Broses Adolygu

Mae cryn dipyn o waith cwmpasu ac ymchwil eisoes wedi’i wneud ar ran y Comisiynydd, gan ystyried pwysigrwydd eiriolaeth i bobl hŷn a chasglu gwybodaeth am drefniadau eiriolaeth ledled Cymru.

Bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn adeiladu ar y dystiolaeth yma drwy gasglu rhagor o wybodaeth o ystod o ffynonellau, gan gynnwys awdurdodau lleol a chartrefi gofal, ac yn cynnal dadansoddiad manwl i weld pa mor ddigonol yw’r trefniadau sydd yn eu lle ar hyn o bryd.

Bydd y Comisiwn hefyd yn ymweld â nifer o gartrefi gofal yn ystod proses yr Adolygiad, gan siarad â phobl hŷn i gael gwybod beth maen nhw’n ei wybod am argaeledd eiriolaeth, mynediad i wasanaethau eiriolaeth ac  o dan ba amgylchiadau y mae arnyn nhw angen cymorth eiriolaeth.

Ar sail y dystiolaeth a fydd yn cael ei chasglu, bydd y Comisiynydd Pobl Hŷn yn rhoi argymhellion yn ôl yr angen i'r cyrff hynny sy’n dod o dan yr Adolygiad, gan amlinellu unrhyw newidiadau a all fod yn angenrheidiol i wella’r trefniadau eiriolaeth mewn cartrefi gofal yng Nghymru.

Bydd yn ofynnol i’r cyrff ymateb o fewn cyfnod rhagnodedig, gan ddisgrifio’r camau y byddan nhw’n eu cymryd i fodloni'r argymhellion. Gellir gofyn am ymatebion ychwanegol hefyd os nad yw’r camau arfaethedig yn sicrhau’r Comisiynydd yn llawn y cydymffurfir â’i hargymhellion.

Bydd proses yr Adolygiad yn dod i ben pan fydd ymatebion boddhaol wedi dod i law. Bryd hynny, bydd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru’n dechrau ar raglen o waith dilynol i sicrhau bod y rhai sy'n dod o dan yr Adolygiad wrthi’n cymryd y camau y dywedson nhw y bydden nhw’n eu cymryd i fodloni'r argymhellion.

Back to Advocacy Arrangements in Care Homes

Ffon: 08442 640670 | E-bost: gofyn@olderpeoplewales.com

Web Design WalesWebsite designed by Comgem.