Sylwadau Pobl Hŷn

Ers i Ruth Marks ddechrau ar ei gwaith fel Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf Cymru ym mis Ebrill 2008, mae pobl hŷn o bob cwr o Gymru wedi bod yn cysylltu â hi ynglŷn â phob math o bynciau. Mae’r adrannau canlynol yn amlinellu’r prif faterion a godwyd ac yn rhoi rhai enghreifftiau o sut mae’r pryderon a’r ymholiadau hyn wedi llywio gwaith y Comisiynydd.

Cynhaliodd y Comisiynydd sawl digwyddiad ymgynghori mewn gwahanol rannau o Gymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r digwyddiadau hyn wedi bod yn ddull effeithiol iawn o gyfarfod â phobl hŷn yn eu hardaloedd a chlywed eu sylwadau a’u pryderon. Cynlluniwyd holiaduron i’w dosbarthu i bawb yn y digwyddiadau, gan roi cyfle i bobl hŷn hysbysu’r Comisiwn am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau.

Roedd llawer o’r pryderon a godwyd yn tynnu sylw at fater sylfaenol pwysig iawn sef urddas a pharch i bobl hŷn. Mae’n rhaid i barch ac urddas fod yn ganolog i bolisïau sydd i fod i ddarparu ar gyfer pobl yn eu blynyddoedd olaf. Nod y Comisiynydd yw sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn deg, herio gwahaniaethu ar sail oedran a hyrwyddo ymwybyddiaeth o fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru.

Wrth edrych ar yr ymatebion hyn a’r ohebiaeth rydym wedi’i derbyn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gallwn weld dwy thema allweddol:

• Yr her o fym ar incwm sefydlog

• Gwybodaeth am wasanaethau a'r gallu i gael gafael arnynt

Mae’r ddau faes yma’n cwmpasu rhestr llawer hirach o faterion mwy penodol, a byddwn yn egluro rhai ohonynt yn fanylach ar dudalennau unigol. Rydym wedi cynnwys dyfyniadau gan bobl sy’n weithgar yn eu cymunedau ac unigolion hŷn sydd wedi cysylltu â ni ynglŷn â mater penodol, ac wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eu sylwadau. Mae’r saethau’n cyfeirio at wybodaeth gan sefydliadau eraill a allai fod o ddefnydd i chi.

Cliciwch ar y dolenni uchod i ddarllen yr hyn mae pobl hŷn wedi’i ddweud wrth y Comisiwn yn ystod y 12 mis diwethaf a sut mae’r Comisiwn wedi bod yn ymateb i’r materion hyn.

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.