Cofrestr o argymhellion

Os hoffech copi o ymateb Bwrdd Iechyd neu Awdurdod Lleol mewn Cymraeg, cysylltwch efo nhw yn uniongyrchol.

Gofal Gydag Urddas?

Gofal Gydag Urddas (.pdf)


Comisiynydd yn nodi ei hymateb cychwynnol i gyrff cyhoeddus ynghylch Adolygiad “Gofal gydag Urddas?”

Mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ystyried ymatebion cychwynnol y Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru i’w Hadolygiad “Gofal gydag Urddas?”.

Llwyddodd pob corff a oedd dan sylw yn yr adolygiad i ymateb erbyn y dyddiad cau ac roedd yr ymatebion yn cynnwys llawer o ddeunydd calonogol. Er hynny, mae angen gwneud mwy i ddangos y caiff yr argymhellion eu bodloni’n llawn. Bydd gan y cyrff fis i ymateb i gais y Comisiynydd am ragor o wybodaeth i’w darbwyllo y byddan nhw’n cydymffurfio’n llawn â’i hargymhellion.

Dywedodd Ruth Marks “Dwi’n croesawu’r ymateb cadarnhaol i’m Hadolygiad ac i’r alwad am newid ynddo. Hoffwn gydnabod y gwaith sydd wedi’i wneud i fynd i’r afael â’m hargymhellion i, ac roeddwn i’n falch o weld rhai ymatebion da iawn. Mae’r cyrff a oedd dan sylw yn yr Adolygiad wedi cydnabod y materion a nodes i ac wedi dechrau mynd i’r afael â nhw. Bellach hoffwn eu gweld yn adeiladu ar lawer o’r atebion y maen nhw wedi’u rhoi. Dwi am i’m Hadolygiad i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu trin yn dda a’u trin ag urddas pan fyddan nhw’n aros yn yr ysbyty. Mae’r argymhellion i gyd yn ganolog yn hyn o beth, a dyna pam y mae hi mor bwysig i’r cyrff fy mherswadio i y bydd newid yn digwydd.

“Dwi wedi ysgrifennu at bob un o’r Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth a Llywodraeth Cymru i nodi pa ymatebion sydd wedi rhoi sylw digonol i’m hargymhellion a pha rai sy’n gorfod cael eu gwella.

“Pan fydd cyrff wedi fy mherswadio i y byddan nhw’n bodloni’r argymhellion, fe fydda i’n cydweithio ag eraill i fonitro a ydyn nhw’n gwneud hynny mewn gwirionedd neu beidio.”

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.