Pam mae’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn adolygu trefniadau eiriolaeth cartrefi gofal?
Bu’r Comisiynydd Pobl Hŷn yn cydweithio ag Age Cymru i helpu i gyhoeddi Advocacy Counts 3, a arolygodd ddarpariaeth ac argaeledd gwasanaethau eiriolaeth yng Nghymru. Canfu'r adroddiad mai anghyson yw’r ddarpariaeth ar gyfer gwasanaethau eiriolaeth i bobl hŷn yng Nghymru a bod yna rannau helaeth o'r wlad sy’n dal heb wasanaethau eiriolaeth wedi’u hariannu.
Mae’r ymchwil ragarweiniol a gomisiynwyd yn dangos y gall eiriolaeth fod yn hanfodol bwysig i bobl hŷn ar bob adeg yn ystod penderfyniadau ynghylch cartrefi gofal: wrth benderfynu mynd i mewn, tra byddan nhw’n byw yn y cartref gofal, neu wrth symud allan ohono.
Mae cyfran fawr o waith achosion Tîm Gwybodaeth ac Ymholiadau’r Comisiynydd yn ymwneud â phryderon am brofiad pobl hŷn o gartrefi gofal. Mae llawer o’r achosion hyn yn ymwneud â sefyllfaoedd lle buasai’r cyfle i gysylltu ag eiriolwr annibynnol yn fuddiol a lle gallai hynny fod wedi arwain at ganlyniadau gwahanol.
Drwy ymgysylltu â sefydliadau eiriolaeth, cartrefi gofal a sefydliadau perthnasol eraill, tanlinellwyd bod pobl hŷn mewn cartrefi gofal yn arbennig o agored i niwed; mae gan y Comisiynydd rôl benodol wrth amddiffyn y bobl hŷn fwyaf agored i niwed lle mae'n anodd iddyn nhw siarad drostyn nhw eu hunain .
Cydnabyddir yn eang fod eiriolaeth yn fesur diogelu gwerthfawr a phwysig ond nid yw ar gael i bawb. Gan hynny, mae gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru ran amlwg i’w chwarae o ran sicrhau’r gwasanaethau eiriolaeth gorau posibl i bobl hŷn yng Nghymru.
Back to Review into Advocacy Arrangements in Care Homes