Hanes y Comisiwn
Daeth swydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru i fodolaeth ar 21 Ebrill 2008 yn sgil ymrwymiad i fodolaeth y Comisiwn ym maniffesto etholiad y Blaid Lafur ac argymhelliad gan y Grŵp Cynghori ar y Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru yn 2003. Ar ôl gwaith ymchwilio, ymgynghori a thrafod, cafodd Mesur Comisiynydd Pobl Hŷn (Cymru) ei basio drwy’r Senedd a chafodd y Cydsyniad Brenhinol ar 25 Gorffennaf 2006.
Cafodd Ruth Marks ei phenodi’n Gomisiynydd cyntaf. Ei phenderfyniad cyntaf, ar ôl iddi ymgymryd â’i phwerau cyfreithiol, oedd diwygio’i theitl o’r Comisiynydd dros Bobl Hŷn yng Nghymru i Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Newid bach cynnil oedd hwn, ond newid a osododd bobl hŷn yn ganolbwynt i’r sefydliad.
Roedd mwy na 400 o eitemau o ohebiaeth wedi dod i law i’r Comisiwn cyn iddo gael ei sefydlu. Daeth y rhain oddi wrth unigolion a sefydliadau ledled Cymru, gan gynnwys ceisiadau i’r Comisiynydd annerch cynadleddau a mynd i gyfarfodydd ac oddi wrth bobl hŷn yn mynegi safbwyntiau, pryderon a sylwadau penodol.
Mae’r rhain wedi dylanwadu ar ein polisi allweddol, sef gwrando ar bobl hŷn yng Nghymru a sicrhau bod ein gwaith yn cael ei fwydo gan eu safbwyntiau, eu problemau a’u pryderon nhw.
Cafwyd un o’r enghreifftiau cyntaf o gydweithio â phobl hŷn pan gafodd cystadleuaeth ei lansio, mewn partneriaeth â Phrifysgol y Drydedd Oes, Age Concern, grwpiau lleol a sawl sefydliad arall, i ddylunio logo ac arwyddair i’r Comisiwn.
Ym mis Hydref 2008, symudodd y Comisiwn o swyddfeydd dros dro yn Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, i swyddfa barhaol yn Adeiladau Cambrian, yng nghanol cymuned hanesyddol Butetown yng Nghaerdydd.
Y mis wedyn, cafodd Sarah Stone ei phenodi’n Ddirprwy Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru a buom yn gweithio i adolygu rhychwant ein pwerau cyfreithiol er mwyn sicrhau dealltwriaeth gliriach o’n rôl a’n cylch gorchwyl cyfreithiol.
Erbyn mis Ionawr 2009, roedden ni wedi datblygu’n Cynllun Strategol Interim. Mae’r Cynllun yn nodi’n gweledigaeth, sef, ‘Rydyn ni am weld Cymru lle mae parch i hawliau ac urddas pobl hŷn yn realiti ymarferol ym mhob rhan o fywyd, lle mae gwahaniaethu ar sail oed yn perthyn i’r gorffennol a lle ceir agwedd gadarnhaol at heneiddio a phobl hŷn.’
Yn yr un mis cafodd Pwyllgor Archwilio ei benodi i gefnogi a herio’n gwaith. Nodwyd blaenoriaethau hefyd o ran staffio er mwyn gwneud y gorau o’n pwerau cyfreithiol a chanolbwyntio ar y blaenoriaethau y mae pobl hŷn wedi’u nodi.
O fis Chwefror 2009 ymlaen, dechreuwyd recriwtio’n tîm staff er mwyn inni barhau â’n gwaith a’i ehangu.