Pa mor hir fydd proses yr Adolygiad?
Bydd y Comisiynydd yn casglu tystiolaeth ysgrifenedig yn ystod hydref 2011 ac yn ymweld â chartrefi gofal i ymgysylltu â phobl hŷn o fis Tachwedd 2011 tan Ionawr 2012.
Yn dilyn hyn, bydd y dystiolaeth a gasglwyd yn cael ei dadansoddi’n fanwl a bydd argymhellion yn cael eu cyhoeddi, fel rhan o adroddiad sydd i'w gyhoeddi ym mis Mehefin 2012, i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon a amlygir yn ystod y broses adolygu.
Rhaid i’r cyrff sy'n dod o dan yr Adolygiad ymateb i'r Comisiynydd o fewn tri mis ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, gan amlinellu’r camau y byddan nhw’n eu cymryd i fodloni'r argymhellion a gyhoeddwyd. Bydd y Comisiynydd yn asesu'r ymatebion hyn i sicrhau y bydd y camau arfaethedig yn bodloni'r argymhellion.
Gellir gofyn am ragor o wybodaeth neu ymatebion os bydd y Comisiynydd yn teimlo na fydd ei hargymhellion yn cael eu bodloni.
Yn ôl i’r Adolygiad ar Drefniadau Eiriolaeth mewn Cartrefi Gofal