Polisi Chwythu’r Chwiban
Mae’r polisi hwn yn nodi’n hymagwedd ni pan fydd rhywun sy’n cael ei gyflogi gan sefydliad arall ac sy’n poeni am ddrygioni yn ei le gwaith ac yn dymuno rhoi gwybod amdano, neu ‘chwythu’r chwiban’,yn cysylltu â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru (y Comisiynydd).
Mae Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd (y Ddeddf) yn diogelu gweithwyr cyflogedig sy’n chwythu’r chwiban ynghylch drygioni rhag cael eu fictimeiddio gan eu cyflogwyr, ar yr amod eu bod nhw’n chwythu’r chwiban yn un o’r ffyrdd sydd wedi’u nodi yn y Ddeddf (sef rhywbeth sy’n cael ei alw’n ddatgeliad gwarchodedig). Mae’r Ddeddf yn gymwys i’r mwyafrif o weithwyr cyflogedig, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu cyflogi dros dro neu drwy asiantaeth. Caiff gweithiwr cyflogedig sy’n cael ei fictimeiddio am ei fod wedi chwythu’r chwiban fynd â’i gyflogwr i dribiwnlys cyflogaeth i geisio sicrhau iawn.
Mae’r Comisiynydd yn cydnabod mai gweithwyr cyflogedig yn aml yw’r cyntaf i sylweddoli y gall fod rhywbeth o’i le yn eu sefydliad ac felly mae’n annog pob unigolyn i godi pryderon dilys ynghylch drygioni cyn gynted ag y bydd cyfle ar gael.
Gair i Gall am Chwythu’r Chwiban
Os ydych chi’n gofidio am ddrygioni lle rydych chi’n gweithio -
Cofiwch:
-
wneud cofnod ar unwaith o’ch pryderon, gan nodi’r holl fanylion perthnasol fel dyddiadau, enwau ac amserau;
-
holi a oes gan eich cyflogwr bolisïau a gweithdrefnau ar gyfer chwythu’r chwiban (maen nhw gan y mwyafrif o gyflogwyr) a’u dilyn nhw. Rhowch wybod am eich amheuon i rywun sydd â’r awdurdod a’r profiad priodol;
-
delio â’r mater yn ddi-oed os ydych chi’n credu bod yna gyfiawnhad dros eich pryderon.
Peidiwch:
-
â mynd heb wneud dim byd;
-
ag ofni codi’ch pryderon. Rhaid i’ch cyflogwr beidio â’ch fictimeiddio os byddwch yn codi pryderon. Rhaid i’ch cyflogwr drin unrhyw fater y byddwch yn ei godi yn sensitif ac yn gyfrinachol;
-
â mynd at yr un unigolyn na chyhuddo’r un unigolyn yn uniongyrchol na cheisio ymchwilio i’r mater eich hun;
-
â rhoi gwybod am eich amheuon i neb sydd heb yr awdurdod priodol.
Rôl y Comisiynydd
Dydy’r Comisiynydd ddim yn ‘berson rhagnodedig’ o dan y Ddeddf. Felly, at ddibenion y Ddeddf, mae datgelu rhywbeth i’r Comisiynydd yn ddatgeliad cyhoeddus ‘ehangach’.
Y prif gonsýrn i ni yw diogelu lles y cyhoedd. Byddwn yn ceisio sicrhau bod datgeliad yn cael ei wneud mewn modd cyfrifol, ond dydy’r Ddeddf ddim yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd bwyso a mesur a ydy datgeliad yn gymwys i gael ei ddiogelu o dan y Ddeddf neu beidio, Ystyried y materion sy’n cael eu datgelu iddi yw rôl y Comisiynydd.
Dydy’r Ddeddf ddim yn ei gwneud yn ofynnol i’r Comisiynydd ymchwilio i bob datgeliad sy’n cael ei wneud. Dim ond ar sail swyddogaethau’r Comisiynydd fel y maen nhw wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) y gallwn ni fynd ati i ymchwilio i ddatgeliadau.
I ba fathau o ddrygioni y mae’r polisi hwn yn gymwys?
Dylai pryderon sy’n cael eu codi gyda’r Comisiynydd o dan y polisi hwn fod yn bryderon ynghylch y canlynol:
-
bod tramgwydd troseddol wedi’i gyflawni neu’n debyg o gael ei gyflawni; a/neu
-
fod person wedi methu, wrthi’n methu neu’n debyg o fethu â chydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol y mae’n dod o dani; a/neu
-
fod camwedd wedi digwydd, wrthi’n digwydd neu’n debyg o ddigwydd; a/neu
-
fod iechyd neu ddiogelwch unrhyw unigolyn wedi’i beryglu, wrthi’n cael ei beryglu neu’n debyg o gael ei beryglu; a/neu
-
fod yr amgylchedd wedi’i niweidio, wrthi’n cael ei niweidio neu’n debyg o gael ei niweidio; a/neu
-
fod gwybodaeth sy’n tueddu i ddangos unrhyw un o’r materion uchod wedi’i chelu’n fwriadol, wrthi’n cael ei chelu’n fwriadol neu’n debyg o gael ei chelu’n fwriadol.
