Yr Hyn Rydyn Ni’n Ei Wneud A Sut
Y rôl sydd gennyn ni yw sicrhau bod buddiannau pobl hŷn yng Nghymru, sy’n 60 oed neu fwy, yn cael eu diogelu a’u hybu. Rydyn ni’n cynnig arweiniad strategol ac yn gweithredu fel llysgennad ac awdurdod ar faterion pobl hŷn, gan siarad ar eu rhan.
Rydyn ni’n gwneud y canlynol:
- Darparu gwybodaeth, eiriolaeth a chymorth i bobl hŷn yng Nghymru sy’n 60 oed neu fwy
- Hybu hawliau a lles pobl hŷn ledled Cymru
- Hybu gwaith i ddarparu cyfleoedd i bobl hŷn yng Nghymru, a dileu gwahaniaethu yn eu herbyn
- Adolygu pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r gyfraith, y polisïau a’r strategaethau sy’n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn yng Nghymru
- Adolygu a monitro sut mae trefniadau ar gyfer cwynion, eiriolaeth, cyngor a chwythu’r chwiban yn gweithredu er mwyn darganfod a ydy Cymru’n effeithiol wrth ddiogelu a hybu hawliau a lles pobl hŷn ac i ba raddau y mae’n effeithiol wrth wneud hynny
- Cyflwyno adroddiad blynyddol i Brif Weinidog Cymru ar sut rydyn ni wedi cyflawni’n cyfrifoldebau
Rydyn ni’n gwireddu’r nodau hyn drwy wneud y canlynol:
- Darparu gwasanaeth ymholiadau y gall pobl hŷn yng Nghymru ei ddefnyddio i godi materion sydd o bwys iddyn nhw
- Gwrando ar bryderon pobl hŷn drwy ohebiaeth, grwpiau ffocws, cyfarfodydd, cynadleddau a digwyddiadau cymunedol
- Trefnu pecynnau drwy’r post i gartrefi pobl hŷn yng Nghymru sy’n codi ymwybyddiaeth o bethau fel sut mae’r system fudd-daliadau’n gweithio a sut i gynhesu’ch cartref yn fwy effeithiol
- Cyfarfod â Gweinidogion Cymru a swyddogion eraill o’r Llywodraeth i godi materion sydd wedi’u crybwyll gan bobl hŷn
- Lobïo’r Cynulliad Cenedlaethol i wneud newidiadau polisi ar sail pryderon pobl hŷn
- Cyflwyno sylwadau ar faterion a thynnu sylw at faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru drwy ein gwefan a’r cyfryngau
- Mynd i ddigwyddiadau fel Sioe Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod i godi ymwybyddiaeth o faterion sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru
- Mae manylion llawn ein pwerau a’n swyddogaethau cyfreithiol wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) 2006 a’r rheoliadau perthynol.