Gofal Gydag Urddas?

Y Comisiynydd yn croesawu’r ail ymatebion ynghylch urddas a pharch
Yn sgil ei datganiad ar 18 Gorffennaf 2011, mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, wedi ystyried ail ymatebion Llywodraeth Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac awdurdodau lleol i’r argymhellion yn ei Hadolygiad “Gofal gydag Urddas?”.
Mae hi o’r farn eu bod wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at fodloni ei hargymhellion i wella urddas a pharch i bobl hŷn yn ysbytai Cymru.
Mae’r cyrff a ganlyn wedi rhoi digon o wybodaeth i ddarbwyllo’r Comisiynydd y byddan nhw’n cydymffurfio â’i 12 argymhelliad:
- pob un o’r awdurdodau lleol
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
- Bwrdd Iechyd Hywel Dda
- Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Mae’r Comisiynydd wedi gofyn am ragor o wybodaeth gan y cyrff a ganlyn i’w darbwyllo y byddan nhw’n cydymffurfio â phob un o’i hargymhellion:
- Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg
- Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro
- Bwrdd Iechyd Cwm Taf
- Ymddiriedolaeth GIG Felindre
- Llywodraeth Cymru
Dywedodd Ruth Marks “Ar ôl yr ymatebion cychwynnol i’r argymhellion a nodwyd yn “Gofal gydag Urddas?”, gofynnais am ragor o wybodaeth gan gyrff, i amlinellu sut y bydden nhw’n troi fy argymhellion i’n realiti ymarferol.”
“Mae’r ail ymatebion sydd wedi dod i law yn dangos bod rhagor o waith wedi’i wneud gan lawer o’r cyrff hyn i brofi eu hymrwymiad i ddarparu gofal urddasol. Mae rhai cyrff heb roi digon o wybodaeth imi eto i ddangos y byddan nhw’n cydymffurfio â phob argymhelliad.”
Bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi ei dyfarniad terfynol ar yr ymatebion i’w Hadolygiad “Gofal gydag Urddas?” erbyn diwedd mis Hydref 2011.
Yr ymatebion llawn i “Gofal gydag Urddas?”
“Gofal gydag Urddas?”: Rhagor o wybodaeth
Y diweddaraf a ‘Gofal gydag Urddas’ - Medi 2011
Er mis Mawrth 2010, mae’r Comisiynydd wedi bod yn cynnal Adolygiad i ystyried a yw ysbytai yng Nghymru’n trin pobl hŷn â pharch ac urddas. Cyhoeddwyd adroddiad ym mis Mawrth 2011 a oedd yn gwneud argymhellion i gyrff a oedd yn atebol i’r Adolygiad: Byrddau Iechyd Lleol Cymru, Ymddiriedolaeth GIG Felindre, Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru. Mae gan y Comisiynydd yr awdurdod cyfreithiol i ofyn i’r cyrff hyn ymateb i’w hargymhellion, gan amlinellu’r hyn y byddant yn eu gwneud er mwyn cydymffurfio â nhw.
Roedd gan y rhai hynny a oedd yn atebol i’r Adolygiad hyd 15 Mehefin i ymateb i’r argymhellion yn y lle cyntaf. Er i bob corff ymateb, nid oedd yr ymatebion yn argyhoeddi’r Comisiynydd eu bod yn cydymffurfio â phob un o’i hargymhellion. Felly, rhoddodd y Comisiynydd fis ychwanegol ar gyfer cyflwyno ymatebion boddhaol.
Mae’r ymatebion ychwanegol yn cael eu hasesu gan y Comisiynydd ar hyn o bryd. Bydd y Comisiynydd yn cysylltu â’r Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth, yr Awdurdodau Lleol a Llywodraeth Cymru erbyn 13 Medi. Gall ofyn am fwy o wybodaeth os nad yw wedi cael ei darbwyllo y byddant yn cydymffurfio â’i hargymhellion. Bydd yr Adolygiad yn dod i ben ar ddiwedd mis Hydref 2011.