Er enghraifft, gallai pryderon o’r fath gynnwys camymddygiad neu driniaeth wael i glaf/cleient/cwsmer gan aelod o’r staff; torri unrhyw god ymarfer statudol; gwahaniaethu annheg wrth ddarparu gwasanaethau; neu ymddygiad amhroffesiynol neu ymddygiad sy’n is na safonau ymarfer sydd wedi’u cydnabod ac wedi ennill eu plwyf.
Codi pryder
Os oes gennych chi bryder am ddrygioni yn eich lle gwaith, gallwch gysylltu â Public Concern at Work sy’n gallu rhoi cyngor ichi yn annibynnol, yn rhad ac am ddim ac yn gyfrinachol ar sut i godi pryder yn ddiogel ac yn effeithiol. Gallwch gysylltu â’u llinell gymorth nhw ar 020 7404 6609 neu drwy e-bostio helpline@pcaw.co.uk.
Mae’n arfer da i gyflogwyr gael eu gweithdrefnau mewnol eu hunain ynglŷn â chwythu’r chwiban, a ddylai esbonio sut y gallwch chi godi unrhyw bryderon. Os oes gweithdrefnau o’r fath gan eich cyflogwr chi, dylech eu dilyn.
Mae’n haws sicrhau amddiffyniad o dan y Ddeddf os byddwch yn codi’ch pryder gyda’ch cyflogwr yn gyntaf. Er hynny, does dim rhaid ichi wneud hynny. Cydnabyddir y gall fod rhesymau dilys pam y byddai gweithiwr am godi ei bryderon y tu allan i’r gweithle. Os na allwch chi godi’ch pryderon yn eich gweithle, fe allai fod yn briodol ichi eu codi gyda rheoleiddiwr (‘person rhagnodedig’).
Bydd datgeliad i’r Comisiynydd yn ddatgeliad cyhoeddus ehangach. Oherwydd hynny, bydd angen i’r seiliau dros wneud datgeliad cyhoeddus gael eu bodloni er mwyn ichi gael eich amddiffyn gan y Ddeddf. Bydd arnoch chi angen achos dros ddatgelu sy’n gallu cael ei gyfiawnhau ac mae’n rhaid i’r datgeliad fod yn rhesymol. Gallwch gysylltu â Public Concern at Work i gael cyngor ar sut i fynd ati i wneud datgeliad gwarchodedig.
Bydd unrhyw wybodaeth a gaiff y Comisiynydd yn cael ei thrin yn sensitif a bydd y Comisiynydd yn ymchwilio i faterion sy’n cael eu codi o dan y polisi hwn mewn modd cyfrifol.
Codi pryderon yn ddienw
Mae yna risgiau ychwanegol pan fydd gweithwyr yn codi eu pryderon yn ddienw. Mae’n anos ymchwilio i’r pryder os na allwn ni ofyn cwestiynau dilynol. Gall datgeliad dienw arwain pobl i ganolbwyntio ar y sawl sydd wedi chwythu’r chwiban, gan amau o bosibl ei fod yn codi’r pryder yn faleisus. Mae’n gallu bod yn anos cael gwybodaeth o dan y Ddeddf hefyd. Am y rhesymau hyn, dydyn ni ddim yn annog neb i godi pryderon yn ddienw gyda’r Comisiynydd, er y byddwn yn derbyn datgeliadau dienw.
Ein gweithdrefn ni pan fydd rhywun yn troi aton ni i chwythu’r chwiban
Cam 1
Byddwn yn cyfeirio pawb sy’n chwythu’r chwiban at Public Concern at Work yn y lle cyntaf i gael cyngor annibynnol a chyfrinachol. Wedyn gall y gweithiwr droi at y Comisiynydd ar ôl cael cyngor gan Public Concern at Work neu os ydyn nhw’n methu â helpu.
Cam 2
Os bydd gweithiwr yn dod aton ni gan ddymuno chwythu’r chwiban, byddwn yn edrych i weld a allwn ni dderbyn y datgeliad. Bydd angen inni ofyn cwestiynau sy’n rhan o’r weithdrefn er mwyn gweld pa mor bell y mae’r datgeliad wedi cyrraedd ac a oes yna gyrff cyhoeddus eraill yn ymchwilio i’r mater. Ar y weithdrefn y byddwn ni’n canolbwyntio felly cyn bod modd i sylwedd y datgeliad gael ei ystyried.
Cam 3
Pan fyddwn ni wedi cadarnhau ein bod yn cael derbyn y datgeliad, byddwn yn trefnu cyfweliad datgelu gyda’r gweithiwr. Ar ôl y cyfweliad, byddwn yn ysgrifennu at y gweithiwr i esbonio beth rydyn ni’n bwriadu ei wneud gyda’r datgeliad. Dim ond ar sail pwerau’r Comisiynydd sydd wedi’u nodi yn Neddf Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) y gallwn ni ymchwilio i sylwedd datgeliad. Mae’n rhaid i unrhyw gamau a gymerwn ni gael eu cymryd yn unol â’n swyddogaethau (gweler Rôl y Comisiynydd i gael esboniad ar y swyddogaethau hyn). Bydd honiadau ynglŷn ag ymddygiad troseddol yn cael eu cyfeirio at yr heddlu a/neu’r asiantaethau priodol.