Galwad am dystiolaeth

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn cynnal Adolygiad ynghylch a yw pobl hŷn yn cael eu trin â pharch ac urddas tra byddan nhw yn yr ysbyty.

Nodau’r Adolygiad yw:

  • ystyried profiadau pobl hŷn, da a drwg, pan fyddan nhw’n gleifion mewnol yn yr ysbyty
  • gwneud argymhellion ymarferol lle nad yw pobl yn cael eu trin ag urddas a pharch, a
  • lledaenu arferion da lle maen nhw’n cael eu trin felly.

Mae’r Comisiwn wedi sefydlu Panel Ymchwilio, o dan gadeiryddiaeth y Fonesig Deirdre Hine, i dderbyn tystiolaeth ynghylch profiadau pobl hŷn o’r ysbyty.

Bellach, mae’r Panel yn gofyn am dystiolaeth ysgrifenedig gan bobl hŷn sydd mewn ysbyty cyffredinol neu ysbyty cymunedol neu sydd wedi bod mewn un. Mae’r Panel hefyd yn croesawu tystiolaeth gan deuluoedd a chyfeillion pobl hŷn, eiriolwyr a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan o bob sector, gan gynnwys sefydliadau statudol a gwirfoddol, undebau llafur a chymdeithasau proffesiynol am brofiadau pobl hŷn tra byddan nhw yn yr ysbyty.

Dylai’r dystiolaeth gyfeirio at gyfnodau yn yr ysbyty o fwy na phum diwrnod o’r bron a chael ei seilio ar brofiadau yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Hoffai’r Panel gael tystiolaeth am nifer o faterion a byddai’n ddiolchgar pe gallech ymateb i unrhyw rai neu’r cyfan o’r pwyntiau isod sy’n gymwys i’ch amgylchiadau neu’ch buddiannau chi:-

  • Preifatrwydd personol, gan gynnwys materion ynglŷn â wardiau a chyfleusterau rhyw-cymysg
  • Cyfathrebu, gan gynnwys sut mae pobl yn cael gwybod am benderfyniadau am eu gofal a’u cynnwys yn y penderfyniadau hynny, y math o iaith sy’n cael eu defnyddio a ffurfiau cyfarch
  • Bwyd a maeth gan gynnwys cynnig dewis a pharchu dewis, nodi cymorth priodol a’i ddarparu
  • Hylendid personol megis cyflwr ystafelloedd ymolchi ysbytai, cymorth i ymolchi os yw’n briodol, a defnyddio padiau anymataledd
  • Rheoli gofal diwedd oes
  • Cydnabod pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth
  • Cynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion gan gynnwys pryd i gynllunio a sut mae hyn yn cael ei fynegi
  • Ymreolaeth a hunaniaeth gan gynnwys defnyddio eitemau personol fel sbectolau a dannedd gosod ac eiddo personol
  • Ymwybyddiaeth o hawliau unigol a deall sut i gwyno
  • Unrhyw enghreifftiau eraill o arferion da neu wael ynglŷn â chadw urddas a pharch.

Fydd y Panel Ymchwilio ddim yn ymdrin â diagnosis neu driniaeth glinigol, cludo pobl yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty, na threfniadau rhyddhau y tu hwnt i’r ysbyty.

O gofio’r ymateb eang a ddisgwylir i’r Ymchwiliad, byddem yn ddiolchgar pe na bai’r dystiolaeth ysgrifenedig yn fwy na phedwar tudalen neu 1500 o eiriau. Mae croeso i dystiolaeth yn yr iaith o’ch dewis chi.

Bydd y Panel Ymchwilio yn cymryd tystiolaeth lafar yn yr hydref ac felly byddai o gymorth pe gallech nodi yn eich cyflwyniad a fyddech yn fodlon rhoi tystiolaeth ar lafar, pe baech chi’n cael eich gwahodd.

Dylai’r cyflwyniadau gael eu hanfon at gofyn@olderpeoplewales.com neu at

Delyth Lewis
Ysgrifenyddiaeth y Panel Ymchwilio
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Adeiladau Cambrian
Sgwâr Mount Stuart
Caerdydd CF10 5FL

Dylai’r cyflwyniadau gyrraedd erbyn dydd Llun 16 Awst 2010 fan bellaf.

Datgelu gwybodaeth

Gall y dystiolaeth lafar a’r dystiolaeth ysgrifenedig gael eu cyhoeddi ochr yn ochr ag Adolygiad y Comisiynydd a hynny yn rhannol neu’n llawn. Serch hynny, rydyn ni’n sylweddoli y bydd rhywfaint o’r dystiolaeth rydyn ni’n debyg o’i chael yn sensitif ac yn bersonol iawn ei natur a byddwn yn cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod enghreifftiau a roddir o ymarfer gwael yn ddienw. Fydd gwybodaeth sydd yn ein barn ni’n ddata personol ddim yn cael ei chyhoeddi.

Os ydych chi’n rhoi unrhyw wybodaeth yr ydych chi’n teimlo nad yw’n addas ei datgelu i’r cyhoedd, nodwch pa rannau na ddylen nhw gael eu cyhoeddi.

Fformatau hwylus

Os hoffech gael copi o’r ddogfen hon ar ffurf Braille, print bras neu sain, cysylltwch â Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Cysylltwch â ni drwy neges e-bost i gofyn@olderpeoplewales.com neu drwy ffonio 08442 640670

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.