Bydd y Comisiynydd yn defnyddio amrywiaeth o ddulliau, gyda chefnogaeth ystod o ffynonellau, i sicrhau bod y rhai hynny sy’n atebol i’r Adolygiad yn rhoi ar waith y camau hynny y dywedasant y byddent yn eu cymryd i gwrdd â’i hargymhellion. Drwy wneud hyn bydd hi’n parhau i ddiogelu buddiannau pobl hŷn ar draws Cymru ac annog yr arfer gorau wrth eu trin.
18 Gorffennaf 2011
Comisiynydd yn nodi ei hymateb cychwynnol i gyrff cyhoeddus ynghylch Adolygiad “Gofal gydag Urddas?”
Mae Ruth Marks, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi
ystyried ymatebion cychwynnol y Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth a
Llywodraeth Cymru i’w Hadolygiad “Gofal gydag Urddas?”.
Llwyddodd
pob corff a oedd dan sylw yn yr adolygiad i ymateb erbyn y dyddiad cau
ac roedd yr ymatebion yn cynnwys llawer o ddeunydd calonogol. Er hynny,
mae angen gwneud mwy i ddangos y caiff yr argymhellion eu bodloni’n
llawn. Bydd gan y cyrff fis i ymateb i gais y Comisiynydd am ragor o
wybodaeth i’w darbwyllo y byddan nhw’n cydymffurfio’n llawn â’i
hargymhellion.
Dywedodd Ruth Marks “Dwi’n croesawu’r ymateb cadarnhaol i’m Hadolygiad
ac i’r alwad am newid ynddo. Hoffwn gydnabod y gwaith sydd wedi’i wneud
i fynd i’r afael â’m hargymhellion i, ac roeddwn i’n falch o weld rhai
ymatebion da iawn. Mae’r cyrff a oedd dan sylw yn yr Adolygiad wedi
cydnabod y materion a nodes i ac wedi dechrau mynd i’r afael â nhw.
Bellach hoffwn eu gweld yn adeiladu ar lawer o’r atebion y maen nhw
wedi’u rhoi. Dwi am i’m Hadolygiad i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu
trin yn dda a’u trin ag urddas pan fyddan nhw’n aros yn yr ysbyty. Mae’r
argymhellion i gyd yn ganolog yn hyn o beth, a dyna pam y mae hi mor
bwysig i’r cyrff fy mherswadio i y bydd newid yn digwydd.
“Dwi wedi ysgrifennu at bob un o’r Byrddau Iechyd, yr Ymddiriedolaeth a
Llywodraeth Cymru i nodi pa ymatebion sydd wedi rhoi sylw digonol i’m
hargymhellion a pha rai sy’n gorfod cael eu gwella.
“Pan fydd cyrff wedi fy mherswadio i y byddan nhw’n bodloni’r
argymhellion, fe fydda i’n cydweithio ag eraill i fonitro a ydyn nhw’n
gwneud hynny mewn gwirionedd neu beidio.”
Y diweddaraf am ‘Gofal gydag Urddas?’ – Mehefin 2011
Ar 14 Mawrth 2011 cyhoeddodd y Comisiynydd ei hadroddiad ‘Gofal gydag Urddas? Profiadau pobl hŷn mewn ysbytai yng Nghymru’. Yn yr adroddiad hwnnw gwnaeth ddeuddeg o argymhellion i fyrddau iechyd lleol Cymru ac Ymddiriedolaeth GIG Felindre, pump i Lywodraeth Cymru ac un i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ar y cyd.
Mae’r Comisiynydd wedi gofyn i’r cyrff hyn ymateb i’r argymhellion erbyn 14 Mehefin 2011, gan amlinellu’r hyn y maen nhw wrthi’n ei wneud, ac am ei wneud, i gydymffurfio â’r argymhellion. Ar ôl i’r Comisiynydd gael yr ymatebion, bydd yn cymryd mis i asesu a yw’r ymatebion yn ddigonol.
