan y Comisiwn ddiddordeb mawr yn y gwaith sy’n cael ei wneud gan sefydliadau fel y ganolfan uchod ac mae’n bwriadu datblygu hyn trwy hyfforddi ei staff ei hun fel bod y wybodaeth a rown i bobl hŷn yn glir a chryno.
Mae darparu gwybodaeth glir yn allweddol ac mae’n hanfodol bod gwasanaethau’n cael eu cyflenwi mewn dull cydgysylltiedig a bod yna drefniadau wrth gefn os oes problem yn codi.
Wrth i nifer y bobl hŷn sydd angen gwasanaethau gynyddu, dylid cychwyn trwy:
• Gynnal asesiad priodol o anghenion yr unigolyn
• Llunio cynllun cynhwysfawr i ddiwallu’r anghenion hynny
• Ystyried y person cyfan nid un agwedd ar eu hiechyd neu les.
Rydym wedi derbyn sylwadau sy’n cwmpasu amrywiaeth eang o faterion yn ymwneud â gwasanaethau gan gynnwys codi tâl am ofal a materion gofal ehangach, a darparu cludiant yn y gymuned leol. Mae’r sylwadau canlynol yn dangos safbwyntiau a phrofiadau personol pobl hŷn ym mhob cwr o Gymru.
Gofal
Gorfod gwerthu’ch cartref i dalu am ofal pan mae rhai pobl yn ei gael am ddim. Mae angen datrys hyn.
Person Hŷn, y De
Mae talu am ofal yn asgwrn cynnen ac mae angen trafod hyn. Dylai gofal nyrsio fod am ddim. Gormod o wahaniaethu ar hyn o bryd.
Person Hŷn, y De
Mae’n rhaid i’r Ddeddf Hawliau Dynol fod yn berthnasol i bob darparwr gofal preifat.
Person Hŷn, y De
Mae angen nodi’r meini prawf pendant ar gyfer gwahaniaethu rhwng gofal 24 awr – y codir tâl amdano, a gofal parhaus – sydd am ddim.
Person Hŷn, y De
Mae cynhalwyr angen ‘siopau un stop’ neu un rhif i’w ffonio i gael cyngor ar sut i helpu’r sawl maen nhw’n gofalu amdano
Person Hŷn, y Gogledd
Rhaid cael perthynas waith ymarferol ac ystyrlon rhwng y GIG a gwasanaethau cymdeithasol.
Person Hŷn, y Gogledd
Mae rhestri aros ysbytai yn dal i fod yn rhy hir o lawer.
Person Hŷn, y Gogledd
Dwi’n pryderu am lefelau staffio ar wardiau ysbytai – does dim pwynt gosod bwyd a diod o flaen llawer o’r cleifion, maen nhw angen cymorth neu fyddan nhw ddim yn cael digon o faeth.
Person Hŷn, y De
Gallu cael gafael ar wasanaeth trwsio teclyn clyw yn gyflymach.
Person Hŷn, y De
Dyw ysbytai a meddygfeydd teulu ddim yn cydweithio bob amser ac mae pobl yn teimlo’n unig, yn ofnus ac yn rhwystredig iawn.
Person Hŷn, y Gogledd
Dwi’n bryderus iawn am y gwasanaeth trin traed…mae nhw wedi lleihau nifer y sesiynau…dyn nhw ddim yn trin cleifion yn ôl anghenion clinigol y claf.
Person Hŷn, y De
Mwy o fysus cymunedol i bensiynwyr hŷn heb gludiant.
Person Hŷn, y De
Mae diffyg trafnidiaeth addas yn gwneud i chi deimlo’n unig ac ar wahân.
Person Hŷn, y Gogledd
Dyw’r llawr ddim yn gostwng (ar fysus) felly alla i ddim mynd allan.
Person Hŷn, y De
Mae’n dda eu bod nhw wedi codi’r palmant ger arosfannau bysus ond dylai’r gyrrwyr fynd yn nes atyn nhw.
Person Hŷn, y De
Byddai tocynnau trên am ddim yn helpu.
Person Hŷn, y De
Mae pobl hŷn wedi cysylltu â ni hefyd ynglŷn â’r ffaith fod mwy a mwy o Swyddfeydd Post yn cau ym mhob cwr o’r wlad a sut mae hyn yn effeithio ar eu hardal. Maent hefyd yn mynegi pryder am benderfyniad rhai cynghorau i ddiffodd goleuadau stryd ar amseroedd penodol i arbed arian a lleihau eu hôl troed carbon. Mae rhai pobl hŷn yn teimlo’n unig neu’n rhy ofnus i adael eu cartref ar ôl iddi dywyllu am eu bod yn ofni syrthio neu’n teimlo’n ansicr heb y goleuadau stryd.