Os gwelir bod ymateb yn annigonol, bydd y Comisiynydd yn rhoi Hysbysiad Ysgrifenedig i’r corff o dan sylw i nodi’r diffygion yn yr ymateb ac i ofyn am ymateb gwell.
Os yw’r ymateb yn ddigonol, bydd y Comisiynydd yn monitro er mwyn sicrhau bod y cyrff yn gwneud yr hyn y maen nhw wedi dweud y byddan nhw’n ei wneud.
Bydd y Comisiynydd yn cadw cofrestr a fydd ar gael yn gyhoeddus (ar y we ac mewn copi caled) i gofnodi crynodeb o’r ymatebion ac o ganlyniadau unrhyw gamau pellach y bydd y Comisiynydd yn eu cymryd. Fydd y gofrestr ddim ar gael cyn 15 Gorffennaf.
I’w helpu i asesu’r ymatebion, cynghorir y Comisiynydd gan aelodau o’i staff a chan bump o rai eraill hefyd, sef:
Y Dr Anne Evans
Cyn iddi ymddeol, Anne oedd Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Rhondda Cynon Taf a Chyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Lleol Merthyr Tudful. Mae ganddi flynyddoedd lawer o brofiad o wella gwasanaethau i gleifion sy’n agored i niwed ac yn glinigol, drwy weithio gyda phobl hŷn mewn ysbytai ac yn y gymuned.
Meirion Hughes
Bu Meirion yn aelod o Banel Ymchwilio’r Adolygiad ac mae’n Gyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ymddeol ac yn gyn Brif Weithredwr dros dro i Gyngor Sir Ddinbych. Bu’n gweithio yn y GIG fel Cadeirydd Bwrdd Iechyd Lleol Sir Ddinbych, gan dreulio tymor yn Gadeirydd Cydffederasiwn GIG Cymru. Yn 2009 bu’n aelod o Adolygiad Annibynnol ar Ofal Iechyd Parhaus yng Nghymru. Mae Meirion hefyd yn un o ymddiriedolwyr Age Cymru.
Yr Athro Marcus Longley
Marcus yw’r Athro Polisi Iechyd Cymhwysol a’r Cyfarwyddwr yn Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru. Bu’n gweithio yn y GIG am 14 blynedd ac am ddwy flynedd yn Fforwm Cynllunio Iechyd Cymru cyn ymuno â Phrifysgol Morgannwg ym 1995. Mae ei ddiddordebau’n cynnwys sicrhau bod cleifion yn cymryd rhan wrth i bolisïau gael eu llunio ac wrth i wasanaethau gael eu cyflawni, gwaith integredig ar draws y gwasanaethau cyhoeddus a dyfodol gofal iechyd.
Y Dr Win Tadd
Mae Win yn Ddarllenydd yn Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol (Cesagen) ym Mhrifysgol Caerdydd. Cyn hynny bu’n Uwch Gymrawd Ymchwil yn Adran Meddygaeth Geriatrig Prifysgol Caerdydd. Treuliodd Win flynyddoedd lawer yn nyrs ac yn uwch-ddarlithydd yn y Deyrnas Unedig ac yn Awstralia. Mae ei diddordebau ymchwil yn hoelio sylw ar agweddau moesegol heneiddio a gofal pobl hŷn ac ers 12 mlynedd mae ei gwaith yn canolbwyntio ar urddas a gofal urddasol i bobl hŷn yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop.
Yr Athro Bob Woods
Athro Seicoleg Glinigol Pobl Hŷn ym Mhrifysgol Bangor yw Bob. Mae hefyd yn Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Cymru ac yn Llysgennad ar ran Cymdeithas Alzheimer. Mae ei waith ymchwil diweddar wedi hoelio sylw ar berthnasoedd mewn gofal ac ar gloriannu ymyriadau sydd wedi’u bwriadu i helpu pobl sydd â dementia a gofalwyr.